1Yna y daeth ataf wŷr o henuriaid Israel, ac a eisteddasant o’m blaen.
2A daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,
3Y gwŷr hyn, O fab dyn, a ddyrchafasant eu heilunod yn eu calonnau, ac a roddasant dramgwydd eu hanwiredd ar gyfer eu hwynebau: gan ymofyn a ymofyn y cyfryw â myfi?
4Am hynny ymddiddan â hwynt, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Pob un o dŷ Israel, yr hwn a ddyrchafo ei eilunod yn ei galon, ac a osodo dramgwydd ei anwiredd ar gyfer ei wyneb, ac a ddaw at y proffwyd; myfi yr ARGLWYDD a atebaf yr hwn a ddelo yn ôl amlder ei eilunod,
5I ddal tŷ Israel yn eu calonnau, am iddynt ymddieithrio oddi wrthyf oll trwy eu heilunod.
6Am hynny dywed wrth dŷ Israel, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Trowch, a dychwelwch oddi wrth eich eilunod, a throwch eich wynebau oddi wrth eich holl ffieidd-dra.
7Canys pob un o dŷ Israel, ac o’r dieithr a ymdeithio o fewn Israel, a ymneilltuo oddi ar fy ôl i, ac a ddyrchafo ei eilunod yn ei galon, ac a osodo dramgwydd ei anwiredd ar gyfer ei wyneb, ac a ddêl at broffwyd i ymofyn â myfi trwyddo ef; myfi yr ARGLWYDD a atebaf iddo trwof fy hun.
8Gosodaf hefyd fy wyneb yn erbyn y gŵr hwnny: a gwnaf ef yn arwydd ac yn ddihareb, a thorraf ef ymaith o fysg fy mhobl; fel y gwypoch mai myfi yw yr ARGLWYDD.
9Ac os twyllir y proffwyd pan lefaro air, myfi yr ARGLWYDD a dwyllodd y proffwyd hwnnw; a mi a estynnaf hefyd fy llaw arno ef, ac a’i difethaf o fysg fy mhobl Israel.
10A hwy a ddygant eu hanwiredd: un fath fydd anwiredd yr ymofynnydd ag anwiredd y proffwyd:
11Fel na chyfeiliorno tŷ Israel mwy oddi ar fy ôl, ac na haloger hwy mwy â’u holl droseddau; ond bod ohonynt i mi yn bobl, a minnau iddynt hwy yn DDUW, medd yr Arglwydd DDUW.
12A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf drachefn, gan ddywedyd,
13Ha fab dyn, pan becho gwlad i’m herbyn trwy wneuthur camwedd, yna yr estynnaf fy llaw arni, a thorraf ffon ei bara hi, ac anfonaf arni newyn, ac a dorraf ymaith ohoni ddyn ac anifail.
14Pe byddai yn ei chanol y triwyr hyn, Noa, Daniel, a Job, hwynt-hwy yn eu cyfiawnder a achubent eu henaid eu hun yn unig, medd yr ARGLWYDD DDUW.
15Os bwystfil niweidiol a yrraf trwy y wlad, a’i difa o hwnnw, fel y byddo yn anghyfannedd, heb gyniweirydd rhag ofn y bwystfil:
16Pe byddai y triwyr hyn yn ei chanol, fel mai byw fi, medd yr ARGLWYDD DDUW, ni waredent na meibion na merched; hwynt-hwy yn unig a waredid, a’r tir a fyddai yn anghyfannedd.
17Neu os cleddyf a ddygaf ar y tir hwnnw, a dywedyd ohonof, Cyniwair, gleddyf, trwy y tir; fel y torrwyf ymaith ohono ddyn ac anifail:
18A’r triwyr hyn yn ei ganol, fel mai byw fi, medd yr ARGLWYDD DDUW, ni achubent na meibion na merched, ond hwynt-hwy yn unig a achubid.
19Neu os haint a anfonaf i’r wlad honno, a thywallt ohonof fy llid arni mewn gwaed, gan dorri ymaith ohoni ddyn ac anifail;
20A Noa, Daniel, a Job, yn ei chanol hi; fel mai byw fi, medd yr ARGLWYDD DDUW, ni waredent na mab na merch; hwynt-hwy yn eu cyfiawnder a waredent eu heneidiau eu hun yn unig.
21Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Pa faint mwy, pan anfonwyf fy mhedair drygfarn, cleddyf, a newyn, a bwystfil niweidiol, a haint, ar Jerwsalem, i dorri ymaith ohoni ddyn ac anifail?
22Eto wele, bydd ynddi weddill dihangol, y rhai a ddygir allan, yn feibion a merched: wele hwynt yn dyfod allan atoch, a chewch weled eu ffyrdd hwynt a’u gweithredoedd; fel yr ymgysuroch oherwydd yr adfyd a ddygais ar Jerwsalem, sef yr hyn oll a ddygais arni.
23Ie, cysurant chwi, pan weloch eu ffordd a’u gweithredoedd: a chewch wybod nad heb achos y gwneuthum yr hyn oll a wneuthum i’w herbyn hi, medd yr ARGLWYDD DDUW.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.