Ecclesiasticus (Sirach) 8 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 8

1Nac ymryson â gŵr cadarn, rhagsyrthio ohonot yn ei law ef.

2Nac ymgynhenna â gŵr cyfoethog, rhag iddo roddi pwys i’th erbyn di: oblegid aur a ddifethodd lawer, ac a ŵyrodd galonnau brenhinoedd.

3Nac ymgynhenna â gŵr siaradus, ac na phentyrra goed ar ei dân ef.

4Na chellwair â’r annysgedig, rhag amherchi dy hynafiaid di.

5Na ddannod i’r dyn a drodd oddi wrth bechod: cofia ein bod ni oll dan gerydd.

6Nac amharcha ddyn yn ei henaint: canys y mae rhai ohonom ninnau yn heneiddio.

7Na lawenycha am farw yr hwn sy fwyaf gelyn i ti: cofia ein bod ni oll yn marw.

8Na ddiystyra draethawd y doethion, eithr ymarfer di â’u diarhebion hwynt: oblegid ganddynt hwy y dysgi di addysg, a gwasanaethu pendefigion yn hawdd.

9Nac ymado â thraethiad henuriaid: oblegid hwynt-hwy a ddysgasant gan eu tadau; canys ganddynt hwy y dysgi di ddeall, a rhoddi ateb pan fyddo rhaid.

10Na chynnau farwor pechadur, rhag dy losgi yn fflam ei dân ef.

11Na chyfod mewn dig o flaen y trahaus, rhag iddo eistedd fel un yn cynllwyn yn erbyn dy enau di.

12Nac echwynna i ddyn cryfach na thi: ac os echwynni, bydd fel un wedi colli.

13Na fechnïa am fwy nag a allech: ac os mechnïi, meddwl am dalu.

14Nac ymgyfreithia ag Ustus; oblegid wrth ei feddwl ef y barnant hwy iddo ef.

15Na ddos ar hyd y ffordd gydag un hy, rhag iddo fod yn drwm wrthyt: oblegid wrth ei ewyllys ei hun y gwna efe, a thrwy ei anghallineb ef y derfydd amdanat tithau gydag ef.

16Na wna gynnen â’r dicllon, ac na ddos gydag ef i anialwch: fel diddim yw gwaed yn ei olwg ef; ac efe a’th gwympa di yno lle nid oes help.

17Nac ymgynghora â’r ffôl; oherwydd ni fedr efe gelu gair.

18Na wna beth cyfrinachol o flaen y dieithr: oblegid ni wyddost ti beth a esgyr efe.

19Na amlyga dy galon i bob dyn, rhag iddo roddi gau ddiolch i ti.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help