Y Salmau 14 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 14I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

1Yr ynfyd a ddywedodd yn ei galon, Nid oes un DUW. Ymlygrasant; ffieiddwaith a wnaethant: nid oes a wnêl ddaioni.

2Yr ARGLWYDD a edrychodd i lawr o’r nefoedd ar feibion dynion, i weled a oedd neb deallgar, yn ymgeisio â DUW.

3Ciliodd pawb; cydymddifwynasant: nid oes a wnêl ddaioni, nac oes un.

4Oni ŵyr holl weithredwyr anwiredd? y rhai sydd yn bwyta fy mhobl fel y bwytaent fara: ni alwasant ar yr ARGLWYDD.

5Yno y dychrynasant gan ofn; canys y mae DUW yng nghenhedlaeth y cyfiawn.

6Cyngor y tlawd a waradwyddasoch chwi; am fod yr ARGLWYDD yn obaith iddo.

7Pwy a ddyry iachawdwriaeth i Israel o Seion! pan ddychwelo yr ARGLWYDD gaethiwed ei bobl, yr ymhyfryda Jacob, ac y llawenha Israel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help