Genesis 40 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A Darfu wedi’r pethau hynny, i drulliad brenin yr Aifft, a’r pobydd, bechu yn erbyn eu harglwydd, brenin yr Aifft.

2A Pharo a lidiodd wrth ei ddau swyddwr, sef wrth y pen-trulliad, a’r pen-pobydd:

3Ac a’u rhoddes hwynt mewn dalfa, yn nhŷ’r distain, sef yn y carchardy, y lle yr oedd Joseff yn rhwym.

4A’r distain a wnaeth Joseff yn olygwr arnynt hwy; ac efe a’u gwasanaethodd hwynt: a buont mewn dalfa dros amser.

5A breuddwydiasant freuddwyd ill dau, pob un ei freuddwyd ei hun yn yr un nos, pob un ar ôl dehongliad ei freuddwyd ei hun, trulliad a phobydd brenin yr Aifft, y rhai oedd yn rhwym yn y carchardy.

6A’r bore y daeth Joseff atynt, ac a edrychodd arnynt; ac wele hwynt yn athrist.

7Ac efe a ymofynnodd â swyddwyr Pharo, y rhai oedd gydag ef mewn dalfa yn nhŷ ei arglwydd, gan ddywedyd, Paham y mae eich wynebau yn ddrwg heddiw?

8A dywedasant wrtho, Breuddwydiasom freuddwyd, ac nid oes a’i dehonglo. A Joseff a ddywedodd wrthynt, Onid i DDUW y perthyn dehongli? mynegwch, atolwg, i mi.

9A’r pen-trulliad a fynegodd ei freuddwyd i Joseff; ac a ddywedodd wrtho, Yn fy mreuddwyd yr oeddwn, ac wele winwydden o’m blaen;

10Ac yn y winwydden yr oedd tair cainc: ac yr oedd hi megis yn blaen-darddu; ei blodeuyn a dorasai allan, ei grawnsypiau hi a ddug rawnwin aeddfed.

11Hefyd yr oedd cwpan Pharo yn fy llaw: a chymerais y grawnwin, a gwesgais hwynt i gwpan Pharo; a rhoddais y cwpan yn llaw Pharo.

12A Joseff a ddywedodd wrtho, Dyma ei ddehongliad ef. Tri diwrnod yw’r tair cainc.

13O fewn tri diwrnod eto Pharo a ddyrchafa dy ben di, ac a’th rydd di eilwaith yn dy le; a rhoddi gwpan Pharo yn ei law ef, fel y buost arferol yn y cyntaf, pan oeddit drulliad iddo.

14Eto cofia fi gyda thi, pan fo daioni i ti, a gwna, atolwg, â mi drugaredd, a chofia fi wrth Pharo, a dwg fi allan o’r tŷ hwn:

15Oblegid yn lladrad y’m lladratawyd o wlad yr Hebreaid; ac yma hefyd ni wneuthum ddim, fel y bwrient fi yng ngharchar.

16Pan welodd y pen-pobydd mai da oedd y dehongliad, efe a ddywedodd wrth Joseff, Minnau hefyd oeddwn yn fy mreuddwyd; ac wele, dri chawell rhwyd-dyllog ar fy mhen.

17Ac yn y cawell uchaf yr oedd peth o bob bwyd Pharo o waith pobydd; a’r ehediaid yn eu bwyta hwynt o’r cawell oddi ar fy mhen.

18A Joseff a atebodd ac a ddywedodd, Dyma ei ddehongliad ef. Tri diwrnod yw y tri chawell.

19O fewn tri diwrnod eto y cymer Pharo dy ben di oddi arnat, ac a’th groga di ar bren; a’r ehediaid a fwytânt dy gnawd di oddi amdanat.

20Ac ar y trydydd dydd yr oedd dydd genedigaeth Pharo: ac efe a wnaeth wledd i’w holl weision: ac efe a ddyrchafodd ben y pen-trulliad, a’r pen-pobydd ymysg ei weision.

21Ac a osododd y pen-trulliad eilwaith yn ei swydd; ac yntau a roddes y cwpan i law Pharo.

22A’r pen-pobydd a grogodd efe; fel y deonglasai Joseff iddynt hwy.

23Ond y pen-trulliad ni chofiodd Joseff, eithr anghofiodd ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help