1Yna Esdras a gyfododd o gyntedd y deml, ac a aeth i stafell Joanan mab Eliasib;
2Ac a arhosodd yno, ac ni fwytaodd fwyd, ac nid yfodd ddwfr, eithr wylodd dros anwireddau mawrion y dyrfa.
3Ac fe a gyhoeddwyd trwy holl Jwdea a Jerwsalem, am i’r holl rai a’r a oeddynt o’r gaethglud, ymgasglu ynghyd i Jerwsalem;
4A phwy bynnag ni chyfarfyddai yno o fewn dau ddydd neu dri, fel y gorchmynasai’r henuriaid oedd yn llywodraethu, eu hanifeiliaid hwy a atafaelid i gyfraid y deml, ac yntau a fwrid allan o blith y rhai oedd o’r gaethglud.
5Yna yr holl rai a’r a oeddynt o lwyth Jwda a Benjamin, a ddaethant ynghyd o fewn tridiau i Jerwsalem, ar y nawfed mis, ar yr ugeinfed dydd o’r mis.
6A’r holl dyrfa, yn crynu o achos y ddrycin y pryd hynny, a eisteddasant yn ehangder y deml.
7Yna Esdras a gyfododd, ac a ddywedodd wrthynt hwy, Chwi a droseddasoch y gyfraith, oherwydd i chwi briodi estronesau, ac felly amlhau pechodau Israel.
8Yn awr gan hynny cyfaddefwch, a rhoddwch ogoniant i Arglwydd Dduw ein tadau;
9A gwnewch ei ewyllys ef, ac ymneilltuwch oddi wrth genhedloedd y wlad, ac oddi wrth y gwragedd dieithr.
10Yna yr holl dyrfa a waeddasant, ac a ddywedasant â llef uchel, Nyni a wnawn fel y dywedaist.
11Ond oherwydd bod y gynulleidfa yn fawr, a’i bod hi yn ddrycin, fel na allom ni sefyll allan, ac oherwydd na ellir gorffen y gwaith yma mewn un diwrnod neu ddau, gan i lawer ohonom bechu yn yr achos yma:
12Am hynny arhosed penaethiaid y dyrfa, a deued yr holl rai o’n trigfannau ni, a’r sy ganddynt wragedd dieithr, ar yr amser nodedig;
13A deued gyda hwynt y rheolwyr a’r barnwyr allan o bob lle, hyd oni lonyddom ddigofaint yr Arglwydd yn ein herbyn am y peth hyn.
14Yna Jonathan mab Asael, ac Eseceias mab Theocanus, a gymerasant y mater yma arnynt: a Mosolam, a Leuis, a Sabbatheus, a’u cynorthwyodd hwynt;
15A’r rhai oedd o’r gaethglud a wnaethant ar ôl hyn oll.
16Ac Esdras yr offeiriad a ddetholodd iddo y gwŷr pennaf o’u teuluoedd, erbyn eu henwau oll: ac ar y dydd cyntaf o’r degfed mis hwy a gydeisteddasant i holi’r achos.
17Felly achos y rhai a briodasent wragedd dieithr a dducpwyd i ben y dydd cyntaf o’r mis cyntaf.
18Ac o’r offeiriaid a ddaethant ynghyd, ac a briodasent wragedd dieithr, y cafwyd yno;
19O feibion Jesus fab Josedec, a’i frodyr; Mathelas, ac Eleasar, Joribus a Joadanus,
20Y rhai a roddasant eu dwylo ar droi ymaith eu gwragedd, ac offrymu hwrdd yn iawn am eu hamryfusedd.
21Ac o feibion Emer; Ananeias, a Sabdeus, ac Eanes, a Sameius, a Hierel, ac Asareias.
22Ac o feibion Phaisur; Elionas, Massias, Ismael, a Nathanael, ac Ocidelus, a Thalsas.
23Ac o’r Lefiaid; Josabad, a Semis, a Cholius, yr hwn a elwid Calitas, a Phatheus, a Jwdas, a Jonas.
24O’r cantorion sanctaidd; Eleasurus, Bacchurus.
25O’r porthorion; Salumus, a Tholbanes.
26O’r rhai o Israel, o feibion Phoros; Hiermas, ac Edias, a Melcheias, a Maelus, ac Eleasar, ac Asibeias, a Baanias.
27O feibion Ela; Mathanias, Sachareias, a Hierielus, a Hieremoth, ac Aedias.
28Ac o feibion Samoth; Eliadas, Elisimus, Othonias, Jarimoth, a Sabbatus, a Sardeus.
29O feibion Bebai; Johannes, ac Ananeias, a Josabad, ac Amatheis.
30O feibion Mani; Olamus, Mamuchus, Jedeus, Jasubus, Jasael, a Hieremoth.
