1 Brenhinoedd 8 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Yna Solomon a gasglodd henuriaid Israel, a holl bennau y llwythau, a thywysogion tadau meibion Israel, at y brenin Solomon, yn Jerwsalem, i ddwyn i fyny arch cyfamod yr ARGLWYDD o ddinas Dafydd, honno yw Seion.

2A holl wŷr Israel a ymgynullasant at y brenin Solomon, ar yr ŵyl, ym mis Ethanim, hwnnw yw y seithfed mis.

3A holl henuriaid Israel a ddaethant, a’r offeiriaid a godasant yr arch i fyny.

4A hwy a ddygasant i fyny arch yr ARGLWYDD, a phabell y cyfarfod, a holl lestri’r cysegr y rhai oedd yn y babell, a’r offeiriaid a’r Lefiaid a’u dygasant hwy i fyny.

5A’r brenin Solomon, a holl gynulleidfa Israel, y rhai a ymgynullasai ato ef, oedd gydag ef o flaen yr arch, yn aberthu defaid, a gwartheg, y rhai ni rifid ac ni chyfrifid, gan luosowgrwydd.

6Felly yr offeiriaid a ddygasant arch cyfamod yr ARGLWYDD i’w lle ei hun, i gafell y tŷ, i’r cysegr sancteiddiaf, dan adenydd y ceriwbiaid.

7Canys y ceriwbiaid oedd yn lledu eu hadenydd dros le yr arch; a’r ceriwbiaid a orchuddient yr arch, a’i barrau oddi arnodd.

8A’r barrau a estynasant, fel y gwelid pennau y barrau o’r cysegr o flaen y gafell, ond nis gwelid oddi allan: yno y maent hwy hyd y dydd hwn.

9Nid oedd dim yn yr arch ond y ddwy lech faen a osodasai Moses yno yn Horeb, lle y cyfamododd yr ARGLWYDD â meibion Israel, pan oeddynt yn dyfod o wlad yr Aifft.

10A phan ddaeth yr offeiriaid allan o’r cysegr, y cwmwl a lanwodd dŷ yr ARGLWYDD,

11Fel na allai yr offeiriaid sefyll i wasanaethu, oherwydd y cwmwl: canys gogoniant yr ARGLWYDD a lanwasai dŷ yr ARGLWYDD.

12Yna y dywedodd Solomon, Yr ARGLWYDD a ddywedodd, y preswyliai efe yn y tywyllwch.

13Gan adeiladu yr adeiledais dŷ yn breswylfod i ti; trigle i ti i aros yn dragywydd ynddo.

14A’r brenin a drodd ei wyneb, ac a fendithiodd holl gynulleidfa Israel. A holl gynulleidfa Israel oedd yn sefyll.

15Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn a lefarodd â’i enau wrth Dafydd fy nhad, ac a’i cwblhaodd â’i law, gan ddywedyd,

16Er y dydd y dygais fy mhobl Israel allan o’r Aifft, ni ddewisais ddinas o holl lwythau Israel i adeiladu tŷ, fel y byddai fy enw i yno: eithr dewisais Dafydd i fod ar fy mhobl Israel.

17Ac yr oedd ym mryd Dafydd fy nhad adeiladu tŷ i enw ARGLWYDD DDUW Israel.

18A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Dafydd fy nhad, Oherwydd bod yn dy fryd di adeiladu tŷ i’m henw i, da y gwnaethost fod hynny yn dy galon:

19Eto nid adeiledi di y tŷ; ond dy fab di, yr hwn a ddaw allan o’th lwynau di, efe a adeilada y tŷ i’m henw i.

20A’r ARGLWYDD a gywirodd ei air a lefarodd efe; a mi a gyfodais yn lle Dafydd fy nhad, ac a eisteddais ar deyrngadair Israel, megis y llefarodd yr ARGLWYDD, ac a adeiledais dŷ i enw ARGLWYDD DDUW Israel.

21A mi a osodais yno le i’r arch, yr hon y mae ynddi gyfamod yr ARGLWYDD, yr hwn a gyfamododd efe â’n tadau ni, pan ddug efe hwynt allan o wlad yr Aifft.

22A Solomon a safodd o flaen allor yr ARGLWYDD, yng ngŵydd holl gynulleidfa Israel, ac a estynnodd ei ddwylo tua’r nefoedd:

23Ac efe a ddywedodd, O ARGLWYDD DDUW Israel, nid oes DUW fel tydi, yn y nefoedd oddi uchod, nac ar y ddaear oddi isod, yn cadw cyfamod a thrugaredd â’th weision sydd yn rhodio ger dy fron di â’u holl galon;

24Yr hwn a gedwaist â’th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho: traethaist hefyd â’th enau, a chwblheaist â’th law, megis heddiw y mae.

