Deuteronomium 27 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Yna y gorchmynnodd Moses, gyda henuriaid Israel, i’r bobl, gan ddywedyd Cedwch yr holl orchmynion yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw.

2A bydded, yn y dydd yr elych dros yr Iorddonen i’r tir y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti, osod ohonot i ti gerrig mawrion, a chalcha hwynt â chalch.

3Ac ysgrifenna arnynt holl eiriau y gyfraith hon, pan elych drosodd, i fyned i’r tir y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti, sef tir yn llifeirio o laeth a mêl; megis ag y llefarodd ARGLWYDD DDUW dy dadau wrthyt.

4A phan eloch dros yr Iorddonen, gosodwch y cerrig hyn, yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw, ym mynydd Ebal, a chalcha hwynt â chalch.

5Ac adeilada yno allor i’r ARGLWYDD dy DDUW, sef allor gerrig: na chyfod arnynt arf haearn.

6A cherrig cyfain yr adeiledi allor yr ARGLWYDD dy DDUW; ac offryma arni boethoffrymau i’r ARGLWYDD dy DDUW.

7Offryma hefyd hedd-aberthau, a bwyta yno, a llawenycha gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW.

8Ac ysgrifenna ar y cerrig holl eiriau y gyfraith hon, yn eglur iawn.

9A llefarodd Moses a’r offeiriaid y Lefiaid wrth holl Israel, gan ddywedyd, Gwrando a chlyw, O Israel: Y dydd hwn y’th wnaethpwyd yn bobl i’r ARGLWYDD dy DDUW.

10Gwrando gan hynny ar lais yr ARGLWYDD dy DDUW, a gwna ei orchmynion ef a’i ddeddfau, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw.

11A gorchmynnodd Moses i’r bobl y dydd hwnnw, gan ddywedyd,

12Y rhai hyn a safant i fendithio y bobl ar fynydd Garisim, wedi eich myned dros yr Iorddonen: Simeon, a Lefi, a Jwda, ac Issachar, a Joseff, a Benjamin.

13A’r rhai hyn a safant i felltithio ar fynydd Ebal: Reuben, Gad, ac Aser, a Sabulon, Dan, a Nafftali.

14A’r Lefiaid a lefarant, ac a ddywedant wrth bob gŵr o Israel â llef uchel,

15Melltigedig yw y gŵr a wnêl ddelw gerfiedig neu doddedig, sef ffieidd-dra gan yr ARGLWYDD, gwaith dwylo crefftwr, ac a’i gosodo mewn lle dirgel. A’r holl bobl a atebant ac a ddywedant, Amen.

16Melltigedig yw yr hwn a ddirmygo ei dad neu ei fam. A dyweded yr holl bobl, Amen.

17Melltigedig yw yr hwn a symudo derfyn ei gymydog. A dyweded yr holl bobl, Amen.

18Melltigedig yw yr hwn a baro i’r dall gyfeiliorni allan o’r ffordd. A dyweded yr holl bobl, Amen.

19Melltigedig yw yr hwn a ŵyro farn y dieithr, yr amddifad, a’r weddw. A dyweded yr holl bobl, Amen.

20Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda gwraig ei dad; oherwydd datguddiodd odre ei dad. A dyweded yr holl bobl, Amen.

21Melltigedig yw yr hwn a orweddo gydag un anifail. A dyweded yr holl bobl, Amen.

22Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda’i chwaer, merch ei dad, neu ferch ei fam ef. A dyweded yr holl bobl, Amen.

23Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda’i chwegr. A dyweded yr holl bobl, Amen.

24Melltigedig yw yr hwn a drawo ei gymydog yn ddirgel. A dyweded yr holl bobl, Amen.

25Melltigedig yw yr hwn a gymero wobr, er dieneidio gwaed gwirion. A dyweded yr holl bobl, Amen.

26Melltigedig yw yr hwn ni pharhao yng ngeiriau y gyfraith hon, gan eu gwneuthur hwynt. A dyweded yr holl bobl, Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help