1Pa hyd, ARGLWYDD, y’m hanghofi? ai yn dragywydd? pa hyd y cuddi dy wyneb rhagof?
2Pa hyd y cymeraf gynghorion yn fy enaid, gan fod blinder beunydd yn fy nghalon? pa hyd y dyrchefir fy ngelyn arnaf?
3Edrych, a chlyw fi, O ARGLWYDD fy NUW: goleua fy llygaid, rhag i mi huno yn yr angau:
4Rhag dywedyd o’m gelyn, Gorchfygais ef; ac i’m gwrthwynebwyr lawenychu, os gogwyddaf.
5Minnau hefyd a ymddiriedais yn dy drugaredd di; fy nghalon a ymlawenycha yn dy iachawdwriaeth: canaf i’r ARGLWYDD, am iddo synio arnaf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
