1Yna y dechreuodd Judith ganu’r gyffes hon yn holl Israel; a’r holl bobl a ganasant y gân hon ar ei hôl hi.
2A Judith a ddywedodd, Dechreuwch i’m Duw i â thympanau, cenwch iddo ef salmau a mawl; dyrchefwch ef, a gelwch ar ei enw.
3Canys Duw sydd yn torri’r rhyfeloedd: oherwydd yn y gwersylloedd ymysg y bobl y gwaredodd efe fi o law fy erlidwyr.
4Assur a ddaeth o’r mynyddoedd allan o’r gogledd; efe a ddaeth â miloedd yn ei luoedd, ei liaws ef a argaeodd yr afonydd, a’i farchogion ef a orchuddiasant y bryniau.
5Efe a ddywedodd y llosgai fy ardaloedd i, ac y lladdai fy ngwŷr ieuainc â’r cleddyf, ac y curai’r plant sugno wrth y llawr, ac y rhoddai fy rhai bychain yn ysbail, a’m gwyryfon yn ysglyfaeth.
6Ond yr hollalluog Arglwydd a’u diddymodd hwynt trwy law benyw:
7Canys ni syrthiodd y cadarn trwy wŷr ieuainc, ac nid meibion Titan a’i trawsant ef, ac nid y cewri uchel a ymosodasant yn ei erbyn ef: eithr Judith merch Merari trwy ei hwynepryd a’i gwanychodd ef.
8Oblegid hi a ddiosgodd ddillad ei gweddwdod, er dyrchafiad y rhai gorthrymedig o Israel; hi a irodd ei hwyneb ag ennaint, ac a glymodd ei gwallt mewn meitr, ac a gymerth wisg liain i’w dwyllo ef.
9Ei sandalau hi a hudodd ei lygaid ef, a’i glendid hi a garcharodd ei feddwl ef; y cleddyf a aeth trwy ei wddf ef.
10Y Persiaid a grynasant oherwydd ei hyfder hi; a’r Mediaid a gythryblwyd oherwydd ei hyder hi.
11Yna fy rhai gostyngedig a orfoleddasant, a’m rhai gweiniaid a floeddiasant: a hwythau a ofnasant, dyrchafasant eu llef, a dychwelasant.
12Meibion llancesau a’u trywanasant hwy, ac a’u harchollasant fel plant ffoaduriaid: difethwyd hwynt gan ryfel yr Arglwydd fy Nuw i.
13Myfi a ganaf i’r Arglwydd gân newydd. O Arglwydd, ti ydwyt fawr o gogoneddus, rhyfeddol mewn nerth, ac anorchfygol.
14Gwasanaethed yr holl greaduriaid dydi; canys ti a ddywedaist, a hwynt a wnaed; ti a anfonaist dy Ysbryd, ac efe a’u creodd hwynt; ac nid oes neb a wrthwynebo dy lef di.
15Canys y mynyddoedd a gyffroant oddi ar eu seiliau gyda’r dyfroedd, y creigiau hefyd a doddant fel cwyr yn dy ŵydd di; eto trugarog wyt i’r rhai a’th ofnant.
16Canys yr holl aberthau sydd ry fychan yn arogl peraidd, a’r holl fraster sydd ry fychan yn boethoffrwm i ti: ond yr hwn sydd yn ofni’r Arglwydd, sydd fawr bob amser.
17Gwae’r Cenhedloedd sydd yn ymgodi yn erbyn fy nghenedl! yr Arglwydd hollalluog a ddial arnynt hwy yn nydd y farn, trwy anfon tân a phryfed ar eu cnawd hwynt: a hwy a wylant gan eu clywed yn dragywydd.
18A phan aethant hwy i Jerwsalem, hwy a addolasant yr Arglwydd. A hwy’n gyntaf ag y purwyd y bobl, hwy a offrymasant eu poethoffrymau, a’u haddunedau, a’u rhoddion.
19Judith hefyd a offrymodd holl lestri Oloffernes, y rhai a roddasai y bobl iddi hi; a hi a roddodd y canopi a gymerasai hi o’i stafell ef, yn offrwm i’r Arglwydd.
20Felly y bobl a fuant lawen yn Jerwsalem gerbron y cysegr dros dri mis: a Judith a arhosodd gyda hwynt.
21Ac wedi’r dyddiau hynny, pob un a ddychwelodd i’w etifeddiaeth ei hun; a Judith a aeth i Bethulia, ac a drigodd yn ei chyfoeth ei hun: ac yr oedd hi yn ei hamser yn ogoneddus trwy’r holl wlad.
22A llaweroedd a’i chwenychasant hi; ond ni chafodd gŵr ei hadnabod hi holl ddyddiau ei heinioes, o’r awr y bu farw Manasses ei gŵr hi, ac y casglwyd ef at ei bobl.
23A hi a aeth rhagddi yn fawr iawn, ac a heneiddiodd yn nhŷ ei gŵr, yn bum mlwydd a chant; ac a ollyngodd ei llawforwyn yn rhydd. A hi a fu farw yn Bethulia: a hwy a’i claddasant hi ym medd ei gŵr Manasses.
24A thŷ Israel a alarodd amdani hi saith o ddyddiau. A chyn iddi hi farw, hi a rannodd ei golud i’r holl rai nesaf i Manasses ei gŵr, ac i’r rhai nesaf o’i chenedl ei hun.
25Ac nid oedd mwyach neb a ddychrynai feibion Israel, yn holl ddyddiau Judith, nac wedi ei marwolaeth hi ddyddiau lawer.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.