Galarnad 5 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Cofia, O ARGLWYDD, beth a ddaeth i ni: edrych a gwêl ein gwaradwydd.

2Ein hetifeddiaeth ni a drowyd i estroniaid, a’n tai i ddieithriaid.

3Amddifaid ydym heb dadau; ein mamau sydd megis gweddwon.

4Yr ydym yn yfed ein dwfr am arian; ein coed sydd yn dyfod am werth.

5Ein gwarrau sydd dan erlid; llafurio yr ydym, nid oes gorffwystra i ni.

6Rhoesom ein llaw i’r Eifftiaid, i’r Asyriaid, i gael digon o fara.

7Ein tadau a bechasant, ac nid ydynt: ninnau sydd yn dwyn eu cosb hwynt.

8Gweision sydd yn llywodraethu arnom ni, heb fod a’n gwaredo o’u llaw hwynt.

9Mewn enbydrwydd am ein heinioes y dygasom ein bara i mewn, oherwydd cleddyf yr anialwch.

10Ein croen a dduodd fel ffwrn, gan y newyn tost.

11Hwy a dreisiasant y gwragedd yn Seion, a’r morynion yn ninasoedd Jwda.

12Crogasant dywysogion â’u dwylo; ni pherchid wynebau yr hynafgwyr.

13Hwy a gymerasant y gwŷr ieuainc i falu; a’r plant a syrthiasant dan y coed.

14Yr hynafgwyr a beidiasant â’r porth; y gwŷr ieuainc â’u cerdd.

15Darfu llawenydd ein calon: ein dawns a drodd yn alar.

16Syrthiodd y goron oddi am ein pen: gwae ni yn awr bechu ohonom!

17Am hyn y mae ein calon yn ofidus; am hyn y tywyllodd ein llygaid.

18Oherwydd mynydd Seion, yr hwn a anrheithiwyd, y mae y llwynogod yn rhodio ynddo.

19Ti, ARGLWYDD, a barhei byth; dy orseddfainc yn oes oesoedd.

20Paham yr anghofi ni byth, ac y gadewi ni dros hir ddyddiau?

21Dychwel ni, O ARGLWYDD, atat ti, a ni a ddychwelir: adnewydda ein dyddiau megis cynt.

22Eithr ti a’n llwyr wrthodaist ni: ti a ddigiaist wrthym ni yn ddirfawr.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help