1Yn yr unfed flwyddyn ar ddeg a deugain a chant yr ymadawodd Demetrius mab Seleucus o Rufain, ac a ddaeth ag ychydig wŷr i ddinas yng nglan y môr, ac a deyrnasodd yno.
2A phan ddaeth efe i frenhindy ei hynafiaid, digwyddodd i’w lu ef ddal Antiochus a Lysias, i’w dwyn ato ef.
3A phan wybu efe hynny, efe a ddywedodd, Na ddangoswch i mi eu hwynebau hwy.
4A’r llu a’u lladdodd hwynt: a Demetrius a eisteddodd ar orseddfa ei frenhiniaeth.
5Yna yr holl ddynion drygionus annuwiol o Israel a ddaethant ato ef, ac Alcimus oedd eu capten hwy, yr hwn oedd yn chwenychu bod yn archoffeiriad;
6Ac a gyhuddasant y bobl wrth y brenin, gan ddywedyd, Jwdas a’i frodyr a laddasant dy holl garedigion di, ac a’n gyrasant ni allan o’n gwlad.
7Am hynny danfon ryw ŵr yr ydwyt yn ymddiried iddo, ac aed, ac edryched yr holl ddistryw a wnaeth efe arnom ni, ac ar wlad y brenin, a chosbed efe hwynt, a phawb sydd yn eu cynorthwyo.
8Yna’r brenin a ddewisodd Bacchides, caredig y brenin, yr hwn oedd yn llywodraethu o’r tu draw i’r afon, ac oedd ŵr mawr yn y deyrnas, ac yn ffyddlon i’r brenin:
9Ac efe a’i danfonodd ef gydag Alcimus annuwiol, yr hwn a wnaethai efe yn archoffeiriad, ac a orchmynnodd iddo ddial ar blant Israel.
10A hwy a ymadawsant, ac a ddaethant â llu mawr i wlad Jwdea, ac a ddanfonasant genhadon at Jwdas a’i frodyr, ac a ddywedasant eiriau heddychol yn dwyllodrus wrthynt.
11Eithr ni wnaethant hwy goel ar eu geiriau hwy: canys hwy a welsant ddyfod ohonynt â llu mawr.
12Wedi hyn cynulleidfa o’r sgrifenyddion a ymgasglodd at Alcimus a Bacchides, i geisio cyfiawnder.
13A’r Assideaid oedd y rhai cyntaf ymhlith plant Israel a geisiasant heddwch ganddynt hwy,
14Gan ddywedyd, Daeth un sy offeiriad o had Aaron gyda’r llu yma, ac ni wna efe gam â nyni.
15Ac efe a roes eiriau heddychol iddynt hwy, ac a dyngodd wrthynt, gan ddywedyd, Ni wnawn ni ddrwg i chwi, nac i’ch caredigion.
16A hwy a’i credasant ef; ond efe a ddaliodd dri ugeinwr ohonynt hwy, ac a’u lladdodd hwy mewn un diwrnod yn ôl y geiriau a sgrifennodd Dafydd:
17Hwy a daflasant allan gig dy saint di, ac a dywalltasant eu gwaed hwy o amgylch Jerwsalem, ac nid oedd neb a’u claddai hwynt.
18A’u hofn hwynt a’u dychryn a ddaeth ar yr holl bobl, y rhai a ddywedent, Nid oes na gwirionedd na chyfiawnder ynddynt hwy; oblegid hwy a dorasant y llw a’r amod a wnaethant.
19A Bacchides a symudodd o Jerwsalem, ac a wersyllodd yn Beseth, ac a ddanfonodd allan oddi yno, ac a ddaliodd lawer o’r rhai a’i gadawsent ef, a rhai o’r bobl, ac a’u lladdodd hwy, ac a’u taflodd i’r pydew mawr.
20Yna efe a orchmynnodd y wlad i Alcimus, ac a adawodd ryfelwyr gydag ef, i’w gymorth ef: a Bacchides a aeth at y brenin.
21Ac felly Alcimus a ymrysonodd am yr archoffeiriadaeth.
22A’r holl rai oedd yn cythryblu’r bobl, a ymgasglasant ato ef, ac a enillasant wlad Jwda, ac a wnaethant ddrwg mawr yn Israel.
23Pan welodd Jwdas yr holl ddrwg a wnaethai Alcimus a’r rhai oedd gydag ef i’r Israeliaid, ie, mwy nag a wnaethai’r Cenhedloedd,
24Efe a dramwyodd trwy holl derfynau Jwda oddi amgylch, ac a wnaeth ddialedd ar y gwŷr a ffoesent ymaith oddi wrtho ef at y gelynion, oni pheidiasant hwy â dyfod mwy i’r wlad.
25Pan welodd Alcimus fod Jwdas a’r rhai oedd gydag ef wedi cael y llaw uchaf, a gwybod na allai efe eu haros hwy, efe a ddychwelodd at y brenin, ac a’u cyhuddodd hwy o ddrygioni.
