1Ac Antiochus y brenin a dramwyodd trwy’r gwledydd uchaf, ac a glybu fod Elymais o fewn Persia yn ddinas enwog iawn am olud, am arian ac aur;
2A bod teml gyfoethog iawn ynddi hi, a gwisgoedd o aur, a llurigau, a tharianau, y rhai a adawsai Alexander mab Philip brenin Macedonia yno, yr hwn a deyrnasasai yn gyntaf ymysg y Groegwyr.
3Am hynny efe a ddaeth, ac a geisiodd ennill y ddinas, a’i hysbeilio hi; ond ni allai efe, oblegid cael o’r dinasyddion wybod y peth.
4A hwy a godasant yn ei erbyn ef i ryfel; ac efe a ffodd, ac a ymadawodd oddi yno mewn tristwch mawr, ac a ddychwelodd i Babilon.
5Hefyd rhyw un a ddaeth, ac a fynegodd iddo ef yn Persia, ymlid ymaith y lluoedd a aethai i wlad Jwdea;
6Ac fel yr aethai Lysias â llu cadarn yn gyntaf, ac yr ymlidiesid ef o’u blaen hwynt; ac fel yr aethant hwy yn gryfach o ran arfau a llu, ac ysbail lawer, y rhai a ddygasent oddi ar y lluoedd a dorasent hwy ymaith;
7Ac fel y tynasent i lawr y ffieiddbeth a osodasai efe ar yr allor yn Jerwsalem, ac yr amgylchasent hwy y cysegr â chaerau uchel, fel y buasai efe o’r blaen, a Bethsura ei ddinas ef hefyd.
8Pan glybu’r brenin y geiriau hyn, fe synnodd arno, ac a gythruddodd yn ddirfawr: am hynny efe a orweddodd ar ei wely, ac a syrthiodd mewn clefyd oddi wrth y tristwch hwnnw, a’r cwbl am na ddigwyddasai iddo fel yr oedd efe yn disgwyl.
9Ac efe a arhodd yno lawer o ddyddiau; canys ei dristwch ef oedd fwyfwy; ac efe a wnaeth gyfrif y byddai efe farw.
10Am hynny efe a ddanfonodd am ei holl garedigion, ac a ddywedodd wrthynt, Mae’r cysgu wedi ymadael â’m llygaid, ac fe lesgaodd fy nghalon o wir ofal:
11A mi a ddywedais yn fy nghalon, I ba drallod y deuthum, ac ym mha afonydd o drymder yr ydwyf yr awr hon, lle’r oeddwn i o’r blaen yn hael ac yn gariadus yn fy awdurdod!
12Ac yr awron yr ydwyf fi yn cofio’r drwg a wneuthum i yn Jerwsalem, fel y dygais ymaith yr holl lestri aur ac arian oedd ynddi hi, ac fel y danfonais i ddistrywio trigolion Jwdea yn ddiachos.
13Myfi a wn mai am hynny y daeth y drygau hyn arnaf; ac wele, darfu amdanaf fi trwy alaeth mawr mewn gwlad ddieithr.
14Yna efe a alwodd am Philip, un o’i garedigion, ac a’i gosododd ef yn llywodraethwr ar ei holl deyrnas,
15Ac a roddes iddo ef ei goron, a’i fantell, a’i fodrwy, fel y gallai efe gymryd Antiochus ei fab ef ato, a’i ddwyn ef i fyny i deyrnasu.
16Ac Antiochus y brenin a fu farw yno, yn y nawfed flwyddyn a deugain a chant.
17Pan wybu Lysias farw o’r brenin, efe a osododd i deyrnasu yn ei le ef Antiochus ei fab ef, yr hwn a ddygasai efe i fyny yn ieuanc, ac a’i galwodd ef Eupator.
18A’r rhai oedd yn y castell yn Jerwsalem a gadwasant yr Israeliaid i mewn o amgylch y cysegr, ac a geisiasant eu drygu hwy yn wastadol, a chadarnhau’r Cenhedloedd.
19Am hynny y bwriadodd Jwdas eu distrywio hwy; ac efe a gasglodd yr holl bobl ynghyd i’w hamgylchynu hwy.
20Felly hwy a ddaethant ynghyd, ac a’u hamgylchynasant hwy yn y ddegfed flwyddyn a deugain a chant: ac efe a wnaeth leoedd i’r taflwyr i sefyll, a rhyfel-offer eraill.
