1Cadw y mis Abib, a chadw Basg i’r ARGLWYDD dy DDUW: canys o fewn y mis Abib y dug yr ARGLWYDD dy DDUW di allan o’r Aifft, o hyd nos.
2Abertha dithau yn Basg i’r ARGLWYDD dy DDUW, o ddefaid a gwartheg, yn y lle a ddewiso yr ARGLWYDD dy DDUW i drigo o’i enw ef yno.
3Na fwyta fara lefeinllyd gydag ef: saith niwrnod y bwytei gydag ef fara croyw, sef bara cystudd: (canys ar ffrwst y daethost allan o dir yr Aifft:) fel y cofiech ddydd dy ddyfodiad allan o dir yr Aifft holl ddyddiau dy einioes.
4Ac na weler gennyt surdoes yn dy holl derfynau saith niwrnod; ac nac arhoed dros nos hyd y bore ddim o’r cig a aberthaist yn yr hwyr, ar y dydd cyntaf.
5Ni elli aberthu y Pasg o fewn yr un o’th byrth, y rhai y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn eu rhoddi i ti:
6Ond yn y lle a ddewiso yr ARGLWYDD dy DDUW i drigo o’i enw ef ynddo; yno yr aberthi y Pasg yn yr hwyr, ar fachludiad haul, y pryd y daethost allan o’r Aifft.
7Yna y rhosti, ac y bwytei ef, yn y lle a ddewiso yr ARGLWYDD dy DDUW: a’r bore y dychweli, ac yr ei i’th babellau.
8Chwe diwrnod y bwytei fara croyw: ac ar y seithfed dydd y mae uchel ŵyl i’r ARGLWYDD dy DDUW; ni chei wneuthur gwaith ynddo.
9Cyfrif i ti saith wythnos: pan ddechreuo’r cryman ar yr ŷd, y dechreui rifo’r saith wythnos.
10A chadw ŵyl yr wythnosau i’r ARGLWYDD dy DDUW, ag offrwm gwirfodd dy law, yr hwn a roddi, megis y’th fendithio yr ARGLWYDD dy DDUW.
11A llawenycha gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW, ti, a’th fab, a’th ferch, a’th was, a’th forwyn, a’r Lefiad a fyddo o fewn dy byrth, a’r dieithr, a’r amddifad, a’r weddw, sydd yn dy fysg, yn y lle a ddewiso yr ARGLWYDD dy DDUW i drigo o’i enw ef ynddo.
12Cofia hefyd mai caethwas fuost yn yr Aifft: a chadw a gwna y deddfau hyn.
13Cadw i ti ŵyl y pebyll saith niwrnod, wedi i ti gasglu dy ŷd a’th win.
14A llawenycha yn dy ŵyl, ti, a’th fab, a’th ferch, a’th was, a’th forwyn, a’r Lefiad, a’r dieithr, a’r amddifad, a’r weddw, y rhai fyddant o fewn dy byrth.
15Saith niwrnod y cedwi ŵyl i’r ARGLWYDD dy DDUW, yn y lle a ddewiso yr ARGLWYDD: canys yr ARGLWYDD dy DDUW a’th fendithia yn dy holl gnwd, ac yn holl waith dy ddwylo; am hynny bydd dithau lawen.
16Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys pob gwryw ohonot o flaen yr ARGLWYDD dy DDUW, yn y lle a ddewiso efe; ar ŵyl y bara croyw, ac ar ŵyl yr wythnosau, ac ar ŵyl y pebyll: ond nac ymddangosed neb o flaen yr ARGLWYDD yn waglaw.
17Pob un yn ôl rhodd ei law, yn ôl bendith yr ARGLWYDD dy DDUW yr hon a roddes efe i ti.
18Gwna i ti farnwyr a blaenorion yn dy holl byrth, y rhai y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn eu rhoddi i ti trwy dy lwythau; a barnant hwy y bobl â barn gyfiawn.
19Na ŵyra farn, ac na chydnebydd wynebau; na dderbyn wobr chwaith: canys gwobr a ddalla lygaid y doethion, ac a ŵyra eiriau y cyfiawn.
20Cyfiawnder, cyfiawnder a ddilyni; fel y byddych fyw, ac yr etifeddych y tir yr hwn y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti.
21Na phlanna i ti lwyn o neb rhyw goed gerllaw allor yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hon a wnei i ti.
22Ac na chyfod i ti golofn; yr hyn sydd gas gan yr ARGLWYDD dy DDUW.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.