26Yna’r brenin a ddanfonodd Nicanor, un o’i dywysogion anrhydeddus, yr hwn oedd yn casáu ac yn dwyn gelyniaeth i Israel, ac a orchmynnodd iddo ddistrywio’r bobl yn llwyr.
27A Nicanor a ddaeth i Jerwsalem â llu mawr, ac a ddanfonodd eiriau heddychol at Jwdas a’i frodyr, ond trwy dwyll, gan ddywedyd,
28Na fydded rhyfel rhyngof fi a chwi; mi a ddeuaf ag ychydig wŷr i weled eich wynebau chwi yn heddychol.
29Felly efe a ddaeth at Jwdas, a hwy a gyfarchasant ei gilydd yn heddychol: ond yr oedd y gelynion yn barod i gipio Jwdas i ffordd.
30Eto hysbyswyd y peth i Jwdas, mai trwy dwyll y daethai efe ato ef: ac efe a’i hofnodd ef yn fawr, ac ni fynnai weled ei wyneb ef mwy.
31Pan wybu Nicanor ddatguddio ei fwriad, efe a aeth allan i ymladd yn erbyn Jwdas, yn ymyl Caffarsalama.
32Ac ynghylch pum mil o wŷr o lu Nicanor a laddwyd, a’r lleill a ffoesant i ddinas Dafydd.
33Wedi hyn Nicanor a aeth i fyny i fynydd Seion, a rhai o’r offeiriaid a henaduriaid y bobl a aethant allan o’r cysegr i gyfarch iddo ef yn heddychol, ac i ddangos iddo’r poethoffrymau yr oeddid yn eu hoffrwm dros y brenin.
34Ond efe a chwarddodd am eu pennau, ac a’u gwatwarodd hwy, ac a’u halogodd, ac a ddywedodd yn falch.
35Ac efe a dyngodd yn ei ddig, gan ddywedyd, Oni roddir yn awr Jwdas a’i wersyll yn fy nwylo i, os dychwelaf mewn heddwch, myfi a losgaf y tŷ yma. Ac yna efe a aeth allan mewn dicllondeb mawr.
36Yna’r offeiriaid a ddaethant i mewn, ac a safasant o flaen yr allor a’r deml, gan wylo, a dywedyd,
37O Arglwydd, ti a ddewisaist y tŷ yma, i alw ar dy enw di ynddo, ac i fod yn dŷ gweddi ac ymbil i’th bobl.
38Gwna ddialedd ar y gŵr hwn a’i wersyll, oni ladder hwy â’r cleddyf: cofia eu cabledigaethau hwy, ac na ddioddef iddynt barhau.
39A Nicanor a aeth allan o Jerwsalem, ac a wersyllodd yn Bethoron; ac yno llu o Syria a gyfarfu ag ef.
40A Jwdas a wersyllodd yn Adasa, â thair mil o wŷr, ac a wnaeth ei weddi, gan ddywedyd,
41O Arglwydd, pan ddaeth rhai oddi wrth y brenin i’th gablu di, yr angel a aeth allan, ac a laddodd gant a phump a phedwar ugain o filoedd ohonynt:
42Distrywia felly y gwersyll hwn o’n blaen ni heddiw, fel y gallo pobl eraill wybod ddywedyd ohono ef yn ddrwg am dy gysegr di; a barna ef yn ôl ei ddrygioni.
43A’r gwersylloedd a drawsant ynghyd, y trydydd dydd ar ddeg o’r mis Adar: a llu Nicanor a orchfyged, ac efe ei hun a ladded yn gyntaf yn y rhyfel.
44Pan welodd rhyfelwyr Nicanor ei ladd ef, hwy a daflasant eu harfau ymaith, ac a ffoesant.
45Ond yr Iddewon a’u hymlidiasant hwy daith un diwrnod, o Adasa nes dyfod i Gasera, ac a ganasant larwm mewn utgyrn ar eu hôl hwynt.
46A’r Iddewon a ddaethant allan o holl drefi Jwdea oddi amgylch, ac a’u herlidiasant: a hwy a droesant yn erbyn y rhai a’u herlidient, ac felly y lladded hwy oll â’r cleddyf, ac ni adawed neb ohonynt hwy, naddo un.
47Yna hwy a gymerasant yr ysbail a’r ysglyfaeth, ac a dorasant ben Nicanor ymaith, a’i law ddeau ef, yr hon a estynasai efe allan cyn falched, ac a’u dygasant hwy ymaith gyda hwynt, ac a’u crogasant o flaen Jerwsalem.
48Am hynny’r bobl a lawenychasant yn ddirfawr, ac a fwriasant y diwrnod hwnnw trwy orfoledd mawr:
49Ac a ordeiniasant gadw y diwrnod hwnnw, sef y trydydd dydd ar ddeg o’r mis Adar, bob blwyddyn.
50Ac felly gwlad Jwda a gafodd heddwch dros ychydig amser.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.