1A daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,
2Tithau, fab dyn, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW wrth dir Israel; Diwedd, diwedd a ddaeth ar bedair congl y tir.
3Daeth yr awr hon ddiwedd arnat, a mi a anfonaf fy nig arnat ti; barnaf di hefyd yn ôl dy ffyrdd, a rhoddaf dy holl ffieidd-dra arnat.
4Fy llygad hefyd ni’th arbed di, ac ni thosturiaf: eithr rhoddaf dy ffyrdd arnat ti, a’th ffieidd-dra fydd yn dy ganol di: fel y gwypoch mai myfi yw yr ARGLWYDD.
5Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Drwg, drwg unig, wele, a ddaeth.
6Diwedd a ddaeth, daeth diwedd: y mae yn gwylio amdanat; wele, efe a ddaeth.
7Daeth y boregwaith atat, breswylydd y tir: daeth yr amser, agos yw y dydd terfysg, ac nid atsain mynyddoedd.
8Weithian ar fyrder y tywalltaf fy llid arnat, ac y gorffennaf fy nig wrthyt: barnaf di hefyd yn ôl dy ffyrdd, a rhoddaf dy holl ffieidd-dra arnat.
9A’m llygad nid arbed, ac ni thosturiaf: rhoddaf arnat yn ôl dy ffyrdd, a’th ffieidd-dra a fydd yn dy ganol di; a chewch wybod mai myfi yr ARGLWYDD sydd yn taro.
10Wele y dydd, wele efe yn dyfod: y boregwaith a aeth allan; blodeuodd y wialen, blagurodd balchder.
11Cyfododd traha yn wialen drygioni: ni bydd un ohonynt, nac o’u lliaws, nac o’r eiddynt, na galar drostynt.
12Yr amser a ddaeth, y dydd a nesaodd: na lawenyched y prynwr, ac na thristaed y gwerthwr: canys mae dicllonedd ar ei holl liaws hi.
13Canys y gwerthydd ni ddychwel at yr hyn a werthwyd, er eu bod eto yn fyw: oblegid y weledigaeth sydd am ei holl liaws, y rhai ni ddychwelant: ac nid ymgryfha neb yn anwiredd ei fuchedd.
14Utganasant yr utgorn, i baratoi pawb: eto nid â neb i’r rhyfel; am fod fy nicllonedd yn erbyn eu holl liaws.
15Y cleddyf fydd oddi allan, yr haint hefyd a’r newyn o fewn: yr hwn fyddo yn y maes, a fydd farw gan gleddyf; a’r hwn a fyddo yn y ddinas, newyn a haint a’i difa ef.
16Eto eu rhai dihangol hwy a ddihangant, ac ar y mynyddoedd y byddant hwy i gyd fel colomennod y dyffryn, yn griddfan, bob un am ei anwiredd.
17Yr holl ddwylo a laesant, a’r holl liniau a ânt yn ddwfr.
18Ymwregysant hefyd mewn sachliain, ac arswyd a’u toa hwynt; a bydd cywilydd ar bob wyneb, a moelni ar eu holl bennau hwynt.
19Eu harian a daflant i’r heolydd, a’u haur a roir heibio: eu harian na’u haur ni ddichon eu gwared hwynt yn nydd dicter yr ARGLWYDD: eu henaid ni ddiwallant, a’u coluddion ni lanwant: oherwydd tramgwydd eu hanwiredd ydyw.
20A thegwch ei harddwch ef a osododd efe yn rhagoriaeth: ond gwnaethant ynddo ddelwau eu ffieidd-dra a’u brynti: am hynny y rhoddais ef ymhell oddi wrthynt.
21Ac mi a’i rhoddaf yn llaw dieithriaid yn ysbail, ac yn anrhaith i rai drygionus y tir; a hwy a’i halogant ef.
22Troaf hefyd fy wyneb oddi wrthynt, a halogant fy nirgelfa: ie, anrheithwyr a ddaw iddi, ac a’i halogant.
23Gwna gadwyn; canys llanwyd y tir o farn waedlyd, a’r ddinas sydd lawn o drais.
24Am hynny y dygaf rai gwaethaf y cenhedloedd, fel y meddiannont eu tai hwynt: gwnaf hefyd i falchder y cedyrn beidio; a’u cysegroedd a halogir.
25Y mae dinistr yn dyfod; a hwy a geisiant heddwch, ac nis cânt.
26Daw trychineb ar drychineb, a bydd chwedl ar chwedl: yna y ceisiant weledigaeth gan y proffwyd; ond cyfraith a gyll gan yr offeiriad, a chyngor gan yr henuriaid.
27Y brenin a alara, a’r tywysog a wisgir ag anrhaith, a dwylo pobl y tir a drallodir: gwnaf â hwynt yn ôl eu ffordd, ac â’u barnedigaethau y barnaf hwynt; fel y gwybyddont mai myfi yw yr ARGLWYDD.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.