1Yna efe a’m hatebodd, gan ddywedyd, Mesura’r amser yn ddyfal ynddo ei hun: a phan welech y naill ran i’r arwyddion a ddangosais i ti o’r blaen, wedi dyfod,
2Yna y cei ddeall mai’r gwir amser yw, yn yr hwn y dechrau’r Goruchaf ymweled â’r byd, yr hwn a wnaeth efe.
3A phan weler daeargrynfeydd, a chynnwrf pobl yn y byd,
4Yna y cei yn ddiau ddeall ddarfod i’r Goruchaf ddywedyd am y pethau hynny, ar yr amser a fu o’th flaen di, sef o’r dechreuad:
5Canys fel y mae i bob peth a’r y sydd yn y byd, ddechrau a diwedd, a’r diwedd sydd eglur;
6Felly y mae hefyd i amseroedd y Goruchaf eglur ddechreuad mewn rhyfeddodau a nerth, a diweddiad mewn gweithredoedd ac arwyddion.
7A phob un a’r a gadwer, ac a allo ddianc wrth ei weithredoedd, a’r ffydd, trwy’r hon y credasoch,
8A achubir oddi wrth y peryglon hynny, ac a gaiff weled fy iachawdwriaeth yn fy nhir ac yn fy nherfynau: canys sancteiddiais hwynt i mi o’r dechreuad.
9Yna y bydd y rhai a gamarferasant fy ffyrdd i mewn cyflwr gresynol; a’r sawl a’u taflodd hwynt ymaith yn ddiystyr, a gânt drigo mewn poenau.
10Canys y rhai a dderbyniasant dyrnau da yn eu bywyd, ac ni adnabuant fi,
11A’r sawl a alarodd ar fy nghyfraith, tra ydoedd iddynt ryddid, a phan oedd iddynt eto le agored i edifarhau, nis deallasant, ond a’i diystyrasant;
12Rhaid i’r rhai hynny gael ei wybod yn ôl marwolaeth trwy boen.
13Am hynny na ofala di pa fodd y cosbir yr annuwiol, a pha bryd: ond ymofyn pa fodd y cedwir y cyfiawn, y rhai biau’r byd, ac er mwyn y rhai y crewyd y byd.
14Yna yr atebais, gan ddywedyd,
15Dywedais o’r blaen, ac yr wyf yn dywedyd, ac a’i dywedaf hefyd rhag llaw, fod mwy o’r rhai colledig nag o’r rhai cadwedig,
16Fel y mae ton yn fwy na defnyn.
17Ac efe a’m hatebodd, gan ddywedyd, Fel y mae’r maes, felly y mae’r had; fel y mae’r llysiau, felly y mae eu lliwiau hefyd; fel y mae’r gweithiwr, felly y mae’r gwaith; ac fel y mae’r llafurwr, felly y mae ei lafur hefyd: canys amser byd ydoedd.
18Ac yr awr hon, pan ddarperais i y byd, yr hwn ni wnaethid eto, sef iddynt hwy i drigo ynddo, y rhai sy yr awr hon yn fyw, ni ddywedodd neb yn fy erbyn.
19Canys y pryd hynny pob un a ufuddhâi: ond yn awr y mae moddau y rhai a grewyd yn y byd hwn a wnaethpwyd, wedi eu llygru trwy had diball, a thrwy gyfraith anchwiliadwy, yn eu rhyddhau eu hunain.
20Felly mi a ystyriais y byd, ac wele, yr ydoedd perygl, oherwydd y dychmygion a ddaethent iddo ef.
21A gwelais, ac a’i harbedais ef yn ddirfawr; a chedwais i mi un gronyn o’r swp, a phlanhigyn o genedl fawr.
22Darfydded gan hynny am y lliaws a anwyd yn ofer, a bydded fy ngronyn a’m planhigyn yn gadwedig: canys trwy boen fawr y gwneuthum ef yn berffaith.
23Er hynny os gorffwysi saith niwrnod eto ychwaneg; (ond nac ymprydia ynddynt;
24Eithr dos i faes o lysiau, heb dŷ arno, a bwyta yn unig o lysiau’r maes; na phrawf gig, nac yf win, ond bwyta lysiau yn unig;
25A gweddïa ar y Goruchaf yn wastadol;) yna mi a ddeuaf i ymddiddan â thi.
