Y Salmau 117 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition
SALM 117
1Molwch yr ARGLWYDD, yr holl genhedloedd: clodforwch ef, yr holl bobloedd.
2Oherwydd ei drugaredd ef tuag atom ni sydd fawr: a gwirionedd yr ARGLWYDD a bery yn dragywydd. Molwch yr ARGLWYDD.