Y Salmau 2 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 2

1Paham y terfysga y cenhedloedd, ac y myfyria y bobloedd beth ofer?

2Y mae brenhinoedd y ddaear yn ymosod, a’r penaethiaid yn ymgynghori ynghyd, yn erbyn yr ARGLWYDD, ac yn erbyn ei Grist ef, gan ddywedyd,

3Drylliwn eu rhwymau hwy, a thaflwn eu rheffynnau oddi wrthym.

4Yr hwn sydd yn preswylio yn y nefoedd a chwardd: yr ARGLWYDD a’u gwatwar hwynt.

5Yna y llefara efe wrthynt yn ei lid, ac yn ei ddicllonrwydd y dychryna efe hwynt.

6Minnau a osodais fy Mrenin ar Seion fy mynydd sanctaidd.

7Mynegaf y ddeddf: dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Fy Mab ydwyt ti; myfi heddiw a’th genhedlais.

8Gofyn i mi, a rhoddaf y cenhedloedd yn etifeddiaeth i ti, a therfynau y ddaear i’th feddiant.

9Drylli hwynt â gwialen haearn; maluri hwynt fel llestr pridd.

10Gan hynny yr awr hon, frenhinoedd, byddwch synhwyrol: barnwyr y ddaear, cymerwch ddysg.

11Gwasanaethwch yr ARGLWYDD mewn ofn, ac ymlawenhewch mewn dychryn.

12Cusenwch y Mab, rhag iddo ddigio, a’ch difetha chwi o’r ffordd, pan gyneuo ei lid ef ond ychydig. Gwyn eu byd pawb a ymddiriedant ynddo ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help