1Eto ni bydd y tywyllwch yn ôl yr hyn a fu yn y gofid; megis yn yr amser cyntaf y cyffyrddodd yn ysgafn â thir Sabulon a thir Nafftali, ac wedi hynny yn ddwysach y cystuddiodd hi wrth ffordd y môr, tu hwnt i’r Iorddonen, yn Galilea y cenhedloedd.
2Y bobl a rodiasant mewn tywyllwch, a welsant oleuni mawr: y rhai sydd yn aros yn nhir cysgod angau y llewyrchodd goleuni arnynt.
3Amlheaist y genhedlaeth, ni chwanegaist lawenydd; llawenychasant ger dy fron megis y llawenydd amser cynhaeaf, ac megis y llawenychant wrth rannu ysbail.
4Canys drylliaist iau ei faich ef, a ffon ei ysgwydd ef, gwialen ei orthrymwr, megis yn nydd Midian.
5Canys pob cad y rhyfelwr sydd mewn trwst, a dillad wedi eu trybaeddu mewn gwaed; ond bydd hwn trwy losgiad a chynnud tân.
6Canys bachgen a aned i ni, mab a roddwyd i ni, a bydd y llywodraeth ar ei ysgwydd ef: a gelwir ei enw ef, Rhyfeddol, Cynghorwr, y DUW cadarn, Tad tragwyddoldeb, Tywysog tangnefedd.
7Ar helaethrwydd ei lywodraeth a’i dangnefedd ni bydd diwedd, ar orseddfa Dafydd, ac ar ei frenhiniaeth ef, i’w threfnu hi, ac i’w chadarnhau â barn ac â chyfiawnder, o’r pryd hwn, a hyd byth. Sêl ARGLWYDD y lluoedd a wna hyn.
8Yr Arglwydd a anfonodd air i Jacob; ac efe a syrthiodd ar Israel.
9A’r holl bobl a wybydd, sef Effraim a thrigiannydd Samaria, y rhai a ddywedant mewn balchder, ac mewn mawredd calon,
10Y priddfeini a syrthiasant, ond â cherrig nadd yr adeiladwn: y sycamorwydd a dorrwyd, ond ni a’u newidiwn yn gedrwydd.
11Am hynny yr ARGLWYDD a ddyrchafa wrthwynebwyr Resin yn ei erbyn ef, ac a gysyllta ei elynion ef ynghyd;
12Y Syriaid o’r blaen, a’r Philistiaid hefyd o’r ôl: a hwy a ysant Israel yn safnrhwth. Er hyn i gyd ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig.
13A’r bobl ni ddychwelant at yr hwn a’u trawodd, ac ni cheisiant ARGLWYDD y lluoedd.
14Am hynny y tyr yr ARGLWYDD oddi wrth Israel ben a chynffon, cangen a brwynen, yn yr un dydd.
15Yr henwr a’r anrhydeddus yw y pen: a’r proffwyd sydd yn dysgu celwydd, efe yw y gynffon.
16Canys cyfarwyddwyr y bobl hyn sydd yn peri iddynt gyfeiliorni, a llyncwyd y rhai a gyfarwyddir ganddynt.
17Am hynny nid ymlawenha yr ARGLWYDD yn eu gwŷr ieuainc hwy, ac wrth eu hamddifaid a’u gweddwon ni thosturia: canys pob un ohonynt sydd ragrithiwr a drygionus, a phob genau yn traethu ynfydrwydd. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig.
18Oherwydd anwiredd a lysg fel tân; y mieri a’r drain a ysa efe, ac a gynnau yn nrysni y coed; a hwy a ddyrchafant fel ymddyrchafiad mwg.
19Gan ddigofaint ARGLWYDD y lluoedd y tywylla y ddaear, ac y bydd y bobl fel ymborth tân: nid eiriach neb ei frawd.
20Ac efe a gipia ar y llaw ddeau, ac a newyna; bwyty hefyd ar y llaw aswy, ac nis digonir hwynt: bwytânt bawb gig ei fraich ei hun:
21Manasse, Effraim; ac Effraim, Manasse: hwythau ynghyd yn erbyn Jwda. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.