Judith 6 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 6

1A phan ddistawodd twrf y gwŷr oedd o amgylch yr eisteddfod, yna Oloffernes tywysog llu yr Asyriaid a ddywedodd wrth Achior a’r Moabiaid oll, gerbron yr holl bobl ddieithr,

2A phwy wyt ti, Achior, a chyflogedigion Effraim, fel y proffwydaist yn ein mysg ni fel heddiw, ac y dywedaist ar na ryfelom ni â phobl Israel, am yr amddiffyn eu Duw hwynt? a phwy sy Dduw onid Nabuchodonosor?

3Efe a enfyn ei nerth, ac a’u difetha hwynt oddi ar wyneb y ddaear; ac ni wared eu Duw hwynt; eithr nyni ei weision ef a’u distrywiwn hwynt fel un gŵr; canys ni allant hwy sefyll dan nerth ein meirch ni.

4Nyni a’u sathrwn hwy â hwynt; a’u mynyddoedd hwynt a feddwir â’u gwaed, a’u meysydd a lenwir â’u celaneddau, ôl eu traed ni allant sefyll o’n blaen, eithr llwyr ddifethir hwynt, medd y brenin Nabuchodonosor, arglwydd yr holl ddaear; canys efe a ddywedodd, Ni bydd un o’m geiriau i yn ofer.

5A thithau Achior, cyflogwas Ammon, yr hwn a leferaist y geiriau hyn yn nydd dy anwiredd, ni chei weled mwyach fy wyneb i o heddiw allan, hyd oni ddialwyf ar y genedl hon a ddaeth o’r Aifft.

6Yna haearn fy llu i a lliaws fy ngweision, a â trwy dy ystlysau di, a thi a syrthi ymhlith eu lladdedigion hwynt, pan ddychwelwyf.

7A’m gweision i a’th ddygant di i’r mynydd-dir, a hwy a’th osodant di yn un o’r dinasoedd uchel.

8Ac ni ddifethir di, nes dy ddifetha gyda hwynt.

9Ac od wyt ti yn gadael ar dy galon na ddelir hwynt, na syrthied dy wynepryd: myfi a’i lleferais, ac ni bydd un o’m geiriau yn ofer.

10Yna Oloffernes a orchmynnodd i’w weision, y rhai oedd yn sefyll yn ei babell ef, ddala Achior, a’i ddwyn ef i Bethulia, a’i roddi ef yn nwylo meibion Israel.

11Felly ei weision ef a’i daliasant, ac a’i dygasant ef allan o’r gwersyll i’r gwastadedd, ac a aethant o ganol y gwastadedd i’r mynydd-dir, ac a ddaethant at y ffynhonnau sy dan Bethulia.

12A phan welodd gwŷr y ddinas hwynt, hwy a godasant eu harfau, ac a aethant allan o’r ddinas i ben y bryn; a phob gŵr a’r a oedd yn ergydio mewn taflffon a’u lluddiodd hwynt rhag dyfod i fyny, ac a daflasant gerrig i’w herbyn hwynt.

13Yna hwy a aethant dan y bryn, ac a rwymasant Achior, ac a’i taflasant i lawr, ac a’i gadawsant ef wrth droed y bryn, ac a aethant at eu harglwydd.

14Yna meibion Israel a ddaethant i waered o’u dinas, ac a ddaethant ato ef, ac a’i gollyngasant yn rhydd, ac a’i dygasant i Bethulia, ac a’i gosodasant gerbron llywodraethwyr eu dinas,

15Y rhai oedd yn y dyddiau hynny, Oseias mab Micha, o lwyth Simeon, a Chabris mab Gothoniel, a Charmis mab Melchiel.

16A hwy a alwasant ynghyd holl henuriaid y ddinas; a’u holl wŷr ieuainc hwy a’u gwragedd a redasant ynghyd i’r gymanfa; a hwy a osodasant Achior yng nghanol eu pobl; yna Oseias a ofynnodd iddo yr hyn a ddigwyddasai.

17Ac efe a atebodd, ac a fynegodd iddynt eiriau cyngor Oloffernes, a’r holl eiriau a lefarasai efe ymysg tywysogion Assur, a’r pethau oll a ddywedasai Oloffernes yn rhyfygus yn erbyn tŷ Israel.

18Yna y bobl a syrthiasant i lawr, ac a addolasant Dduw, ac a waeddasant ar Dduw, gan ddywedyd,

19O Arglwydd Dduw y nefoedd, edrych ar eu balchder hwy, a thrugarha wrth waeledd ein cenedl ni, ac edrych ar wyneb y rhai a sancteiddiwyd i ti y dydd hwn.

20Yna hwy a gysurasant Achior, ac a’i canmolasant ef yn ddirfawr.

21Ac Oseias a’i cymerth ef o’r gynulleidfa i’w dŷ, ac a wnaeth wledd i’r henuriaid: a hwy a alwasant ar Dduw Israel yn gynhorthwy iddynt ar hyd y nos honno.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help