25Ac yn awr, O ARGLWYDD DDUW Israel, cadw â’th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho, gan ddywedyd, Ni thorrir ymaith oddi wrthyt na byddo gŵr ger fy mron i yn eistedd ar deyrngadair Israel; os dy feibion a gadwant eu ffordd, i rodio ger fy mron i, megis y rhodiaist ti ger fy mron.

26Ac yn awr, O DDUW Israel, poed gwir, atolwg, fyddo dy air a leferaist wrth dy was Dafydd fy nhad.

27Ai gwir yw, y preswylia DUW ar y ddaear? wele, y nefoedd, a nefoedd y nefoedd, ni allant dy gynnwys di; pa faint llai y dichon y tŷ hwn a adeiledais i!

28Eto edrych ar weddi dy was, ac ar ei ddeisyfiad ef, O ARGLWYDD fy NUW, i wrando ar y llef a’r weddi y mae dy was yn ei gweddïo heddiw ger dy fron di:

29Fel y byddo dy lygaid yn agored tua’r tŷ yma nos a dydd, tua’r lle y dywedaist amdano, Fy enw a fydd yno: i wrando ar y weddi a weddïo dy was yn y lle hwn.

30Gwrando gan hynny ddeisyfiad dy was, a’th bobl Israel, pan weddïant yn y lle hwn: clyw hefyd o le dy breswylfa, sef o’r nefoedd; a phan glywych, maddau.

31Os pecha gŵr yn erbyn ei gymydog, a gofyn ganddo raith, gan ei dyngu ef, a dyfod y llw o flaen dy allor di yn y tŷ hwn:

32Yna clyw di yn y nefoedd, gwna hefyd, a barna dy weision, gan ddamnio’r drygionus i ddwyn ei ffordd ef ar ei ben; a chan gyfiawnhau y cyfiawn, trwy roddi iddo ef yn ôl ei gyfiawnder.

33Pan drawer dy bobl Israel o flaen y gelyn, am iddynt bechu yn dy erbyn di, os dychwelant atat ti, a chyfaddef dy enw, a gweddïo, ac ymbil â thi yn y tŷ hwn:

34Yna gwrando di yn y nefoedd, a maddau bechod dy bobl Israel, a dychwel hwynt i’r tir a roddaist i’w tadau hwynt.

35Pan gaeer y nefoedd, fel na byddo glaw, oherwydd pechu ohonynt i’th erbyn; os gweddïant yn y lle hwn, a chyfaddef dy enw, a dychwelyd oddi wrth eu pechod, pan gystuddiech di hwynt:

36Yna gwrando di yn y nefoedd, a maddau bechod dy weision, a’th bobl Israel, fel y dysgych iddynt y ffordd orau y rhodiant ynddi, a dyro law ar dy dir a roddaist i’th bobl yn etifeddiaeth.

37Os bydd newyn yn y tir, os bydd haint, llosgfa, malltod, locustiaid, os bydd y lindys; pan warchaeo ei elyn arno ef yng ngwlad ei ddinasoedd; pa bla bynnag, pa glefyd bynnag, a fyddo;

38Pob gweddi, pob deisyfiad, a fyddo gan un dyn, neu gan dy holl bobl Israel, y rhai a wyddant bawb bla ei galon ei hun, ac a estynnant eu dwylo tua’r tŷ hwn:

39Yna gwrando di yn y nefoedd, mangre dy breswylfod, a maddau; gwna hefyd, a dyro i bob un yn ôl ei holl ffyrdd, yr hwn yr adwaenost ei galon; (canys ti yn unig a adwaenost galonnau holl feibion dynion;)

40Fel y’th ofnont di yr holl ddyddiau y byddont byw ar wyneb y tir a roddaist i’n tadau ni.

41Ac am y dieithrddyn hefyd ni byddo o’th bobl Israel, ond dyfod o wlad bell er mwyn dy enw;

42(Canys clywant am dy enw mawr di, a’th law gref, a’th fraich estynedig;) pan ddêl a gweddïo tua’r tŷ hwn:

43Gwrando di yn y nefoedd, mangre dy breswylfod, a gwna yn ôl yr hyn oll a’r a lefo’r dieithrddyn arnat amdano: fel yr adwaeno holl bobl y ddaear dy enw di, i’th ofni di, fel y mae dy bobl Israel, ac y gwypont mai ar dy enw di y gelwir y tŷ hwn a adeiledais i.

44Os â dy bobl di allan i ryfel yn erbyn eu gelyn, ar hyd y ffordd yr anfonych hwynt, os gweddïant ar yr ARGLWYDD tua ffordd y ddinas a ddewisaist ti, a’r tŷ yr hwn a adeiledais i’th enw di:

45Yna gwrando yn y nefoedd ar eu gweddi hwynt, ac ar eu deisyfiad, a gwna farn iddynt.