26Felly mi a euthum ymaith i’r maes a elwir Ardath, fel y gorchmynnodd efe i mi, ac yno yr eisteddais ymysg y llysiau, ac y bwyteais lysiau’r maes; a’r bwyd hwnnw a’m digonodd.
27Ymhen y saith niwrnod mi a eisteddais ar y glaswellt, a’m calon oedd yn flin o’m mewn, fel o’r blaen:
28Ac mi a agorais fy ngenau, ac a ddechreuais ymddiddan â’r Goruchaf, gan ddywedyd,
29O Arglwydd, ti yr hwn wyt yn dy ddangos dy hun i ni, tydi a ddangoswyd i’n tadau yn yr anialwch, mewn lle nid oes neb yn sengi arno, mewn lle llwm, pan ddaethant allan o’r Aifft;
30Ac a leferaist, gan ddywedyd, Clyw fi, O Israel; ac ystyria fy ngeiriau, tydi had Jacob.
31Canys wele fi yn hau fy nghyfraith ynoch, a hi a ddwg ffrwyth ynoch, a chwi a anrhydeddir ynddi yn dragwyddol.
32Ond ein tadau y rhai a dderbyniasant y gyfraith, nis cadwasant hi, ac ni chanlynasant dy ordeiniadau: ac er na ddiflannai ffrwyth dy gyfraith, ac nis gallai, canys eiddot ti oedd;
33Eto y neb a’i derbyniodd a gollwyd, am na chadwent y pethau a heuesid ynddynt.
34Ac wele, y mae arfer pan dderbynio’r ddaear had, neu’r môr long, neu ryw lestr fwyd neu ddiod, fod, pan ddarffo am y peth yr heuwyd ef ynddo, neu y bwriwyd ef iddo,
35I’r peth hwnnw hefyd a heuwyd, neu a fwriwyd ynddo, neu a dderbyniwyd, ddarfod amdano, a bod heb aros gyda ni: ond gyda ni nid felly y digwyddodd.
36Canys nyni, y rhai a dderbyniasom y gyfraith, a gollir trwy bechod, a’n calon hefyd yr hon a’i derbyniodd hi.
37Er hynny ni dderfydd am y gyfraith, ond aros y mae hi yn ei grym.
38A phan ddywedais y pethau hyn yn fy nghalon, mi a edrychais o’m hôl, ac ar fy llaw ddeau y gwelwn wraig yn galaru, yn gweiddi yn uchel, ac yn drom ei chalon, a’i dillad wedi rhwygo, a lludw oedd ganddi ar ei phen.
39Yna y bwriais y meddyliau oedd gennyf o’r blaen heibio, ac a droais ati hi,
40Ac a ddywedais wrthi, Paham yr wyt ti yn wylo? a phaham yr ydwyt mor drist dy galon?
41A hi a ddywedodd wrthyf, Arglwydd, gad fi yn llonydd, fel y gallwyf alaru drosof fy hun, a chwanegu fy ngalar; canys wyf yn drist iawn fy nghalon, ac wedi fy nwyn yn isel iawn.
42A mi a ddywedais wrthi, Beth a ddarfu i ti? dywed i mi.
43Hithau a ddywedodd wrthyf, Myfi dy wasanaethwraig a fûm hesb, ac heb blanta, er bod i mi ŵr ddeng mlynedd ar hugain.
44A’r deng mlynedd ar hugain hyn yr ydwyf yn gweddïo nos a dydd, a phob awr, ar y Goruchaf.
45Ar ben y deng mlynedd ar hugain, Duw a’m gwrandawodd i dy wasanaethwraig, efe a edrychodd ar fy nghystudd, efe a ystyriodd fy mlinder, ac a roddes i mi fab: a mi a fûm lawen amdano ef, ac felly yr oedd fy ngŵr hefyd, a’m holl gymdogion; ac ni a roesom anrhydedd mawr i’r Goruchaf.
46A mi a’i megais ef trwy boen fawr.
47Felly pan dyfodd efe, a dyfod i oedran gwreica, mi a wneuthum wledd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.