I Macabeiad 13 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 13

1Pan glybu Simon gasglu o Tryffon lu mawr i ddyfod i wlad Jwdea i’w difetha hi,

2A gweled fod y bobl yn ddychrynedig ac yn ofnus iawn, efe a aeth i fyny i Jerwsalem, ac a gasglodd y bobl ynghyd;

3Ac efe a’u cysurodd hwynt, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch eich hunain pa bethau eu maint a wneuthum i, a’m brodyr, a thŷ fy nhad, dros y gyfraith a’r cysegr; a’r rhyfeloedd a’r ing a welsom ni.

4O achos hyn y lladdwyd fy mrodyr oll er mwyn Israel, a mi a adawyd fy hunan.

5Ac yr awr hon na ato Duw i mi arbed fy einioes yn amser cystudd: oblegid nid ydwyf fi well na’m brodyr:

6Eithr mi a ddialaf fy nghenedl, a’r cysegr, a’ch gwragedd a’ch plant chwi: oblegid yr holl genhedloedd a ymgasglasant i’n difetha ni o wir elyniaeth.

7Ac ysbryd y bobl a adfywiodd er cynted y clywsant y geiriau hyn.

8A hwy a atebasant â llef uchel, gan ddywedyd, Tydi yw ein capten yn lle Jwdas a Jonathan dy frodyr.

9Rhyfela ein rhyfel ni; a pha beth bynnag a ddywedech di wrthym, ni a’i gwnawn.

10Yntau a gasglodd yr holl ryfelwyr, ac a frysiodd i orffen caerau Jerwsalem, ac a’i cadarnhaodd hi o amgylch.

11Ac efe a anfonodd Jonathan fab Absalom â llu mawr gydag ef i Jope; ac efe a fwriodd allan y rhai oedd ynddi, ac efe a arhodd yno ynddi hi.

12A Thryffon a symudodd o Ptolemais â llu mawr i fyned i mewn i dir Jwdea; a Jonathan gydag ef yng ngharchar.

13A Simon a wersyllodd yn Adida, ar gyfer y maes.

14Pan wybu Tryffon godi Simon yn lle Jonathan ei frawd, ac y cydiai efe mewn rhyfel ag ef, efe a anfonodd genhadau ato, gan ddywedyd,

15Am yr arian oedd ddyledus ar Jonathan dy frawd i drysor y brenin, am y swyddau oedd ganddo ef, y daliasom ni ef.

16Yr awron gan hynny anfon gan talent o arian, a dau o’i feibion ef yn wystlon, fel pan ollynger ef, na chilio efe oddi wrthym ni, ac ni a’i gollyngwn ef.

17Ac er bod Simon yn gwybod mai yn dwyllodrus yr oeddynt yn ymddiddan; eto efe a anfonodd yr arian a’r ddau fachgen, rhag iddo gael cas mawr gan y bobl;

18Y rhai a ddywedent, Am na anfonodd efe yr arian a’r bechgyn, y darfu am Jonathan.

19Am hynny efe a anfonodd y bechgyn a’r can talent: yntau Tryffon a fu gelwyddog, ac ni ollyngodd Jonathan ymaith.

20Ac wedi hyn y daeth Tryffon i fyned yn erbyn y wlad ac i’w difetha hi, ac efe a aeth o amgylch y ffordd sydd yn arwain i Adora: a Simon a’i lu a aethant yn ei erbyn ef, i bob lle a’r yr âi yntau iddo.

21A’r rhai oedd yn y tŵr a anfonasant at Tryffon genhadau, i beri iddo frysio i ddyfod atynt hwy trwy’r diffeithwch, ac i yrru iddynt ymborth.

22Yna y paratôdd Tryffon ei wŷr meirch i ddyfod; a’r noson honno y bu eira mawr iawn, ac ni ddaeth efe oblegid yr eira: ac efe a ymadawodd, ac a aeth i wlad Galaad.

23A phan nesaodd efe at Bascama, efe a laddodd Jonathan: ac yno y claddwyd ef.

24Yna y dychwelodd Tryffon, ac yr aeth i’w wlad ei hun.

25A Simon a yrrodd, ac a gymerodd esgyrn ei frawd Jonathan; a hwy a’i claddasant ym Modin, dinas ei hynafiaid.

26Ac Israel oll a alarasant amdano ef â galar mawr, ie, hwy a alarasant amdano ef ddyddiau lawer.

27A Simon a wnaeth adeiladaeth ar fedd ei dad a’i frodyr, ac a’i gwnaeth yn uchel mewn golwg, â cherrig nadd yn ôl ac ymlaen.

28Ac efe a osododd heblaw hynny saith pyramid, y naill ar gyfer y llall, i’w dad, a’i fam, a’i bedwar brawd.

29Ac yn y rhai hyn efe a wnaeth ddychmygion celfydd, ac a osododd golofnau mawrion o amgylch, ac ar y colofnau efe a wnaeth arfau yn goffadwriaeth tragwyddol, a chyda’r arfau longau cerfiedig i’w gweled gan bawb a fordwyent y môr.

30Dyma’r bedd a wnaeth efe ym Modin, ac y mae yn sefyll hyd y dydd hwn.