46Os pechant i’th erbyn, (canys nid oes dyn ni phecha,) a digio ohonot wrthynt, a’u rhoddi hwynt o flaen eu gelynion, fel y caethgludont hwynt yn gaethion i wlad y gelyn, ymhell neu yn agos;

47Os dychwelant at eu calon yn y wlad y caethgludwyd hwynt iddi, a dychwelyd, ac erfyn arnat yng ngwlad y rhai a’u caethgludasant, gan ddywedyd, Pechasom, troseddasom hefyd, a gwnaethom yn annuwiol;

48A dychwelyd atat ti â’u holl galon, ac â’u holl enaid, yng ngwlad eu gelynion a’u caethgludasant hwynt, a gweddïo arnat ti tua’u gwlad a roddaist i’w tadau, a’r ddinas a ddewisaist, a’r tŷ a adeiledais i’th enw di:

49Yna gwrando di yn y nefoedd, mangre dy breswylfod, eu gweddi hwynt, a’u deisyfiad, a gwna farn iddynt,

50A maddau i’th bobl a bechasant i’th erbyn, a’u holl gamweddau yn y rhai y troseddasant i’th erbyn, a phâr iddynt gael trugaredd gerbron y rhai a’u caethgludasant, fel y trugarhaont wrthynt hwy:

51Canys dy bobl di a’th etifeddiaeth ydynt hwy, y rhai a ddygaist ti allan o’r Aifft, o ganol y ffwrn haearn:

52Fel y byddo dy lygaid yn agored i ddeisyfiad dy was, a deisyfiad dy bobl Israel, i wrando arnynt hwy pa bryd bynnag y galwont arnat ti.

53Canys ti a’u neilltuaist hwynt yn etifeddiaeth i ti o holl bobl y ddaear, fel y lleferaist trwy law Moses dy was, pan ddygaist ein tadau ni allan o’r Aifft, O ARGLWYDD DDUW.

54Ac wedi gorffen o Solomon weddïo ar yr ARGLWYDD yr holl weddi a’r deisyfiad yma, efe a gyfododd oddi gerbron allor yr ARGLWYDD, o ostwng ar ei liniau, ac o estyn ei ddwylo tua’r nefoedd.

55Ac efe a safodd, ac a fendithiodd holl gynulleidfa Israel â llef uchel, gan ddywedyd,

56Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD, yr hwn a roddes lonyddwch i’w bobl Israel, yn ôl yr hyn oll a lefarodd efe: ni syrthiodd un gair o’i holl addewidion da ef, y rhai a addawodd efe trwy law Moses ei was.

57Yr ARGLWYDD ein DUW fyddo gyda ni, fel y bu gyda’n tadau: na wrthoded ni, ac na’n gadawed ni:

58I ostwng ein calonnau ni iddo ef, i rodio yn ei holl ffyrdd ef, ac i gadw ei orchmynion ef, a’i ddeddfau, a’i farnedigaethau, y rhai a orchmynnodd efe i’n tadau ni.

59A bydded fy ngeiriau hyn, y rhai a ddeisyfais gerbron yr ARGLWYDD, yn agos at yr ARGLWYDD ein DUW ddydd a nos, i wneuthur barn â’i was, a barn â’i bobl Israel beunydd, fel y byddo’r achos:

60Fel y gwypo holl bobl y ddaear mai yr ARGLWYDD sydd DDUW, ac nad oes arall.

61Bydded gan hynny eich calon yn berffaith gyda’r ARGLWYDD ein DUW ni, i rodio yn ei ddeddfau ef, ac i gadw ei orchmynion ef, fel heddiw.

62A’r brenin a holl Israel gydag ef a aberthasant aberth gerbron yr ARGLWYDD.

63A Solomon a aberthodd aberth hedd, yr hwn a offrymodd efe i’r ARGLWYDD, sef dwy fil ar hugain o wartheg, a chwech ugain mil o ddefaid. Felly y brenin a holl feibion Israel a gysegrasant dŷ yr ARGLWYDD.

64Y dwthwn hwnnw y sancteiddiodd y brenin ganol y cyntedd oedd o flaen tŷ yr ARGLWYDD: canys yno yr offrymodd efe y poethoffrymau, a’r bwyd-offrymau, a braster yr offrymau hedd: oherwydd yr allor bres, yr hon oedd gerbron yr ARGLWYDD, oedd ry fechan i dderbyn y poethoffrymau, a’r bwyd-offrymau, a braster yr offrymau hedd.

65A Solomon a gadwodd y pryd hwnnw ŵyl, a holl Israel gydag ef, cynulleidfa fawr, o ddyfodfa Hamath hyd afon yr Aifft, gerbron yr ARGLWYDD ein DUW, saith o ddyddiau a saith o ddyddiau, sef pedwar diwrnod ar ddeg.

66A’r wythfed dydd y gollyngodd efe ymaith y bobl: a hwy a fendithiasant y brenin, ac a aethant i’w pebyll yn hyfryd ac â chalon lawen, am yr holl ddaioni a wnaethai yr ARGLWYDD i Dafydd ei was, ac i Israel ei bobl.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help