Y Salmau 78 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 78Maschil i Asaff.

1Gwrando fy nghyfraith, fy mhobl: gostyngwch eich clust at eiriau fy ngenau.

2Agoraf fy ngenau mewn dihareb: traethaf ddamhegion o’r cynfyd:

3Y rhai a glywsom, ac a wybuom, ac a fynegodd ein tadau i ni.

4Ni chelwn rhag eu meibion, gan fynegi i’r oes a ddêl foliant yr ARGLWYDD, a’i nerth, a’i ryfeddodau y rhai a wnaeth efe.

5Canys efe a sicrhaodd dystiolaeth yn Jacob, ac a osododd gyfraith yn Israel, y rhai a orchmynnodd efe i’n tadau eu dysgu i’w plant:

6Fel y gwybyddai yr oes a ddêl, sef y plant a enid; a phan gyfodent, y mynegent hwy i’w plant hwythau:

7Fel y gosodent eu gobaith ar DDUW, heb anghofio gweithredoedd DUW, eithr cadw ei orchmynion ef:

8Ac na byddent fel eu tadau, yn genhedlaeth gyndyn a gwrthryfelgar; yn genhedlaeth ni osododd ei chalon yn uniawn, ac nid yw ei hysbryd ffyddlon gyda DUW.

9Meibion Effraim, yn arfog ac yn saethu â bwa, a droesant eu cefnau yn nydd y frwydr.

10Ni chadwasant gyfamod DUW, eithr gwrthodasant rodio yn ei gyfraith ef;

11Ac anghofiasant ei weithredoedd a’i ryfeddodau, y rhai a ddangosasai efe iddynt.

12Efe a wnaethai wyrthiau o flaen eu tadau hwynt yn nhir yr Aifft, ym maes Soan.

13Efe a barthodd y môr, ac a aeth â hwynt drwodd; gwnaeth hefyd i’r dwfr sefyll fel pentwr.

14Y dydd hefyd y tywysodd efe hwynt â chwmwl, ac ar hyd y nos â goleuni tân.

15Efe a holltodd y creigiau yn yr anialwch; a rhoddes ddiod oddi yno megis o ddyfnderau dirfawr.

16Canys efe a ddug ffrydiau allan o’r graig, ac a dynnodd i lawr megis afonydd o ddyfroedd.

17Er hynny chwanegasant eto bechu yn ei erbyn ef, gan ddigio y Goruchaf yn y diffeithwch.

18A themtiasant DDUW yn eu calon, gan ofyn bwyd wrth eu blys.

19Llefarasant hefyd yn erbyn DUW; dywedasant, A ddichon DUW arlwyo bwrdd yn yr anialwch?

20Wele, efe a drawodd y graig, fel y pistyllodd dwfr, ac y llifodd afonydd; a ddichon efe roddi bara hefyd? a ddarpara efe gig i’w bobl?

21Am hynny y clybu yr ARGLWYDD, ac y digiodd: a thân a enynnodd yn erbyn Jacob, a digofaint hefyd a gyneuodd yn erbyn Israel;

22Am na chredent yn NUW, ac na obeithient yn ei iachawdwriaeth ef:

23Er iddo ef orchymyn i’r wybrennau oddi uchod, ac agoryd drysau y nefoedd,

24A glawio manna arnynt i’w fwyta, a rhoddi iddynt ŷd y nefoedd.

25Dyn a fwytaodd fara angylion: anfonodd iddynt fwyd yn ddigonol.

26Gyrrodd y dwyreinwynt yn y nefoedd; ac yn ei nerth y dug efe ddeheuwynt.

27Glawiodd hefyd gig arnynt fel llwch, ac adar asgellog fel tywod y môr.

28Ac a wnaeth iddynt gwympo o fewn eu gwersyll, o amgylch eu preswylfeydd.

29Felly y bwytasant, ac y llwyr ddiwallwyd hwynt; ac efe a barodd eu dymuniad iddynt;

30Ni omeddwyd hwynt o’r hyn a flysiasant: er hynny, tra yr ydoedd eu bwyd yn eu safnau,

31Dicllonedd DUW a gyneuodd yn eu herbyn hwynt, ac a laddodd y rhai brasaf ohonynt, ac a gwympodd etholedigion Israel.

32Er hyn oll pechasant eto, ac ni chredasant i’w ryfeddodau ef.

33Am hynny y treuliodd efe eu dyddiau hwynt mewn oferedd, a’u blynyddoedd mewn dychryn.

34Pan laddai efe hwynt, hwy a’i ceisient ef, ac a ddychwelent, ac a geisient DDUW yn fore.

35Cofient hefyd mai DUW oedd eu Craig, ac mai y Goruchaf DDUW oedd eu Gwaredydd.

