1 Corinthiaid 13 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Pe llefarwn â thafodau dynion ac angylion, ac heb fod gennyf gariad, yr wyf fel efydd yn seinio, neu symbal yn tincian.

2A phe byddai gennyf broffwydoliaeth, a gwybod ohonof y dirgelion oll, a phob gwybodaeth; a phe bai gennyf yr holl ffydd, fel y gallwn symudo mynyddoedd, ac heb gennyf gariad, nid wyf fi ddim.

3A phe porthwn y tlodion â’m holl dda, a phe rhoddwn fy nghorff i’m llosgi, ac heb gariad gennyf, nid yw ddim llesâd i mi.

4Y mae cariad yn hirymaros, yn gymwynasgar; cariad nid yw yn cenfigennu; nid yw cariad yn ymffrostio, nid yw yn ymchwyddo,

5Nid yw yn gwneuthur yn anweddaidd, nid yw yn ceisio yr eiddo ei hun, ni chythruddir, ni feddwl ddrwg;

6Nid yw lawen am anghyfiawnder, ond cydlawenhau y mae â’r gwirionedd;

7Y mae yn dioddef pob dim, yn credu pob dim, yn gobeithio pob dim, yn ymaros â phob dim.

8Cariad byth ni chwymp ymaith: eithr pa un bynnag ai proffwydoliaethau, hwy a ballant; ai tafodau, hwy a beidiant; ai gwybodaeth, hi a ddiflanna.

9Canys o ran y gwyddom, ac o ran yr ydym yn proffwydo.

10Eithr pan ddelo’r hyn sydd berffaith, yna yr hyn sydd o ran a ddileir.

11Pan oeddwn fachgen, fel bachgen y llefarwn, fel bachgen y deallwn, fel bachgen y meddyliwn: ond pan euthum yn ŵr, mi a rois heibio bethau bachgennaidd.

12Canys gweled yr ydym yr awr hon trwy ddrych, mewn dameg; ond yna, wyneb yn wyneb: yn awr yr adwaen o ran; ond yna yr adnabyddaf megis y’m hadwaenir.

13Yr awr hon y mae yn aros ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn; a’r mwyaf o’r rhai hyn yw cariad.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help