1Am hynny yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, er trugareddau Duw, roddi ohonoch eich cyrff yn aberth byw, sanctaidd, cymeradwy gan Dduw; yr hyn yw eich rhesymol wasanaeth chwi.
2Ac na chydymffurfiwch â’r byd hwn: eithr ymnewidiwch trwy adnewyddiad eich meddwl; fel y profoch beth yw daionus, a chymeradwy, a pherffaith ewyllys Duw.
3Canys yr wyf yn dywedyd, trwy y gras a roddwyd i mi, wrth bob un a’r sydd yn eich plith, na byddo i neb uchel synied yn amgen nag y dylid synied; eithr synied i sobrwydd, fel y rhannodd Duw i bob un fesur ffydd.
4Canys megis y mae gennym aelodau lawer mewn un corff, ac nad oes gan yr holl aelodau yr un swydd:
5Felly ninnau, a ni yn llawer, ydym un corff yng Nghrist, a phob un yn aelodau i’w gilydd.
6A chan fod i ni amryw ddoniau yn ôl y gras a roddwyd i ni, pa un bynnag ai proffwydoliaeth, proffwydwn yn ôl cysondeb y ffydd;
7Ai gweinidogaeth, byddwn ddyfal yn y weinidogaeth; neu yr hwn sydd yn athrawiaethu, yn yr athrawiaeth;
8Neu yr hwn sydd yn cynghori, yn y cyngor: yr hwn sydd yn cyfrannu, gwnaed mewn symlrwydd; yr hwn sydd yn llywodraethu, mewn diwydrwydd; yr hwn sydd yn trugarhau, mewn llawenydd.
9Bydded cariad yn ddiragrith. Casewch y drwg, a glynwch wrth y da.
10Mewn cariad brawdol byddwch garedig i’ch gilydd; yn rhoddi parch, yn blaenori eich gilydd:
11Nid yn ddiog mewn diwydrwydd; yn wresog yn yr ysbryd; yn gwasanaethu yr Arglwydd:
12Yn llawen mewn gobaith; yn ddioddefgar mewn cystudd; yn dyfalbarhau mewn gweddi:
13Yn cyfrannu i gyfreidiau’r saint; ac yn dilyn lletygarwch.
14Bendithiwch y rhai sydd yn eich ymlid: bendithiwch, ac na felltithiwch.
15Byddwch lawen gyda’r rhai sydd lawen, ac wylwch gyda’r rhai sydd yn wylo.
16Byddwch yn unfryd â’ch gilydd: heb roi eich meddwl ar uchel bethau; eithr yn gydostyngedig â’r rhai iselradd. Na fyddwch ddoethion yn eich tyb eich hunain.
17Na thelwch i neb ddrwg am ddrwg. Darperwch bethau onest yng ngolwg pob dyn.
18Os yw bosibl, hyd y mae ynoch chwi, byddwch heddychlon â phob dyn.
19Nac ymddielwch, rai annwyl, ond rhoddwch le i ddigofaint: canys y mae yn ysgrifenedig, I mi y mae dial; myfi a dalaf, medd yr Arglwydd.
20Am hynny, os dy elyn a newyna, portha ef; os sycheda, dyro iddo ddiod: canys wrth wneuthur hyn ti a bentyrri farwor tanllyd ar ei ben ef.
21Na orchfyger di gan ddrygioni, eithr gorchfyga di ddrygioni trwy ddaioni.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
