Exodus 3 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A Moses oedd yn bugeilio defaid Jethro ei chwegrwn, offeiriad Midian: ac efe a yrrodd y praidd o’r tu cefn i’r anialwch, ac a ddaeth i fynydd DUW, Horeb.

2Ac angel yr ARGLWYDD a ymddangosodd iddo mewn fflam dân o ganol perth: ac efe a edrychodd, ac wele y berth yn llosgi yn dân, a’r berth heb ei difa.

3A dywedodd Moses, Mi a droaf yn awr, ac a edrychaf ar y weledigaeth fawr hon, paham nad yw’r berth wedi llosgi.

4Pan welodd yr ARGLWYDD ei fod efe yn troi i edrych, DUW a alwodd arno o ganol y berth, ac a ddywedodd, Moses, Moses. A dywedodd yntau, Wele fi.

5Ac efe a ddywedodd, Na nesâ yma: diosg dy esgidiau oddi am dy draed; oherwydd y lle yr wyt ti yn sefyll arno sydd ddaear sanctaidd.

6Ac efe a ddywedodd, Myfi yw DUW dy dad, DUW Abraham, DUW Isaac, a DUW Jacob. A Moses a guddiodd ei wyneb; oblegid ofni yr ydoedd edrych ar DDUW.

7A dywedodd yr ARGLWYDD, Gan weled y gwelais gystudd fy mhobl sydd yn yr Aifft, a’u gwaedd o achos eu meistriaid gwaith a glywais; canys mi a wn oddi wrth eu doluriau.

8A mi a ddisgynnais i’w gwaredu hwy o law yr Eifftiaid, ac i’w dwyn o’r wlad honno i wlad dda a helaeth, i wlad yn llifeirio o laeth a mêl; i le y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Pheresiaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid.

9Ac yn awr wele, gwaedd meibion Israel a ddaeth ataf fi; a hefyd mi a welais y gorthrymder â’r hwn y gorthrymodd yr Eifftiaid hwynt.

10Tyred gan hynny yn awr, a mi a’th anfonaf at Pharo; fel y dygech fy mhobl, plant Israel, allan o’r Aifft.

11A dywedodd Moses wrth DDUW, Pwy ydwyf fi, fel yr awn i at Pharo, ac y dygwn blant Israel allan o’r Aifft?

12Dywedodd yntau, Diau y byddaf gyda thi; a hyn a fydd arwydd i ti, mai myfi a’th anfonodd: Wedi i ti ddwyn fy mhobl allan o’r Aifft, chwi a wasanaethwch DDUW ar y mynydd hwn.

13A dywedodd Moses wrth DDUW, Wele, pan ddelwyf fi at feibion Israel, a dywedyd wrthynt, DUW eich tadau a’m hanfonodd atoch; os dywedant wrthyf, Beth yw ei enw ef? beth a ddywedaf fi wrthynt?

14A DUW a ddywedodd wrth Moses, YDWYF YR HWN YDWYF: dywedodd hefyd, Fel hyn yr adroddi wrth feibion Israel; YDWYF a’m hanfonodd atoch.

15A DUW a ddywedodd drachefn wrth Moses, Fel hyn y dywedi wrth feibion Israel; ARGLWYDD DDUW eich tadau, DUW Abraham, DUW Isaac, a DUW Jacob, a’m hanfonodd atoch: dyma fy enw byth, a dyma fy nghoffadwriaeth o genhedlaeth i genhedlaeth.

16Dos a chynnull henuriaid Israel, a dywed wrthynt, ARGLWYDD DDUW eich tadau, DUW Abraham, Isaac, a Jacob, a ymddangosodd i mi, gan ddywedyd, Gan ymweled yr ymwelais â chwi, a gwelais yr hyn a wnaed i chwi yn yr Aifft.

17A dywedais, Mi a’ch dygaf chwi i fyny o adfyd yr Aifft, i wlad y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Pheresiaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid; i wlad yn llifeirio o laeth a mêl.

18A hwy a wrandawant ar dy lais; a thi a ddeui, ti a henuriaid Israel, at frenin yr Aifft, a dywedwch wrtho, ARGLWYDD DDUW yr Hebreaid a gyfarfu â ni; ac yn awr gad i ni fyned, atolwg, daith tri diwrnod i’r anialwch, fel yr aberthom i’r ARGLWYDD ein DUW.

19A mi a wn na edy brenin yr Aifft i chwi fyned, ond mewn llaw gadarn.

20Am hynny mi a estynnaf fy llaw, ac a drawaf yr Aifft â’m holl ryfeddodau, y rhai a wnaf yn ei chanol; ac wedi hynny efe a’ch gollwng chwi ymaith.

21A rhoddaf hawddgarwch i’r bobl hyn yng ngolwg yr Eifftiaid: a bydd, pan eloch, nad eloch yn waglaw;

22Ond pob gwraig a fenthycia gan ei chymdoges, a chan yr hon fyddo yn cytal â hi, ddodrefn arian, a dodrefn aur, a gwisgoedd: a chwi a’u gosodwch hwynt am eich meibion ac am eich merched; ac a ysbeiliwch yr Eifftiaid.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help