Josua 17 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Ac yr oedd rhandir llwyth Manasse, (canys efe oedd gyntaf-anedig Joseff,) i Machir, cyntaf-anedig Manasse, tad Gilead: oherwydd ei fod efe yn rhyfelwr, yr oedd Gilead a Basan yn eiddo ef.

2Ac yr oedd rhandir i’r rhan arall o feibion Manasse, yn ôl eu teuluoedd; sef i feibion Abieser, ac i feibion Helec, ac i feibion Asriel, ac i feibion Sichem, ac i feibion Heffer, ac i feibion Semida: dyma feibion Manasse mab Joseff, sef y gwrywiaid, yn ôl eu teuluoedd.

3Ond Salffaad mab Heffer, mab Gilead, mab Machir, mab Manasse, nid oedd iddo feibion, ond merched: a dyma enwau ei ferched ef; Mala, a Noa, Hogla, Milca, a Thirsa:

4Y rhai a ddaethant o flaen Eleasar yr offeiriad, ac o flaen Josua mab Nun, ac o flaen y tywysogion, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD a orchmynnodd i Moses roddi i ni etifeddiaeth ymysg ein brodyr: am hynny efe a roddodd iddynt etifeddiaeth, yn ôl gair yr ARGLWYDD, ymysg brodyr eu tad.

5A deg rhandir a syrthiodd i Manasse, heblaw gwlad Gilead a Basan, y rhai sydd tu hwnt i’r Iorddonen;

6Canys merched Manasse a etifeddasant etifeddiaeth ymysg ei feibion ef: a gwlad Gilead oedd i’r rhan arall o feibion Manasse.

7A therfyn Manasse oedd o Aser i Michmethath, yr hon sydd gyferbyn â Sichem; a’r terfyn oedd yn myned ar y llaw ddeau, hyd breswylwyr Entappua.

8Gwlad Tappua oedd eiddo Manasse: ond Tappua, yr hon oedd ar derfyn Manasse, oedd eiddo meibion Effraim.

9A’r terfyn sydd yn myned i waered i afon Cana, o du deau yr afon. Y dinasoedd hyn, eiddo Effraim, oedd ymhlith dinasoedd Manasse: a therfyn Manasse sydd o du y gogledd i’r afon, a’i ddiwedd oedd y môr.

10Y deau oedd eiddo Effraim, a’r gogledd eiddo Manasse; a’r môr oedd ei derfyn ef: ac yn Aser yr oeddynt yn cyfarfod, o’r gogledd; ac yn Issachar, o’r dwyrain.

11Yn Issachar hefyd ac yn Aser yr oedd gan Manasse, Beth-sean a’i threfydd, ac Ibleam a’i threfydd, a thrigolion Dor a’i threfydd, a thrigolion En-dor a’i threfydd, a phreswylwyr Taanach a’i threfydd, a thrigolion Megido a’i threfydd; tair talaith.

12Ond ni allodd meibion Manasse yrru ymaith drigolion y dinasoedd hynny; eithr mynnodd y Canaaneaid breswylio yn y wlad honno.

13Eto pan gryfhaodd meibion Israel, hwy a osodasant y Canaaneaid dan dreth: ni yrasant hwynt ymaith yn llwyr.

14A meibion Joseff a lefarasant wrth Josua, gan ddywedyd, Paham y rhoddaist i mi, yn etifeddiaeth, un afael ac un rhan, a minnau yn bobl aml, wedi i’r ARGLWYDD hyd yn hyn fy mendithio?

15A Josua a ddywedodd wrthynt, Os pobl aml ydwyt, dos i fyny i’r coed, a thor goed i ti yno yng ngwlad y Pheresiaid, a’r cewri, od yw mynydd Effraim yn gyfyng i ti.

16A meibion Joseff a ddywedasant, Ni bydd y mynydd ddigon i ni: hefyd y mae cerbydau heyrn gan yr holl Ganaaneaid sydd yn trigo yn y dyffryndir, gan y rhai sydd yn Beth-sean a’i threfi, a chan y rhai sydd yng nglyn Jesreel.

17A Josua a ddywedodd wrth dŷ Joseff, wrth Effraim ac wrth Manasse, gan ddywedyd, Pobl aml ydwyt, a nerth mawr sydd gennyt: ni fydd i ti un rhan yn unig:

18Eithr bydd y mynydd eiddot ti: canys coediog yw, arloesa ef; a bydd ei eithafoedd ef eiddot ti: canys ti a yrri ymaith y Canaaneaid, er bod cerbydau heyrn ganddynt, ac er eu bod yn gryfion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help