1Ac fel yr oeddynt yn ymdaith, hwy a ddaethant yn yr hwyr i ymyl afon Tigris, ac a arosasant yno.
2A’r llanc a aeth i waered i ymolchi, a physgodyn a neidiodd o’r afon, ac a fynasai ei lyncu ef.
3Eithr yr angel a ddywedodd wrtho, Cymer afael yn y pysgodyn. A’r llanc a ddaliodd y pysgodyn, ac a’i tynnodd i’r tir.
4A’r angel a ddywedodd wrtho, Agor y pysgodyn, a chymer y galon, a’r afu, a’r bustl, a chadw hwynt yn ddiesgeulus.
5A’r llanc a wnaeth y modd yr archasai’r angel iddo. Ac wedi iddynt rostio’r pysgodyn, hwy a’i bwytasant, ac a aethant rhagddynt ill dau, oni ddaethant yn gyfagos i Ecbatane.
6A’r llanc a ddywedodd wrth yr angel, Fy mrawd Asareias, i ba beth y mae calon, ac afu, a bustl y pysgodyn, yn dda?
7Yntau a ddywedodd wrtho, Am y galon a’r afu, o bydd i gythraul neu ysbryd drwg flino neb, rhaid yw gwneuthur mwg ohonynt gerbron y gŵr hwnnw, neu’r wraig honno, ac nis blinir ef mwyach.
8Ac am y bustl, da yw i iro ag ef y dyn a fyddo â rhuchen ar ei lygaid, ac efe a iacheir.
9A phan ddaethant yn gyfagos i Rages, yr angel a ddywedodd wrth y llanc,
10Fy mrawd, heddiw y lletywn ni gyda Raguel, yr hwn sy gâr i ti: ac y mae iddo ef un unig ferch a elwir Sara; mi a ddywedaf amdani, sef am ei rhoddi i ti yn wraig:
11Canys i ti y mae ei hetifeddiaeth hi yn perthyn, a thydi yn unig sydd o’i chenedl hi.
12Ac y mae hi yn llances lân, synhwyrol. Yn awr gan hynny gwrando fi, a mi a ymddiddanaf â’i thad hi; a phan ddychwelom ni o Rages y gwnawn y neithior: o achos mi a wn na all Raguel ei rhoddi hi i neb arall yn ôl cyfraith Moses, heb fod yn euog o angau; am fod cyfiawnder yr etifeddiaeth yn perthyn i ti o flaen neb arall.
13Yna y dywedodd y llanc wrth yr angel, Fy mrawd Asareias, mi a glywais roi’r llances hon i saith o wŷr, a marw ohonynt cymain un yn yr ystafell briodas.
14Ac yr awron myfi yw unig blentyn fy nhad: ac yr ydwyf yn ofni, od awn i mewn ati hi, y derfydd amdanaf, fel am y rhai o’r blaen; am fod cythraul yn ei charu hi, yr hwn nid yw yn gwneuthur niwed ond i’r rhai sydd yn dyfod ati hi: ac am hynny yr wyf yn ofni rhag fy marw, a dwyn einioes fy nhad a’m mam mewn tristwch i’w beddau; canys mab arall nid oes iddynt i’w claddu.
15A’r angel a ddywedodd wrtho, Onid cof gennyt eiriau dy dad, pan orchmynnodd i ti gymryd gwraig o’th genedl dy hun? ac felly yr awron gwrando, fy mrawd; a chymer hi yn wraig i ti, ac nac arswyda mo’r cythraul: canys y nos heno y rhoddir hi i ti yn wraig.
16Eithr pan ddelych i’r ystafell briodas, cymer farwydos y peraroglau, a dod beth o galon y pysgodyn ac o’r afu arnynt, a gwna fyctarth:
17A’r ysbryd a glyw’r arogl hwnnw, ac a ffy ymaith, ac ni ddychwel byth drachefn: eithr pan ddelych ati hi, codwch eich dau, a gelwch ar y trugarog Dduw, ac efe a’ch gweryd chwi, ac a dosturia wrthych: nac ofna; oherwydd i ti y darparwyd hi o’r dechreuad, a thi a’i gwaredi hi, a hi a ddaw gyda thi: ac, yn fy nhyb i, ti a gei blant ohoni. A phan glybu Tobeias y pethau hyn, efe a rodd ei serch arni, a’i galon ef a lynodd yn ddirfawr wrthi hi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.