Josua 4 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A Phan ddarfu i’r holl genedl fyned trwy’r Iorddonen, yr ARGLWYDD a lefarodd wrth Josua, gan ddywedyd,

2Cymerwch i chwi ddeuddengwr o’r bobl, un gŵr o bob llwyth;

3A gorchmynnwch iddynt, gan ddywedyd, Cymerwch i chwi oddi yma, o ganol yr Iorddonen, o’r fan y mae traed yr offeiriaid yn sefyll yn daclus, ddeuddeg o gerrig; a dygwch hwynt drosodd gyda chwi, a gosodwch hwynt yn y llety y lletyoch ynddo heno.

4Yna Josua a alwodd am y deuddengwr a baratoesai efe o feibion Israel, un gŵr o bob llwyth:

5A dywedodd Josua wrthynt, Ewch trosodd o flaen arch yr ARGLWYDD eich DUW, trwy ganol yr Iorddonen; a chodwch i chwi bob un ei garreg ar ei ysgwydd, yn ôl rhifedi llwythau meibion Israel:

6Fel y byddo hyn yn arwydd yn eich mysg chwi, pan ofynno eich meibion chwi yn ôl hyn, gan ddywedyd, Beth y mae y cerrig hyn yn ei arwyddocáu i chwi?

7Yna y dywedwch wrthynt, Dorri ymaith ddyfroedd yr Iorddonen o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD; pan oedd hi yn myned trwy ’r Iorddonen, dyfroedd yr Iorddonen a dorrwyd ymaith. Y mae’r cerrig hyn yn goffadwriaeth i feibion Israel byth.

8A meibion Israel a wnaethant felly fel y gorchmynasai Josua; ac a gymerasant ddeuddeg carreg o ganol yr Iorddonen, fel y llefarasai yr ARGLWYDD wrth Josua, yn ôl rhifedi llwythau meibion Israel, ac a’u dygasant drosodd gyda hwynt i’r llety ac a’u cyfleasant yno.

9A Josua a osododd i fyny ddeuddeg carreg yng nghanol yr Iorddonen, yn y lle yr oedd traed yr offeiriaid, oedd yn dwyn arch y cyfamod, yn sefyll: ac y maent yno hyd y dydd hwn.

10A’r offeiriaid, y rhai oedd yn dwyn yr arch, a safasant yng nghanol yr Iorddonen, nes gorffen pob peth a orchmynasai yr ARGLWYDD i Josua ei lefaru wrth y bobl, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Moses wrth Josua: a’r bobl a frysiasant, ac a aethant drosodd.

11A phan ddarfu i’r holl bobl fyned drosodd, yna arch yr ARGLWYDD a aeth drosodd, a’r offeiriaid, yng ngŵydd y bobl.

12Meibion Reuben hefyd, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasse, a aethant drosodd yn arfogion o flaen meibion Israel, fel y llefarasai Moses wrthynt:

13Ynghylch deugain mil, yn arfogion i ryfel, a aethant drosodd o flaen yr ARGLWYDD i ryfel, i rosydd Jericho.

14Y dwthwn hwnnw yr ARGLWYDD a fawrhaodd Josua yng ngolwg holl Israel; a hwy a’i hofnasant ef, fel yr ofnasant Moses, holl ddyddiau ei einioes.

15A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Josua, gan ddywedyd,

16Gorchymyn i’r offeiriaid, sydd yn dwyn arch y dystiolaeth, ddyfod ohonynt i fyny allan o’r Iorddonen.

17Am hynny Josua a orchmynnodd i’r offeiriaid, gan ddywedyd, Deuwch i fyny allan o’r Iorddonen.

18A phan ddaeth yr offeiriaid, oedd yn dwyn arch cyfamod yr ARGLWYDD, i fyny o ganol yr Iorddonen, a sengi o wadnau traed yr offeiriaid ar y sychdir; yna dyfroedd yr Iorddonen a ddychwelasant i’w lle, ac a aethant, megis cynt, dros ei holl geulennydd.

19A’r bobl a ddaethant i fyny o’r Iorddonen y degfed dydd o’r mis cyntaf; ac a wersyllasant yn Gilgal, yn eithaf tu dwyrain Jericho.

20A’r deuddeg carreg hynny, y rhai a ddygasent o’r Iorddonen, a sefydlodd Josua yn Gilgal.

21Ac efe a lefarodd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan ofynno eich meibion chwi yn ôl hyn i’w tadau, gan ddywedyd, Beth yw y cerrig hyn?

22Yna yr hysbyswch i’ch meibion, gan ddywedyd, Israel a ddaeth trwy’r Iorddonen hon ar dir sych.

23Canys yr ARGLWYDD eich DUW chwi a sychodd ddyfroedd yr Iorddonen o’ch blaen chwi, nes i chwi fyned drwodd; megis y gwnaeth yr ARGLWYDD eich DUW i’r môr coch, yr hwn a sychodd efe o’n blaen ni, nes i ni fyned drwodd:

24Fel yr adnabyddo holl bobloedd y ddaear law yr ARGLWYDD, mai nerthol yw; fel yr ofnoch yr ARGLWYDD eich DUW bob amser.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help