1Gwrandewch gan hynny, O frenhinoedd, a deellwch; O farnwyr eithafoedd y ddaear, cymerwch ddysg.
2Rhoddwch glust, lywodraethwyr y dyrfa; a’r rhai ydych feilchion o liaws cenhedloedd.
3Oblegid y cryfder a gawsoch chwi gan yr Arglwydd, a’r gallu gan y Goruchaf, yr hwn a ymofyn am eich gweithredoedd chwi, ac a chwilia allan eich cynghorion.
4Am i chwi yn weinidogion o’i frenhiniaeth ef, na farnasoch yn uniawn, ac na chadwasoch y gyfraith, ac na rodiasoch yn ôl ewyllys Duw,
5Yn aruthr ac yn ebrwydd y daw efe atoch chwi: oherwydd barn dost fydd i’r llywodraethwyr.
6Y lleiaf a ddichon gael maddeuant yn drugarog; a’r cedyrn a gystuddir yn gadarn.
7Oblegid yr hwn sydd Arglwydd ar bawb, nid ystyr wyneb, ac ni ofna fawredd: canys efe a wnaeth y mawr a’r bychan, ac a ofala yr un modd am bawb:
8Ond ar y cedyrn y daw hawl gadarn.
9Wrthych chwi am hynny, frenhinoedd, y mae fy ngeiriau i, fel y dysgoch ddoethineb heb ballu.
10Oblegid y rhai a gadwant y pethau sanctaidd yn sanctaidd, a sancteiddir; a’r rhai a’u dysgasant hwy a gânt beth i’w ateb drostynt eu hunain.
11Chwenychwch gan hynny fy ngeiriau i; dymunwch hwynt, a chwi a fyddwch ddysgedig.
12Doethineb sy ddisglair, ac ni dderfydd: hawdd y canfyddir hi gan y rhai a’i hoffant, a hawdd y ceir hi gan y rhai a’i ceisiant.
13Y mae hi yn myned i gyfarfod y rhai a’i chwenychant, fel yr adwaener hi yn gyntaf.
14Nid rhaid poen i’r hwn a gyfodo’n fore amdani hi: oblegid efe a’i caiff hi yn eistedd wrth ei ddrysau.
15Canys perffeithrwydd synnwyr yw meddwl amdani hi, a’r hwn a wylio amdani hi, a fydd ddiofal yn ebrwydd.
16Oblegid y mae hi yn myned o amgylch, dan geisio y rhai sy deilwng ohoni; y mae hi yn ymddangos yn llawen iddynt hwy ar y llwybrau, ac yn cyfarfod â hwynt ar bob meddwl.
17Ei dechreuad hi yw gwir chwant i addysg; a gofal addysg yw cariad;
18A chariad yw ceidwad ei chyfreithiau hi: a sicrwydd o anllygredigaeth yw gwrando ar y gyfraith.
19Anllygredigaeth hefyd sydd yn peri bod yn agos i Dduw:
20Oblegid hynny, chwant doethineb sydd yn dwyn i’r deyrnas.
21Am hynny, O frenhinoedd y bobl, os melys gennych orseddfeinciau a theyrnwiail, anrhydeddwch ddoethineb, fel y teyrnasoch byth.
22Eithr beth yw doethineb, a pha fodd y gwnaed hi, mi a fynegaf i chwi, ac ni chuddiaf ddirgeledigaethau rhagoch: eithr o ddechreuad ei genedigaeth yr olrheiniaf hi, ac y gosodaf ei gwybodaeth hi yn amlwg, ac nid af fi dros y gwirionedd.
23Ac ni chydymdeithiaf fi â chenfigen ddihoenedig, oblegid ni bydd y cyfryw un yn gyfrannog o ddoethineb.
24Iachawdwriaeth y byd yw llawer o ddoethion; ac ateg y bobl yw brenin call.
25Am hynny cymerwch addysg trwy fy ngeiriau i, a chwi a gewch fudd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.