Y Salmau 79 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 79Salm Asaff.

1Y cenhedloedd, O DDUW, a ddaethant i’th etifeddiaeth; halogasant dy deml sanctaidd: gosodasant Jerwsalem yn garneddau.

2Rhoddasant gelanedd dy weision yn fwyd i adar y nefoedd, a chig dy saint i fwystfilod y ddaear.

3Tywalltasant eu gwaed fel dwfr o amgylch Jerwsalem: ac nid oedd a’u claddai.

4Yr ydym ni yn warthrudd i’n cymdogion; dirmyg a gwatwargerdd i’r rhai sydd o’n hamgylch.

5Pa hyd, ARGLWYDD? a ddigi di yn dragywydd? a lysg dy eiddigedd di fel tân?

6Tywallt dy lid ar y cenhedloedd ni’th adnabuant, ac ar y teyrnasoedd ni alwasant ar dy enw.

7Canys ysasant Jacob, ac a wnaethant ei breswylfa yn anghyfannedd.

8Na chofia yr anwireddau gynt i’n herbyn: brysia, rhagflaened dy dostur drugareddau ni: canys llesg iawn y’n gwnaethpwyd.

9Cynorthwya ni, O DDUW ein hiachawdwriaeth, er mwyn gogoniant dy enw: gwared ni hefyd, a thrugarha wrth ein pechodau, er mwyn dy enw.

10Paham y dywed y cenhedloedd, Pa le y mae eu DUW hwynt? bydded hysbys ymhlith y cenhedloedd yn ein golwg ni, wrth ddial gwaed dy weision yr hwn a dywalltwyd.

11Deued uchenaid y carcharorion ger dy fron: yn ôl mawredd dy nerth cadw blant marwolaeth.

12A thâl i’n cymdogion ar y seithfed i’w mynwes, eu cabledd trwy yr hon y’th gablasant di, O Arglwydd.

13A ninnau dy bobl a defaid dy borfa, a’th foliannwn di yn dragywydd: datganwn dy foliant o genhedlaeth i genhedlaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help