Numeri 21 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A’r brenin Arad, y Canaanead, preswylydd y deau, a glybu fod Israel yn dyfod ar hyd ffordd yr ysbïwyr; ac a ryfelodd yn erbyn Israel, ac a ddaliodd rai ohonynt yn garcharorion.

2Ac addunodd Israel adduned i’r ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Os gan roi y rhoddi y bobl yma yn fy llaw, yna mi a ddifrodaf eu dinasoedd hwynt.

3A gwrandawodd yr ARGLWYDD ar lais Israel; ac a roddodd y Canaaneaid yn ei law ef; ac efe a’u difrododd hwynt, a’u dinasoedd; ac a alwodd enw y lle hwnnw Horma.

4A hwy a aethant o fynydd Hor, ar hyd ffordd y môr coch, i amgylchu tir Edom: a chyfyng ydoedd ar enaid y bobl, oherwydd y ffordd.

5A llefarodd y bobl yn erbyn DUW, ac yn erbyn Moses, Paham y dygasoch ni o’r Aifft, i farw yn yr anialwch? canys nid oes na bara na dwfr; a ffiaidd yw gan ein henaid y bara gwael hwn.

6A’r ARGLWYDD a anfonodd ymysg y bobl seirff tanllyd; a hwy a frathasant y bobl: a bu feirw o Israel bobl lawer.

7A daeth y bobl at Moses, a dywedasant Pechasom; canys llefarasom yn erbyn yr ARGLWYDD, ac yn dy erbyn dithau: gweddïa ar yr ARGLWYDD, ar yrru ohono ef y seirff oddi wrthym. A gweddïodd Moses dros y bobl.

8A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Gwna i ti sarff danllyd, a gosod ar drostan: a phawb a frather, ac a edrycho ar honno, fydd byw.

9A gwnaeth Moses sarff bres, ac a’i gosododd ar drostan: yna os brathai sarff ŵr, ac edrych ohono ef ar y sarff bres, byw fyddai.

10A meibion Israel a gychwynasant oddi yno, ac a wersyllasant yn Oboth.

11A hwy a aethant o Oboth, ac a wersyllasant yng ngharneddau Abarim, yn yr anialwch, yr hwn oedd ar gyfer Moab, tua chodiad haul.

12Cychwynasant oddi yno, a gwersyllasant wrth afon Sared.

13Cychwynasant oddi yno, a gwersyllasant wrth ryd Arnon, yr hon sydd yn yr anialwch, yn dyfod allan o ardal yr Amoriaid: canys Arnon oedd derfyn Moab, rhwng Moab a’r Amoriaid.

14Am hynny dywedir yn llyfr rhyfeloedd yr ARGLWYDD, Y peth a wnaeth efe yn y môr coch, ac yn afonydd Arnon,

15Ac wrth raeadr yr afonydd, yr hwn a dreigla i breswylfa Ar, ac a bwysa at derfyn Moab.

16Ac oddi yno yr aethant i Beer: honno yw y ffynnon lle y dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Casgl y bobl ynghyd, a mi a roddaf iddynt ddwfr.

17Yna y canodd Israel y gân hon: Cyfod, ffynnon; cenwch iddi.

18Ffynnon a gloddiodd y tywysogion, ac a gloddiodd penaethiaid y bobl, ynghyd â’r deddfwr, â’u ffyn. Ac o’r anialwch yr aethant i Mattana:

19Ac o Mattana i Nahaliel; ac o Nahaliel i Bamoth:

20Ac o Bamoth, yn y dyffryn sydd yng ngwlad Moab, i ben y bryn sydd yn edrych tua’r diffeithwch.

21Yna yr anfonodd Israel genhadau at Sehon brenin yr Amoriaid, gan ddywedyd,

22Gad i mi fyned trwy dy dir: ni thrown i faes, na gwinllan; nid yfwn ddwfr un ffynnon: ar hyd ffordd y brenin y cerddwn, hyd onid elom allan o’th derfynau di.

23Ac ni roddodd Sehon i Israel ffordd trwy ei wlad: ond casglodd Sehon ei holl bobl, ac a aeth allan yn erbyn Israel i’r anialwch: ac efe a ddaeth i Jahas, ac a ymladdodd yn erbyn Israel.

24Ac Israel a’i trawodd ef â min y cleddyf; ac a oresgynnodd ei dir ef, o Arnon hyd Jabboc, hyd at feibion Ammon: canys cadarn oedd terfyn meibion Ammon.

25A chymerodd Israel yr holl ddinasoedd hynny: a thrigodd Israel yn holl ddinasoedd yr Amoriaid, yn Hesbon, ac yn ei holl bentrefydd.

26Canys dinas Sehon, brenin yr Amoriaid, ydoedd Hesbon, ac yntau a ryfelasai yn erbyn brenin Moab, yr hwn a fuasai o’r blaen, ac a ddug ei dir ef oddi arno, hyd Arnon.

27Am hynny y dywed y diarhebwyr, Deuwch i Hesbon; adeilader a chadarnhaer dinas Sehon.

28Canys tân a aeth allan o Hesbon, a fflam o ddinas Sehon: bwytaodd Ar ym Moab, a pherchenogion Bamoth Arnon.

29Gwae di, Moab; darfu amdanat, bobl Cemos: rhoddodd ei feibion dihangol, a’i ferched, mewn caethiwed i Sehon brenin yr Amoriaid.

30Saethasom hwynt: darfu am Hesbon, hyd Dibon: ac anrheithiasom hyd Noffa, yr hon sydd hyd Medeba.

31A thrigodd Israel yn nhir yr Amoriaid.

32A Moses a anfonodd i chwilio Jaser: a hwy a orchfygasant ei phentrefydd hi, ac a yrasant ymaith yr Amoriaid y rhai oedd yno.

33Troesant hefyd ac aethant i fyny hyd ffordd Basan: ac Og brenin Basan a ddaeth allan yn eu herbyn hwynt i ryfel, hyd Edrei, efe a’i holl bobl.

34A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Nac ofna ef: canys yn dy law di y rhoddais ef, a’i holl bobl, a’i dir; a gwnei iddo ef megis y gwnaethost i Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon.

35Am hynny y trawsant ef, a’i feibion, a’i holl bobl, fel na adawyd iddo ef weddill: a hwy a berchenogasant ei dir ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help