36Er hynny, rhagrithio yr oeddynt iddo ef â’u genau, a dywedyd celwydd wrtho â’u tafod:

37A’u calon heb fod yn uniawn gydag ef, na’u bod yn ffyddlon yn ei gyfamod ef.

38Er hynny efe yn drugarog a faddeuodd eu hanwiredd, ac ni ddifethodd hwynt: ie, trodd ymaith ei ddigofaint yn fynych, ac ni chyffrôdd ei holl lid.

39Canys efe a gofiai mai cnawd oeddynt, a gwynt yn myned, ac heb ddychwelyd.

40Pa sawl gwaith y digiasant ef yn yr anialwch, ac y gofidiasant ef yn y diffeithwch?

41Ie, troesant a phrofasant DDUW, ac a osodasant derfyn i Sanct yr Israel.

42Ni chofiasant ei law ef, na’r dydd y gwaredodd efe hwynt oddi wrth y gelyn.

43Fel y gosodasai efe ei arwyddion yn yr Aifft, a’i ryfeddodau ym maes Soan:

44Ac y troesai eu hafonydd yn waed; a’u ffrydiau, fel na allent yfed.

45Anfonodd gymysgbla yn eu plith, yr hon a’u difaodd hwynt; a llyffaint i’w difetha.

46Ac efe a roddodd eu cnwd hwynt i’r lindys, a’u llafur i’r locust.

47Distrywiodd eu gwinwydd â chenllysg, a’u sycamorwydd â rhew.

48Rhoddodd hefyd eu hanifeiliaid i’r cenllysg, a’u golud i’r mellt.

49Anfonodd arnynt gynddaredd ei lid, llidiowgrwydd, a dicter, a chyfyngder, trwy anfon angylion drwg.

50Cymhwysodd ffordd i’w ddigofaint: nid ataliodd eu henaid oddi wrth angau; ond eu bywyd a roddodd efe i’r haint.

51Trawodd hefyd bob cyntaf-anedig yn yr Aifft; sef blaenion eu nerth hwynt ym mhebyll Ham:

52Ond efe a yrrodd ei bobl ei hun fel defaid, ac a’u harweiniodd hwynt fel praidd yn yr anialwch.

53Tywysodd hwynt hefyd yn ddiogel, fel nad ofnasant: a’r môr a orchuddiodd eu gelynion hwynt.

54Hwythau a ddug efe i oror ei sancteiddrwydd; i’r mynydd hwn, a enillodd ei ddeheulaw ef.

55Ac efe a yrrodd allan y cenhedloedd o’u blaen hwynt, ac a rannodd iddynt etifeddiaeth wrth linyn, ac a wnaeth i lwythau Israel drigo yn eu pebyll hwynt.

56Er hynny temtiasant a digiasant DDUW Goruchaf, ac ni chadwasant ei dystiolaethau:

57Eithr ciliasant a buant anffyddlon fel eu tadau: troesant fel bwa twyllodrus.

58Digiasant ef hefyd â’u huchelfannau; a gyrasant eiddigedd arno â’u cerfiedig ddelwau.

59Clybu DUW hyn, ac a ddigiodd, ac a ffieiddiodd Israel yn ddirfawr:

60Fel y gadawodd efe dabernacl Seilo, y babell a osodasai efe ymysg dynion;

61Ac y rhoddodd ei nerth mewn caethiwed, a’i brydferthwch yn llaw y gelyn.

62Rhoddes hefyd ei bobl i’r cleddyf; a digiodd wrth ei etifeddiaeth.

63Tân a ysodd eu gwŷr ieuainc; a’u morynion ni phriodwyd.

64Eu hoffeiriaid a laddwyd â’r cleddyf; a’u gwragedd gweddwon nid wylasant.

65Yna y deffrôdd yr Arglwydd fel un o gysgu, fel cadarn yn bloeddio gwedi gwin.

66Ac efe a drawodd ei elynion o’r tu ôl: rhoddes iddynt warth tragwyddol.

67Gwrthododd hefyd babell Joseff, ac ni etholodd lwyth Effraim:

68Ond efe a etholodd lwyth Jwda, mynydd Seion, yr hwn a hoffodd.

69Ac a adeiladodd ei gysegr fel llys uchel, fel y ddaear yr hon a seiliodd efe yn dragywydd.

70Etholodd hefyd Dafydd ei was, ac a’i cymerth o gorlannau y defaid:

71Oddi ar ôl y defaid cyfebron y daeth ag ef i borthi Jacob ei bobl, ac Israel ei etifeddiaeth.

72Yntau a’u porthodd hwynt yn ôl perffeithrwydd ei galon; ac a’u trinodd wrth gyfarwyddyd ei ddwylo.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help