Genesis 43 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A’r newyn oedd drwm yn y wlad.

2A bu, wedi iddynt fwyta yr ŷd a ddygasent o’r Aifft, ddywedyd o’u tad wrthynt hwy, Ewch eilwaith, prynwch i ni ychydig luniaeth.

3A Jwda a atebodd, gan ddywedyd, Gan rybuddio y rhybuddiodd y gŵr nyni, gan ddywedyd, Nac edrychwch yn fy wyneb, oni bydd eich brawd gyda chwi.

4Os anfoni ein brawd gyda ni, ni a awn i waered, ac a brynwn i ti luniaeth.

5Ond os ti nid anfoni, nid awn i waered; oblegid y gŵr a ddywedodd wrthym ni, Nac edrychwch yn fy wyneb, oni bydd eich brawd gyda chwi.

6Ac Israel a ddywedodd, Paham y drygasoch fi, gan fynegi i’r gŵr fod i chwi eto frawd?

7Hwythau a ddywedasant, Gan ymofyn yr ymofynnodd y gŵr amdanom ni, ac am ein cenedl, gan ddywedyd, Ai byw eich tad chwi eto? Oes frawd arall i chwi? Ninnau a ddywedasom wrtho ef ar ôl y geiriau hynny: a allem ni gan wybod wybod y dywedai efe, Dygwch eich brawd i waered?

8Jwda a ddywedodd hefyd wrth ei dad Israel, Gollwng y bachgen gyda mi, ninnau a gyfodwn ac a awn ymaith; fel y byddom byw, ac na byddom feirw, nyni, a thithau, a’n plant hefyd.

9Myfi a fechnïaf amdano ef; o’m llaw i y gofynni ef: onis dygaf ef atat ti, a’i osod ef ger dy fron di, yna y byddaf euog o fai i’th erbyn byth.

10Canys, pe na buasem hwyrfrydig, daethem eilchwyl yma ddwy waith bellach.

11Ac Israel eu tad a ddywedodd wrthynt, Os rhaid yn awr felly, gwnewch hyn; cymerwch o ddewis ffrwythau’r wlad yn eich llestri, a dygwch yn anrheg i’r gŵr, ychydig falm, ac ychydig fêl, llysiau, a myrr, cnau, ac almonau.

12Cymerwch hefyd ddau cymaint o arian gyda chwi; a dygwch eilwaith gyda chwi yr arian a roddwyd drachefn yng ngenau eich sachau: ond odid amryfusedd fu hynny.

13Hefyd cymerwch eich brawd, a chyfodwch, ewch eilwaith at y gŵr.

14A DUW Hollalluog a roddo i chwi drugaredd gerbron y gŵr, fel y gollyngo i chwi eich brawd arall, a Benjamin: minnau fel y’m diblantwyd, a ddiblentir.

15A’r gwŷr a gymerasant yr anrheg honno, a chymerasant arian yn ddwbl yn eu llaw, a Benjamin hefyd; a chyfodasant, ac a aethant i waered i’r Aifft, a safasant gerbron Joseff.

16A Joseff a ganfu Benjamin gyda hwynt; ac a ddywedodd wrth yr hwn oedd olygwr ar ei dŷ, Dwg y gwŷr hyn i’r tŷ, a lladd laddfa, ac arlwya: oblegid y gwŷr a gânt fwyta gyda myfi ar hanner dydd.

17A’r gŵr a wnaeth fel y dywedodd Joseff: a’r gŵr a ddug y dynion i dŷ Joseff.

18A’r gwŷr a ofnasant, pan dducpwyd hwynt i dŷ Joseff; ac a ddywedasant, Oblegid yr arian a roddwyd eilwaith yn ein sachau ni yr amser cyntaf, y ducpwyd nyni i mewn; i fwrw hyn arnom ni, ac i ruthro i ni, ac i’n cymryd ni yn gaethion, a’n hasynnod hefyd.

19A hwy a nesasant at y gŵr oedd olygwr ar dŷ Joseff, ac a lefarasant wrtho, wrth ddrws y tŷ,

20Ac a ddywedasant, Fy arglwydd, gan ddisgyn y disgynasom yr amser cyntaf i brynu lluniaeth.

21A bu, pan ddaethom i’r llety, ac agoryd ein sachau, yna wele arian pob un yng ngenau ei sach; ein harian ni, meddaf, yn ei bwys: ond ni a’i dygasom eilwaith yn ein llaw.

22Dygasom hefyd arian arall i waered yn ein llaw, i brynu lluniaeth: nis gwyddom pwy a osododd ein harian ni yn ein ffetanau.

23Yntau a ddywedodd, Heddwch i chwi; nac ofnwch: eich DUW chwi, a DUW eich tad, a roddes i chwi drysor yn eich sachau; daeth eich arian chwi ataf fi. Ac efe a ddug Simeon allan atynt hwy.

24A’r gŵr a ddug y dynion i dŷ Joseff, ac a roddes ddwfr, a hwy a olchasant eu traed; ac efe a roddes ebran i’w hasynnod hwynt.

25Hwythau a baratoesant eu hanrheg erbyn dyfod Joseff ar hanner dydd: oblegid clywsent mai yno y bwytaent fara.

26Pan ddaeth Joseff i’r tŷ, hwythau a ddygasant iddo ef yr anrheg oedd ganddynt i’r tŷ, ac a ymgrymasant iddo ef hyd lawr.

27Yntau a ofynnodd iddynt am eu hiechyd, ac a ddywedodd, Ai iach yr hen ŵr eich tad chwi, yr hwn y soniasoch amdano? ai byw efe eto?

28Hwythau a ddywedasant, Iach yw dy was, ein tad ni; byw yw efe eto. Yna yr ymgrymasant, ac yr ymostyngasant.

29Yntau a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu ei frawd Benjamin, mab ei fam ei hun; ac a ddywedodd, Ai dyma eich brawd ieuangaf chwi, am yr hwn y dywedasoch wrthyf fi? Yna y dywedodd, DUW a roddo ras i ti, fy mab.

30A Joseff a frysiodd, (oblegid cynesasai ei ymysgaroedd ef tuag at ei frawd,) ac a geisiodd le i wylo; ac a aeth i mewn i’r ystafell, ac a wylodd yno.

31Gwedi hynny efe a olchodd ei wyneb, ac a ddaeth allan, ac a ymataliodd, ac a ddywedodd, Gosodwch fara.

32Hwythau a osodasant fwyd iddo ef wrtho ei hun, ac iddynt hwy wrthynt eu hun, ac i’r Eifftiaid y rhai oedd yn bwyta gydag ef wrthynt eu hunain: oblegid ni allai’r Eifftiaid fwyta bara gyda’r Hebreaid; oherwydd ffieidd-dra oedd hynny gan yr Eifftiaid.

33Yna yr eisteddasant ger ei fron ef, y cyntaf-anedig yn ôl ei gyntafenedigaeth, a’r ieuangaf yn ôl ei ieuenctid: a rhyfeddodd y gwŷr bob un wrth ei gilydd.

34Yntau a gymerodd seigiau oddi ger ei fron ei hun iddynt hwy: a mwy ydoedd saig Benjamin o bum rhan na seigiau yr un ohonynt oll. Felly yr yfasant ac y gwleddasant gydag ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help