31Ac o feibion Adi; Naathus, a Moosias, Lacunus, a Naidus, a Mathanias, a Sesthel, a Balunus, a Manasseas.
32Ac o feibion Annas; Elionas, ac Aseas, a Melcheias, a Sabbeus, a Simon Chosameus.
33Ac o feibion Asom; Atanelus, a Matheias, a Banaia, Eliffalet, a Manasses, a Semi.
34Ac o feibion Maani; Jeremeias, Momdis, Omaerus, Juel, Mabdai, a Phelias, ac Anos, Carabasion, ac Enasibus, a Mamninatanaimus, Eliasis, Bannus, Eliali, Samis, Selenias, Nathaneias: ac o feibion Osora; Sesis, Esril, Asailus, Samatus, Sambis, Joseffus.
35Ac o feibion Ethma; Masiteias, Sabadeias, Edes, Juel, Banaias.
36Yr holl rai hyn a briodasent wragedd dieithr; a hwy a’u gyrasant hwy a’u plant ymaith.
37A’r offeiriaid, a’r Lefiaid, a’r rhai oedd o Israel, a drigasant yn Jerwsalem, ac yn y wlad, y dydd cyntaf o’r seithfed mis: felly plant Israel oedd yn trigo yn eu trigfaoedd.
38Yna’r holl dyrfa a ddaethant ynghyd, o unfryd, i’r fan eang o’r porth sanctaidd tua’r dwyrain;
39A hwy a ddywedasant wrth Esdras yr offeiriad a’r darllenydd, am iddo ddwyn cyfraith Moses, yr hon a roddasai Arglwydd Dduw Israel.
40Yna Esdras yr archoffeiriad a ddug y gyfraith at yr holl dyrfa, yn wŷr ac yn wragedd, ac at yr holl offeiriaid, fel y clywent hwy y gyfraith, y dydd cyntaf o’r seithfed mis.
41Ac efe a ddarllenodd yn y lle eang o flaen y porth sanctaidd, o’r bore hyd hanner dydd, o flaen gwŷr a gwragedd: a’r holl dyrfa a wrandawsant ar y gyfraith yn ddyfal.
42Felly Esdras yr offeiriad a darllenydd y gyfraith a safodd i fyny mewn pulpud o goed, yr hwn ydoedd wedi ei ddarparu i hynny.
43A Matatheias, Sammus, Ananeias, Asareias, Ureias, Eseceias, a Balasamus, a safasant yn ei ymyl ar y llaw ddeau;
44Ac ar ei law aswy ef, Phaldaius, Misael, Melcheias, Lothasubus, a Naebarias.
45Yna Esdras a gymerth lyfr y gyfraith, o flaen y dyrfa: canys yr oedd efe yn eistedd yn anrhydeddus yn y lle pennaf, yn eu gŵydd hwynt oll.
46A thra oedd efe yn agoryd y gyfraith, hwy a safasant oll yn eu hunion sefyll: ac Esdras a fendithiodd yr Arglwydd Dduw goruchaf, Duw y lluoedd Hollalluog.
47A’r holl bobl a atebasant, Amen; a chan godi eu dwylo, a syrthiasant i lawr, ac a addolasant yr Arglwydd.
48A Jesus, Anus, Sarabias, Adinus, Jacubus, Sabateas, Auteas, Maianeas, a Chalitas, Asareias, a Joasabdus, ac Ananeias, a Biatas, y Lefiaid, a ddysgasant gyfraith yr Arglwydd, gan wneuthur iddynt hefyd ei deall hi.
49Yna y llefarodd Attharates wrth Esdras yr archoffeiriad a’r darllenydd, ac wrth y Lefiaid oedd yn dysgu’r dyrfa, sef wrth bawb, gan ddywedyd,
50Y dydd hwn sydd sanctaidd i’r Arglwydd; (canys hwy a wylasant bawb, pan glywsant y gyfraith:)
51Ewch chwithau, a bwytewch y bras, ac yfwch y melys, ac anfonwch ran i’r rhai nid oes dim ganddynt:
52Canys y dydd hwn sy sanctaidd i’r Arglwydd; ac na fyddwch chwi drist: canys yr Arglwydd a’ch dwg chwi i anrhydedd.
53Felly y Lefiaid a gyhoeddasant yr holl bethau hyn i’r bobl, gan ddywedyd, Y dydd hwn sy sanctaidd i’r Arglwydd; na thristewch.
54Yna hwy a aethant ymaith bob un, i fwyta, ac i yfed, ac i wneuthur yn llawen ac i roddi rhan i’r rhai nid oedd dim ganddynt, ac i wledda;
55Oherwydd iddynt ddeall y geiriau y dysgasid hwy ynddynt, a’r rhai yr oeddynt wedi ymgynnull o’u hachos.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.