31A Thryffon a wnaeth yn dwyllodrus ag Antiochus y brenin ieuanc, ac a’i lladdodd ef.

32Ac efe a deyrnasodd yn ei le ef, ac a wisgodd goron Asia, ac a wnaeth ddialedd mawr yn y wlad.

33A Simon a adeiladodd y cestyll yn Jwdea, ac a’u cadarnhaodd hwynt â thyrau uchel, ac â chaerau mawrion, ie, â thyrau, ac â phyrth, ac â chloeau; ac efe a osododd ymborth ynddynt.

34Simon hefyd a etholodd wŷr, ac a’u hanfonodd at y brenin Demetrius, i geisio gollwng y wlad yn rhydd: oblegid ysbail oedd holl weithredoedd Tryffon.

35A’r brenin Demetrius a anfonodd ato yntau fel hyn, ac a’i hatebodd ef, ac a sgrifennodd ato ef y llythyr hwn:

36Y brenin Demetrius yn cyfarch gwell i Simon yr archoffeiriad a charedig i frenhinoedd, a hefyd i henuriaid a chenedl yr Iddewon:

37Nyni a dderbyniasom y goron aur, a’r maen gwerthfawr, y rhai a anfonasoch chwi; ac yr ydym ni yn barod i wneuthur heddwch â chwi, ac i sgrifennu at ein swyddogion i sicrhau y rhyddfraint a ganiatasom ni.

38A’r hyn oll a ordeiniasom ni tuag atoch chwi, hynny a saif: bydded y cestyll a adeiladasoch yn eiddoch chwi.

39Ac yr ydym ni yn maddau pob amryfusedd a bai hyd y dydd hwn, a threth y goron yr hon sy ddyledus arnoch chwi: ac os oedd teyrnged arall yn Jerwsalem, na choder hi mwy.

40Ac od oes neb ohonoch yn gymwys i’w sgrifennu ymysg y rhai sy yn ein cylch ni, ysgrifenner hwy, a gwneler heddwch rhyngom.

41Y ddegfed flwyddyn a thrigain a chant y tynnwyd ymaith iau y cenhedloedd oddi ar Israel.

42A phobl Israel a ddechreuasant ysgrifennu yn eu hysgrifenadau a’u cyfnewidiadau, Y flwyddyn gyntaf i Simon yr archoffeiriad mawr, tywysog a chapten yr Iddewon.

43Yn y dyddiau hynny y gwersyllodd Simon wrth Gasa, ac efe a’i hamgylchodd hi â’i luoedd; ac efe a wnaeth ryfel-offeryn, ac a’i nesaodd at y ddinas, ac a drawodd un tŵr, ac a’i henillodd.

44A’r rhai oedd yn y rhyfel-offeryn a neidiasant i’r ddinas; ac fe wnaethpwyd cynnwrf mawr yn y ddinas.

45A’r rhai oedd yn y ddinas a aethant i fyny ar y gaer gyda’u gwragedd a’u plant, wedi rhwygo eu dillad; a hwy a waeddasant â llef uchel, gan atolwg i Simon ganhiadu heddwch iddynt:

46A hwy a ddywedasant, Na wna â ni yn ôl ein drygioni, ond yn ôl dy drugaredd di.

47A Simon a dosturiodd wrthynt, ac ni ryfelodd mwy yn eu herbyn, eithr efe a’u bwriodd hwynt allan o’r ddinas, ac a lanhaodd y tai lle yr oedd eilunod, ac a aeth i mewn iddi dan ganu mawl a diolch.

48Ac efe a fwriodd allan bob aflendid ohoni, ac a osododd yno wŷr oedd yn gwneuthur y gyfraith, ac a’i cadarnhaodd hi, ac a adeiladodd ynddi breswylfod iddo ei hun.

49Lluddiwyd hefyd i’r rhai oedd yn y tŵr yn Jerwsalem fyned allan na dyfod i’r wlad i brynu a gwerthu: ac yr oedd yn flin arnynt o eisiau ymborth, a llawer ohonynt a fu feirw o newyn.

50A hwy a waeddasant ar Simon ar roddi cymod iddynt, ac efe a’i rhoddes iddynt: ond efe a’u bwriodd hwynt allan, ac a lanhaodd y tŵr oddi wrth halogedigaeth.

51Ac efe a aeth i mewn iddi hi y trydydd dydd ar hugain o’r ail mis, yn yr unfed flwyddyn ar ddeg a thrigain a chant, â mawl, ac â changhennau palmwydd, ac â thelynau, â symbalau, â nablau, ac â hymnau, ac ag odlau, am ddifetha gelyn mawr allan o Israel.

52Ac efe a ordeiniodd gadw y dydd hwn yn llawen bob blwyddyn. Ac efe a gadarnhaodd fynydd y deml, yr hwn oedd yn agos i’r tŵr, ac a arhosodd yno, efe a’r rhai oedd gydag ef.

53A phan welodd Simon fod ei fab Ioan yn ŵr, efe a’i gosododd ef yn gapten ar yr holl luoedd, ac a breswyliodd yn Gasara.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help