21Er hynny rhai o’r rhai yr oeddid yn eu hamgylchu a aethant allan, a rhai o wŷr annuwiol Israel a lynasant wrthynt,
22Ac a aethant at y brenin, ac a ddywedasant, Pa hyd y byddi di heb wneuthur cosbedigaeth a dialedd ar ein brodyr?
23Yr oeddem ni yn fodlon i wasanaethu dy dad di, i rodio fel y dywedai efe, ac i ufuddhau i’w orchmynion ef.
24Am hynny ein pobl a ymddieithrasant oddi wrthym ni, a pha le bynnag y cawsant hwy neb ohonom, hwy a’u lladdasant; a hwy a ysbeiliasant ein hetifeddiaeth ni.
25Ac nid estynasant hwy eu dwylo yn unig yn ein herbyn ni, ond yn erbyn ein holl gyffiniau.
26Ac wele, y maent hwy wedi gwersyllu heddiw yn erbyn y castell sydd yn Jerwsalem i’w oresgyn ef; a hwy a gadarnhasant y cysegr, a Bethsura.
27Ac oddieithr i ti achub eu blaen hwy yn fuan, hwy a wnânt bethau mwy na’r rhain, fel nas gellych di eu rheoli hwynt.
28Pan glybu’r brenin hynny, efe a ddigiodd, ac a gasglodd ei holl garedigion ynghyd, capteiniaid ei lu, a’r rhai oedd ar ei wŷr meirch ef.
29Yna y daeth ato ef oddi wrth frenhinoedd eraill, ac o ynysoedd y môr, lu ar gyflog.
30A rhifedi ei lu ef oedd gan mil o wŷr traed, ac ugeinmil o wŷr meirch, a deuddeg ar hugain o eliffantiaid wedi eu dysgu i ryfela.
31Y rhai hyn a ddaethant trwy Idumea, ac a wersyllasant yn erbyn Bethsura, ac a ryfelasant tros lawer o ddyddiau, ac a osodasant allan lawer o ryfel-offer yn ei herbyn hi: ond yr Iddewon a ddaethant allan, ac a losgasant y rheini â thân, ac a ymladdasant fel gwŷr.
32Yna Jwdas a ymadawodd oddi wrth y castell, ac a wersyllodd yn Bathsachareias, gyferbyn â gwersyll y brenin.
33A’r brenin a gyfododd yn fore iawn, ac a ddygodd y llu ar ruthr tua Bathsachareias, ac a ymrannodd i ryfela, ac a ganodd utgyrn.
34A hwy a ddangosasant sugn grawnwin a morwydd i’r eliffantiaid, i’w hannog hwy i ymladd;
35Ac a ranasant yr anifeiliaid ymysg y byddinoedd, ac a ordeiniasant fil o wŷr wedi eu gwisgo mewn llurigau o fodrwyau, ac â helmau o bres am eu pennau, i bob eliffant; a phum cant o wŷr meirch etholedig a ordeiniwyd hefyd i bob eliffant.
36Y rhai hyn oedd barod bob amser; lle byddai yr anifail y byddent, gan fyned i ba le bynnag yr elai efe; ac ni ymadawent oddi wrtho ef.
37A phob eliffant a orchuddiasid â thŵr cadarn o goed, wedi ei sicrhau arno ef ag offer: ac ar bob un yr oedd deuddeg ar hugain o wŷr i ymladd oddi arno ef; a gŵr o India i lywodraethu’r anifail.
38A hwy a osodasant weddill y gwŷr meirch o’r tu yma ac o’r tu acw, wrth ddwy ran y llu, gan roddi arwyddion iddynt beth a wnaent, ac wedi eu hollarfogi ymysg byddinoedd.
39A phan dywynnai yr haul ar y tarianau aur a phres, y mynyddoedd a ddisgleiriai oddi wrthynt hwy; ac yr oeddynt yn llewyrchu fel lampau tân.
40A rhan o lu y brenin oedd wedi ymdaenu ar y mynyddoedd uchel, a rhan ar y lleoedd isel; ac felly hwy a aethant yn ddiogel ac mewn trefn.
41A synnu a wnaeth ar bawo a’r a glybu sŵn eu lliaws hwy, a cherddediad y llu, a thrwst yr arfau yn taro ynghyd; canys yr oedd y llu yn fawr anianol ac yn gryf.
42Jwdas hefyd a’i lu a nesaodd i’r rhyfel; ac fe laddwyd chwe chant o wŷr o lu y brenin.
