1Gwae y meibion cyndyn, medd yr ARGLWYDD, a gymerant gyngor, ond nid gennyf fi; ac a orchuddiant â gorchudd, ac nid o’m hysbryd i, i chwanegu pechod ar bechod:
2Y rhai sydd yn myned i ddisgyn i’r Aifft, heb ymofyn â mi, i ymnerthu yn nerth Pharo, ac i ymddiried yng nghysgod yr Aifft.
3Am hynny y bydd nerth Pharo yn gywilydd i chwi, a’r ymddiried yng nghysgod yr Aifft yn waradwydd.
4Canys bu ei dywysogion yn Soan, a’i genhadau a ddaethant i Hanes.
5Hwynt oll a gywilyddiwyd oherwydd y bobl ni fuddia iddynt, ni byddant yn gynhorthwy nac yn llesâd, eithr yn warth ac yn waradwydd.
6Baich anifeiliaid y deau. I dir cystudd ac ing, lle y daw ohonynt yr hen lew a’r llew ieuanc, y wiber a’r sarff danllyd hedegog, y dygant eu golud ar gefnau asynnod, a’u trysorau ar gefnau camelod, at bobl ni wna les.
7Canys yn ddi-les ac yn ofer y cynorthwya yr Eifftiaid: am hynny y llefais arni, Eu nerth hwynt yw aros yn llonydd.
8Dos yn awr, ysgrifenna hyn mewn llech ger eu bron hwynt, ac ysgrifenna mewn llyfr, fel y byddo hyd y dydd diwethaf yn oes oesoedd;
9Mai pobl wrthryfelgar yw y rhai hyn, plant celwyddog, plant ni fynnant wrando cyfraith yr ARGLWYDD:
10Y rhai a ddywedant wrth y gweledyddion, Na welwch; ac wrth y proffwydi, Na phroffwydwch i ni bethau uniawn; traethwch i ni weniaith, proffwydwch i ni siomedigaeth:
11Ciliwch o’r ffordd, ciliwch o’r llwybr; perwch i Sanct Israel beidio â ni.
12Am hynny fel hyn y dywed Sanct Israel, Am wrthod ohonoch y gair hwn, ac ymddiried ohonoch mewn twyll a cham, a phwyso ar hynny:
13Am hynny y bydd yr anwiredd hyn i chwi fel rhwygiad chwyddedig mewn mur uchel ar syrthio, yr hwn y daw ei ddrylliad yn ddisymwth heb atreg.
14Canys efe a’i dryllia hi fel dryllio llestr crochenydd, gan guro heb arbed; fel na chaffer ymysg ei darnau gragen i gymryd tân o’r aelwyd, nac i godi dwfr o’r ffos.
15Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Sanct Israel, Trwy ddychwelyd a gorffwys y byddwch gadwedig; mewn llonyddwch a gobaith y bydd eich cadernid: ond ni fynnech.
16Eithr dywedasoch, Nid felly; canys ni a ffown ar feirch; am hynny y ffowch: a marchogwn ar feirch buain; am hynny y bydd buain y rhai a’ch erlidio.
17Mil a ffy wrth gerydd un; ac wrth gerydd pump y ffowch, hyd oni’ch gadawer megis hwylbren ar ben mynydd, ac fel baner ar fryn.
18Ac am hynny y disgwyl yr ARGLWYDD i drugarhau wrthych, ie, am hynny yr ymddyrchaif i dosturio wrthych; canys DUW cyfiawnder yw yr ARGLWYDD. Gwyn eu byd y rhai oll a ddisgwyliant wrtho.
19Canys y bobl a drig yn Seion o fewn Jerwsalem: gan wylo nid wyli; gan drugarhau efe a drugarha wrthyt; wrth lef dy waedd, pan ei clywo, efe a’th ateb di.
20A’r Arglwydd a rydd i chwi fara ing a dwfr gorthrymder, ond ni chornelir dy athrawon mwy, eithr dy lygaid fyddant yn gweled dy athrawon:
21A’th glustiau a glywant air o’th ôl yn dywedyd, Dyma y ffordd, rhodiwch ynddi, pan bwysoch ar y llaw ddeau, neu pan bwysoch ar y llaw aswy.
22Yna yr halogwch ball dy gerfddelw arian, ac effod dy dawdd-ddelw aur; gwasgeri hwynt fel cadach misglwyf, a dywedi wrthynt, Dos ymaith.
23Ac efe a rydd law i’th had pan heuech dy dir, a bara cnwd y ddaear, ac efe a fydd yn dew ac yn aml; a’r dydd hwnnw y pawr dy anifeiliaid mewn porfa helaeth.
24Dy ychen hefyd a’th asynnod, y rhai a lafuriant y tir, a borant ebran pur, yr hwn a nithiwyd â gwyntyll ac â gogr.
25Bydd hefyd ar bob mynydd uchel, ac ar bob bryn dyrchafedig, afonydd a ffrydiau dyfroedd, yn nydd y lladdfa fawr, pan syrthio y tyrau.
26A bydd llewyrch y lleuad fel llewyrch yr haul, a llewyrch yr haul fydd saith mwy, megis llewyrch saith niwrnod, yn y dydd y rhwyma yr ARGLWYDD friw ei bobl, ac yr iachao archoll eu dyrnod hwynt.
27Wele enw yr ARGLWYDD yn dyfod o bell, yn llosgi gan ei ddigofaint ef, a’i faich sydd drwm; ei wefusau a lanwyd o ddicter, a’i dafod sydd megis tân ysol.
28Ei anadl hefyd, megis afon lifeiriol, a gyrraedd hyd hanner y gwddf, i nithio’r cenhedloedd â gogr oferedd; a bydd ffrwyn yng ngenau y bobloedd, yn eu gyrru ar gyfeiliorn.
29Y gân fydd gennych megis y noswaith y sancteiddir uchel ŵyl; a llawenydd calon, megis pan elo un â phibell i fyned i fynydd yr ARGLWYDD, at Gadarn yr Israel.
30A’r ARGLWYDD a wna glywed ardderchowgrwydd ei lais, ac a ddengys ddisgyniad ei fraich, mewn dicter llidiog, ac â fflam dân ysol, â gwasgarfa, ac â thymestl, ac â cherrig cenllysg.
31Canys â llais yr ARGLWYDD y distrywir Assur, yr hwn a drawai â’r wialen.
32A pha le bynnag yr elo y wialen ddiysgog, yr hon a esyd yr ARGLWYDD arno ef, gyda thympanau a thelynau y bydd: ac â rhyfel tost yr ymladd efe yn ei erbyn.
33Canys darparwyd Toffet er doe, ie, paratowyd hi i’r brenin: efe a’i dyfnhaodd hi, ac a’i ehangodd: ei chyneuad sydd dân a choed lawer; anadl yr ARGLWYDD, megis afon o frwmstan, sydd yn ei hennyn hi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.