Eseia 21 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Baich anialwch y môr. Fel y mae corwynt yn y deau yn myned trwodd; felly y daw o’r anialwch, o wlad ofnadwy.

2Gweledigaeth galed a fynegwyd i mi. Yr anffyddlon sydd yn anffyddloni, a’r dinistrydd sydd yn dinistrio. Elam, dring; Media, gwarchae; gwneuthum i’w holl riddfan hi ddarfod.

3Am hynny y llanwyd fy llwynau o ddolur; gwewyr a’m daliasant fel gwewyr gwraig yn esgor; syrthiais wrth ei glywed, brawychais wrth ei weled.

4Cyfeiliornodd fy nghalon, braw a’m dychrynodd; efe a drodd fy nghyfnos ddymunol yn ddychryn i mi.

5Paratoa y bwrdd, gwylia yn y ddisgwylfa, bwyta, yf; cyfodwch, dywysogion; eneiniwch y darian.

6Oherwydd fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Dos, gosod wyliedydd, myneged yr hyn a welo.

7Ac efe a welodd gerbyd, a dau o wŷr meirch, cerbyd asynnod, a cherbyd camelod; ac efe a ystyriodd yn ddyfal iawn dros ben.

8Ac efe a lefodd, Llew: fy arglwydd, ar y ddisgwylfa yr wyf fi yn sefyll liw dydd yn wastad, ac ar fy nghadwriaeth yr ydwyf yn sefyll bob nos.

9Ac wele, yma y mae yn dyfod gerbyd o wŷr, a dau o wŷr meirch. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Syrthiodd, syrthiodd Babilon; a holl ddelwau cerfiedig ei duwiau hi a ddrylliodd efe i lawr.

10O fy nyrniad, a chnwd fy llawr dyrnu! yr hyn a glywais gan ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel, a fynegais i chwi.

11Baich Duma, Arnaf fi y mae yn galw o Seir, Y gwyliedydd, beth am y nos? y gwyliedydd, beth am y nos? y gwyliedydd, beth am y nos?

12Dywedodd y gwyliedydd, Daeth y bore a’r nos hefyd: os ceisiwch, ceisiwch: dychwelwch, deuwch.

13Baich ar Arabia. Yn y coed yn Arabia y lletywch chwi, fforddolion Dedanim.

14Dygwch ddyfroedd i gyfarfod â’r sychedig, trigolion tir Tema, achubwch flaen y crwydrus â’i fara.

15Oherwydd rhag cleddyfau y ffoesant, rhag y cleddyf noeth, a rhag y bwa anelog, a rhag trymder rhyfel.

16Oherwydd fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf fi, Cyn pen blwyddyn, o fath blwyddyn gwas cyflog, y derfydd hefyd holl anrhydedd Cedar:

17A’r gweddill o rifedi saethyddion gwŷr cedyrn meibion Cedar, a leiheir: canys ARGLWYDD DDUW Israel a’i dywedodd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help