Jeremeia 38 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Yna Seffatia mab Mattan, a Gedaleia mab Pasur, a Jucal mab Selemeia, a Phasur mab Malcheia, a glywsant y geiriau a draethasai Jeremeia wrth yr holl bobl, gan ddywedyd,

2Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Yr hwn a arhoso yn y ddinas hon, a fydd farw trwy y cleddyf, trwy newyn, a thrwy haint: ond y neb a elo allan at y Caldeaid, a fydd byw; canys ei einioes fydd yn ysglyfaeth iddo, a byw fydd.

3Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Y ddinas hon a roddir yn ddiau yn llaw llu brenin Babilon, yr hwn a’i hennill hi.

4Yna y tywysogion a ddywedasant wrth y brenin, Rhodder, atolwg, y gŵr hwn i farwolaeth: oblegid fel hyn y mae efe yn gwanhau dwylo’r rhyfelwyr a adawyd yn y ddinas hon, a dwylo’r holl bobl, wrth ddywedyd wrthynt yn ôl y geiriau hyn: oherwydd nid yw y gŵr hwn yn ceisio llwyddiant i’r bobl hyn, ond niwed.

5A’r brenin Sedeceia a ddywedodd, Wele ef yn eich llaw chwi: canys nid yw y brenin ŵr a ddichon ddim yn eich erbyn chwi.

6Yna hwy a gymerasant Jeremeia, ac a’i bwriasant ef i ddaeardy Malcheia mab Hammelech, yr hwn oedd yng nghyntedd y carchardy: a hwy a ollyngasant Jeremeia i waered wrth raffau. Ac nid oedd dwfr yn y daeardy, ond tom: felly Jeremeia a lynodd yn y dom.

7A phan glybu Ebedmelech yr Ethiopiad, un o’r ystafellyddion yr hwn oedd yn nhŷ y brenin, iddynt hwy roddi Jeremeia yn y daeardy, (a’r brenin yn eistedd ym mhorth Benjamin,)

8Ebedmelech a aeth allan o dŷ y brenin, ac a lefarodd wrth y brenin, gan ddywedyd,

9O fy arglwydd frenin, drwg y gwnaeth y gwŷr hyn yng nghwbl ag a wnaethant i Jeremeia y proffwyd, yr hwn a fwriasant hwy i’r daeardy; ac efe a fydd farw o newyn yn y fan lle y mae, oherwydd nid oes bara mwyach yn y ddinas.

10Yna y brenin a orchmynnodd i Ebedmelech yr Ethiopiad, gan ddywedyd, Cymer oddi yma ddengwr ar hugain gyda thi, a chyfod Jeremeia y proffwyd o’r daeardy cyn ei farw.

11Felly Ebedmelech a gymerodd y gwŷr gydag ef, ac a aeth i dŷ y brenin dan y trysordy, ac a gymerodd oddi yno hen garpiau, a hen bwdr fratiau, ac a’u gollyngodd i waered at Jeremeia i’r daeardy wrth raffau.

12Ac Ebedmelech yr Ethiopiad a ddywedodd wrth Jeremeia, Gosod yn awr yr hen garpiau a’r pwdr fratiau hyn dan dy geseiliau oddi tan y rhaffau. A Jeremeia a wnaeth felly.

13Felly hwy a dynasant Jeremeia i fyny wrth y rhaffau, ac a’i codasant ef o’r daeardy; a Jeremeia a arhosodd yng nghyntedd y carchardy.

14Yna y brenin Sedeceia a anfonodd, ac a gymerodd Jeremeia y proffwyd ato i’r trydydd cyntedd, yr hwn sydd yn nhŷ yr ARGLWYDD; a’r brenin a ddywedodd wrth Jeremeia, Mi a ofynnaf i ti beth: na chela ddim oddi wrthyf fi.

15A Jeremeia a ddywedodd wrth Sedeceia, Os mynegaf i ti, oni roddi di fi i farwolaeth? ac os rhoddaf i ti gyngor, oni wrandewi di arnaf?

16Felly y brenin Sedeceia a dyngodd wrth Jeremeia yn gyfrinachol, gan ddywedyd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaeth i ni yr enaid hwn, ni roddaf fi di i farwolaeth, ac ni roddaf di yn llaw y gwŷr hyn sydd yn ceisio dy einioes.

17Yna y dywedodd Jeremeia wrth Sedeceia, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, DUW y lluoedd, DUW Israel; Os gan fyned yr ei di allan at dywysogion brenin Babilon, yna y bydd dy enaid fyw, ac ni losgir y ddinas hon â thân; a thithau a fyddi fyw, ti a’th deulu.

18Ond onid ei di allan at dywysogion brenin Babilon, yna y ddinas hon a roddir i law y Caldeaid, a hwy a’i llosgant hi â thân, ac ni ddihengi dithau o’u llaw hwynt.

19A’r brenin Sedeceia a ddywedodd wrth Jeremeia, Yr ydwyf fi yn ofni yr Iddewon a giliasant at y Caldeaid, rhag iddynt hwy fy rhoddi i yn eu llaw hwynt, ac i’r rhai hynny fy ngwatwar.

20A Jeremeia a ddywedodd, Ni roddant ddim: gwrando, atolwg, ar lais yr ARGLWYDD, yr hwn yr ydwyf fi yn ei draethu i ti; felly y bydd yn dda i ti, a’th enaid a fydd byw.

21Ond os gwrthodi fyned allan, dyma y gair a ddangosodd yr ARGLWYDD i mi:

22Ac wele, yr holl wragedd, y rhai a adawyd yn nhŷ brenin Jwda, a ddygir allan at dywysogion brenin Babilon; a hwy a ddywedant, Dy gyfeillion a’th hudasant, ac a’th orchfygasant; dy draed a lynasant yn y dom, a hwythau a droesant yn eu hôl.

23Felly hwy a ddygant allan dy holl wragedd a’th blant at y Caldeaid, ac ni ddihengi dithau o’u llaw hwynt; canys â llaw brenin Babilon y’th ddelir; a’r ddinas hon a losgi â thân.

24Yna y dywedodd Sedeceia wrth Jeremeia, Na chaffed neb wybod y geiriau hyn, ac ni’th roddir i farwolaeth.

25Ond os y tywysogion a glywant i mi ymddiddan â thi, ac os deuant atat ti, a dywedyd wrthyt, Mynega yn awr i ni beth a draethaist ti wrth y brenin; na chela oddi wrthym ni, ac ni roddwn ni mohonot ti i farwolaeth; a pha beth a draethodd y brenin wrthyt tithau:

26Yna dywed wrthynt, Myfi a weddïais yn ostyngedig gerbron y brenin, na yrrai efe fi drachefn i dŷ Jonathan, i farw yno.

27Yna yr holl dywysogion a ddaethant at Jeremeia, ac a’i holasant ef: ac efe a fynegodd iddynt yn ôl yr holl eiriau hyn, y rhai a orchmynasai y brenin: felly hwy a beidiasant ag ymddiddan ag ef, canys ni chafwyd clywed y peth.

28A Jeremeia a arhosodd yng nghyntedd y carchardy hyd y dydd yr enillwyd Jerwsalem; ac yno yr oedd efe pan enillwyd Jerwsalem.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help