1A thrachefn dicllonedd yr ARGLWYDD a enynnodd yn erbyn Israel; ac efe a anogodd Dafydd yn eu herbyn hwynt, i ddywedyd, Dos, cyfrif Israel a Jwda.
2Canys y brenin a ddywedodd wrth Joab tywysog y llu oedd ganddo ef, Dos yn awr trwy holl lwythau Israel, o Dan hyd Beer-seba, a chyfrif y bobl, fel y gwypwyf rifedi y bobl.
3A Joab a ddywedodd wrth y brenin, Yr ARGLWYDD dy DDUW a chwanego y bobl yn gan cymaint ag y maent, fel y gwelo llygaid fy arglwydd frenin: ond paham yr ewyllysia fy arglwydd frenin y peth hyn?
4A gair y brenin fu drech na Joab, ac na thywysogion y llu. Joab am hynny a aeth allan, a thywysogion y llu, o ŵydd y brenin, i gyfrif pobl Israel.
5A hwy a aethant dros yr Iorddonen, ac a wersyllasant yn Aroer, o’r tu deau i’r ddinas sydd yng nghanol dyffryn Gad, a thua Jaser.
6Yna y daethant i Gilead, ac i wlad Tahtim-hodsi; daethant hefyd i Dan-jaan, ac o amgylch i Sidon;
7Daethant hefyd i amddiffynfa Tyrus, ac i holl ddinasoedd yr Hefiaid, a’r Canaaneaid; a hwy a aethant i du deau Jwda, i Beer-seba.
8Felly y cylchynasant yr holl wlad, ac a ddaethant ymhen naw mis ac ugain niwrnod i Jerwsalem.
9A rhoddes Joab nifer cyfrif y bobl at y brenin: ac Israel ydoedd wyth gan mil o wŷr grymus yn tynnu cleddyf; a gwŷr Jwda oedd bum can mil o wŷr.
10A chalon Dafydd a’i trawodd ef, ar ôl iddo gyfrif y bobl. A dywedodd Dafydd wrth yr ARGLWYDD, Pechais yn ddirfawr yn yr hyn a wneuthum: ac yn awr dilea, atolwg, O ARGLWYDD, anwiredd dy was; canys ynfyd iawn y gwneuthum.
11A phan gyfododd Dafydd y bore, daeth gair yr ARGLWYDD at Gad y proffwyd, gweledydd Dafydd, gan ddywedyd,
12Dos a dywed wrth Dafydd, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Yr ydwyf fi yn gosod tri pheth o’th flaen di; dewis i ti un ohonynt, a gwnaf hynny i ti.
13Felly Gad a ddaeth at Dafydd, ac a fynegodd iddo, ac a ddywedodd wrtho, A fynni ddyfod i ti saith mlynedd o newyn yn dy wlad? neu ffoi dri mis o flaen dy elynion, a hwy yn dy erlid? ai ynteu bod haint yn y wlad dri diwrnod? Yn awr ymgynghora, ac edrych pa beth a atebaf i’r hwn a’m hanfonodd i.
14A dywedodd Dafydd wrth Gad, Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi: bid i mi syrthio yn awr yn llaw yr ARGLWYDD, canys aml yw ei drugareddau ef, ac na chwympwyf yn llaw dyn.
15Yna y rhoddes yr ARGLWYDD haint yn Israel, o’r bore hyd yr amser nodedig: a bu farw o’r bobl, o Dan hyd Beer-seba, ddeng mil a thrigain o wŷr.
16A phan estynasai yr angel ei law at Jerwsalem i’w dinistrio hi, edifarhaodd ar yr ARGLWYDD y drwg hwn, ac a ddywedodd wrth yr angel oedd yn dinistrio y bobl, Digon bellach: atal dy law. Ac angel yr ARGLWYDD oedd wrth lawr dyrnu Arafna y Jebusiad.
17A llefarodd Dafydd wrth yr ARGLWYDD, pan ganfu efe yr angel a drawsai y bobl, a dywedodd, Wele, myfi a bechais, ac a wneuthum yn ddrygionus: ond y defaid hyn, beth a wnaethant hwy? bydded, atolwg, dy law arnaf fi, ac ar dŷ fy nhad.
18A Gad a ddaeth at Dafydd y dwthwn hwnnw, ac a ddywedodd wrtho, Dos i fyny, cyfod allor i’r ARGLWYDD yn llawr dyrnu Arafna y Jebusiad.
19A Dafydd a aeth i fyny, yn ôl gair Gad, fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD.
20Ac Arafna a edrychodd, ac a ganfu y brenin a’i weision yn dyfod tuag ato. Ac Arafna a aeth allan, ac a ostyngodd ei wyneb i lawr gerbron y brenin.
21Ac Arafna a ddywedodd, Paham y daeth fy arglwydd frenin at ei was? A dywedodd Dafydd, I brynu gennyt ti y llawr dyrnu, i adeiladu allor i’r ARGLWYDD, fel yr atalier y pla oddi wrth y bobl.
22A dywedodd Arafna wrth Dafydd, Cymered, ac offrymed fy arglwydd frenin yr hyn fyddo da yn ei olwg: wele yr ychen yn boethoffrwm, a’r ffustiau ac offer yr ychen yn lle cynnud.
23Hyn oll a roddodd Arafna, megis brenin, i’r brenin. A dywedodd Arafna wrth y brenin, Yr ARGLWYDD dy DDUW a fyddo bodlon i ti.
24A dywedodd y brenin wrth Arafna, Nage; eithr gan brynu y prynaf ef mewn pris gennyt: ac nid offrymaf i’r ARGLWYDD fy NUW boethoffrymau rhad. Felly Dafydd a brynodd y llawr dyrnu a’r ychen, er deg a deugain o siclau arian.
25Ac yno yr adeiladodd Dafydd allor i’r ARGLWYDD, ac a offrymodd boethoffrymau ac offrymau hedd. A’r ARGLWYDD a gymododd â’r wlad, a’r pla a ataliwyd oddi wrth Israel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.