Y Salmau 99 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 99

1Yr ARGLWYDD sydd yn teyrnasu; cryned y bobloedd: eistedd y mae rhwng y ceriwbiaid; ymgynhyrfed y ddaear.

2Mawr yw yr ARGLWYDD yn Seion, a dyrchafedig yw efe goruwch yr holl bobloedd.

3Moliannant dy enw mawr ac ofnadwy; canys sanctaidd yw.

4A nerth y Brenin a hoffa farn: ti a sicrhei uniondeb, barn a chyfiawnder a wnei di yn Jacob.

5Dyrchefwch yr ARGLWYDD ein DUW, ac ymgrymwch o flaen ei ystôl draed ef: canys sanctaidd yw.

6Moses ac Aaron ymhlith ei offeiriaid ef; a Samuel ymysg y rhai a alwant ar ei enw: galwasant ar yr ARGLWYDD, ac efe a’u gwrandawodd hwynt.

7Llefarodd wrthynt yn y golofn gwmwl: cadwasant ei dystiolaethau, a’r ddeddf a roddodd efe iddynt.

8Gwrandewaist arnynt, O ARGLWYDD ein DUW: DUW oeddit yn eu harbed, ie, pan ddielit am eu dychmygion.

9Dyrchefwch yr ARGLWYDD ein DUW, ac ymgrymwch ar ei fynydd sanctaidd: canys sanctaidd yw yr ARGLWYDD ein DUW.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help