Caniad Solomon 3 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Lliw nos yn fy ngwely y ceisiais yr hwn a hoffa fy enaid: ceisiais ef, ac nis cefais.

2Codaf yn awr, ac af o amgylch y ddinas, trwy yr heolydd a’r ystrydoedd, ceisiaf yr hwn a hoffa fy enaid: ceisiais ef, ac nis cefais.

3Y gwylwyr, y rhai a aent o amgylch y ddinas, a’m cawsant: gofynnais, A welsoch chwi yr hwn sydd hoff gan fy enaid?

4Nid aethwn i nepell oddi wrthynt, hyd oni chefais yr hwn sydd hoff gan fy enaid: deliais ef, ac nis gollyngais, hyd oni ddygais ef i dŷ fy mam, ac i ystafell yr hon a’m hymddûg.

5Merched Jerwsalem, tynghedaf chwi trwy iyrchod ac ewigod y maes, na chyffrôch ac na ddeffrôch fy nghariad, hyd oni fynno ei hun.

6Pwy yw hon sydd yn dyfod i fyny o’r anialwch megis colofnau mwg, wedi ei pherarogli â myrr, ac â thus, ac â phob powdr yr apothecari?

7Wele ei wely ef, sef yr eiddo Solomon; y mae trigain o gedyrn o’i amgylch, sef o gedyrn Israel.

8Hwynt oll a ddaliant gleddyf, wedi eu dysgu i ryfel, pob un â’i gleddyf ar ei glun, rhag ofn liw nos.

9Gwnaeth y brenin Solomon iddo gerbyd o goed Libanus.

10Ei byst ef a wnaeth efe o arian, ei lawr o aur, ei lenni o borffor; ei ganol a balmantwyd â chariad, i ferched Jerwsalem.

11Ewch allan, merched Seion, ac edrychwch ar y brenin Solomon yn y goron â’r hon y coronodd ei fam ef yn ei ddydd dyweddi ef, ac yn nydd llawenydd ei galon ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help