43Pan welodd Eleasar, â’i gyfenw Safaran, un o’r eliffantiaid wedi ei wisgo ag arfau brenhinol, ac yn uwch na’r anifeiliaid eraill, efe a feddyliodd fod y brenin ar hwnnw,
44Ac a ymroes i achub ei bobl, ac i ennill iddo ei hun enw tragwyddol;
45Ac a redodd yn galonnog at yr eliffant hwnnw trwy ganol y fyddin, ac a’u lladdodd hwy ar y llaw ddeau, ac ar y llaw aswy, oni ymwahanasant oddi wrtho ef o bob tu.
46Ac efe a aeth dan yr eliffant, ac a’i brathodd oddi tano, ac a’i lladdodd ef: yna’r eliffant a syrthiodd i lawr arno ef, ac efe a fu farw yno.
47Ond pan welodd yr Iddewon eraill gryfdwr y brenin a nerth y lluoedd, hwy a giliasant oddi wrthynt.
48A’r rhai oedd o lu y brenin a aethant i fyny i gyfarfod â hwynt i Jerwsalem; a’r brenin a wersyllodd yn erbyn Jwdea, ac yn erbyn mynydd Seion.
49Hefyd y brenin a wnaeth heddwch rhyngddo a’r rhai oedd yn Bethsura; a hwy a ddaethant allan o’r ddinas, am nad oedd ganddynt ymborth yno, i aros y gwarchae, oblegid ei bod hi yn Saboth i’r tir.
50Felly y brenin a gymerodd Bethsura, ac a osododd wŷr i’w chadw hi.
51Ac efe a osododd ryfel yn erbyr y cysegr dros lawer o ddyddiau, ac a osododd yno dafl-arfau a rhyfel-offer, bwâu, a gwaith i saethu tân, a gwaith i saethu cerrig, ac ysgorpionau i saethu saethau a thaflau.
52Yr Iddewon hefyd a wnaethant ryfel-offer yn erbyn yr eiddynt hwythau, ac a ymladdasant â hwynt dros hir amser.
53Ond nid oedd mo’r bwyd yn eu llestri; oblegid y seithfed flwyddyn oedd hi, a’r rhai yn Jwdea, a’r a achubasid o blith y Cenhedloedd, a fwytasent eu holl stôr hwy;
54Ac ni adawsid ond ychydig wŷr yn y cysegr, oblegid newyn a’u gorchfygasai hwy, oni thynasent hwy ymaith bob un i’w le ei hun.
55Pan glybu Lysias fod Philip, (yr hwn a osodasai Antiochus y brenin pan oedd efe eto yn fyw, i ddwyn Antiochus ei fab i fyny i deyrnasu,)
56Wedi dyfod drachefn o Persia a Media, â llu’r brenin, yr hwn a aethai gydag ef, a’i fod ef yn ceisio cymryd materion y frenhiniaeth ar ei law:
57Yna efe a frysiodd, ac a aeth, ac a ddywedodd wrth y brenin, a chapteiniaid y llu, a’r gwŷr eraill, Yr ydym ni yn lleihau beunydd, ac nid oes gennym ond ychydig ymborth: drachefn, y lle yr ydym ni yn ei amgylchu sy gadarn, ac arnom ni y mae cymryd gofal am y deyrnas.
58Am hynny rhoddwn ddeau ddwylo i’r gwŷr hyn; gwnawn heddwch rhyngom a hwynt, ac a’u holl genedl:
59A chaniatawn iddynt fyw yn ôl eu cyfraith, fel yr oeddynt o’r blaen: canys am hyn y maent hwy wedi cythruddo, a hyn oll a wnaethant hwy am ddileu ohonom ni eu cyfreithiau hwynt.
60A’r brenin a’r tywysogion a fuant fodlon: ac efe a ddanfonodd atynt hwy i gynnig heddwch; a hwy a’i derbyniasant.
61A’r brenin a’r tywysogion a dyngasant iddynt; ac ar hynny hwy a ddaethant allan o’r castell.
62A’r brenin a aeth i fyny i fynydd Seion; ond pan welodd efe gadernid y lle, efe a dorrodd y llw a dyngasai efe, ac a orchmynnodd dynnu’r gaer i lawr oddi amgylch.
63Yna efe a ymadawodd ar frys, ac a ddychwelodd i Antiochia, ac a gafodd Philip yn arglwyddiaethu ar y ddinas, ac a ymladdodd ag ef, ac a oresgynnodd y ddinas wrth gryfder.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.