1Am hynny y cosbwyd hwynt â’r cyffelyb, fel yr haeddent, ac y dialeddwyd hwynt â lliaws o anifeiliaid.
2Yn lle yr hwn ddialedd y gwnaethost ti ddaioni i’th bobl dy hun, i ba rai, i godi eu chwant hwynt, paratoaist soflieir yn ymborth o flas dieithr:
3Fel y byddai iddynt hwy, yn chwennych ymborth, ddigaru’r peth oedd anghenraid ei chwennych, oherwydd golwg anhawddgar yr anifeiliaid a anfonesid i’w mysg; ac y gwneid y rhai hyn, wedi eu bod dros ychydig ennyd mewn eisiau, yn gyfranogion o archwaeth newydd.
4Oblegid yr oedd yn rhaid i angen, yr hwn ni ellid ei ochel, ddyfod ar y rhai hynny a arferasant drahauster: eithr i’r rhai hyn, digon oedd yn unig ddangos pa fodd y rhoed dialedd ar eu gelynion.
5Canys pan ddaeth creulon lid bwystfilod ar y rhai hyn, a’u difetha hwynt â brathiadau seirff dolennog,
6Nid hyd y diwedd yr arhodd dy ddigofaint di: eithr i’w rhybuddio y blinwyd hwynt ychydig o ennyd, gan gael arwydd iachawdwriaeth, i beri iddynt feddwl am orchymyn dy gyfraith di;
7Oblegid yr hwn a drodd at yr arwydd hwnnw a iachawyd, nid gan yr hwn a welid, eithr gennyt ti, Iachawdwr pob peth.
8A thrwy hyn y gwnaethost ti i’n gelynion gredu mai tydi yw’r hwn sydd yn achub o bob drwg;
9Y rhai a laddodd brath locustiaid a chacwn; ac ni chaed meddyginiaeth iddynt: oblegid hwy a haeddent eu cosbi â’r cyfryw.
10Ond ni wnâi dannedd dreigiau gwenwynig niwed i’th blant di: oblegid dy drugaredd di a ddeuai yn erbyn hynny, ac a’u hiachâi hwynt.
11Canys i feddwl am dy ymadroddion di y brathwyd hwynt; a hwy yn ebrwydd a iachawyd, fel, heb syrthio mewn dwfn angof, y cofient yn wastad dy ddaioni di.
12Oblegid nid llysieuyn nac eli a’u hiachaodd hwynt, eithr dy air di, O Arglwydd, yr hwn sydd yn iacháu pob dim.
13Oherwydd y mae i ti feddiant ar einioes ac angau; ac yr ydwyt ti yn dwyn i waered hyd byrth uffern, ac yn dwyn i fyny drachefn.
14A dyn yn ei ddrygioni a ladd: a phan elo’r ysbryd allan, ni ddychwel efe; ac ni ddaw yn ei ôl yr enaid a gymerer i fyny.
15Eithr amhosibl yw dianc rhag dy law di.
16Oblegid annuwiolion, y rhai sydd yn gwadu eu bod yn dy adnabod di, a ffrewyllwyd o nerth dy fraich di, gan gael eu herlid â rhyfeddol law a chenllysg, ac â chafodau heb allu eu gochelyd; a hwy a ddifethwyd â thân.
17A’r hyn sy ryfeddaf, y tân oedd yn gweithio fwyfwy yn y dwfr, yr hwn sydd yn diffoddi pob peth: canys y mae’r byd yn ymladd dros y rhai cyfiawn.
18Canys weithiau fe fyddai lai y fflam, fel na losgai hi’r anifeiliaid a anfonesid yn erbyn y rhai annuwiol; eithr trwy weled, hwy a allent wybod eu hunain mai trwy farn Duw yr erlidid hwynt.
19Ac weithiau efe a losgai ymysg y dwfr, yn fwy nag y gallai tân, i ddifetha ffrwyth tir anghyfiawn.
20Yn lle hynny â bwyd angylion y porthaist ti dy bobl dy hun; a thi a ddanfonaist iddynt hwy fara parod o’r nefoedd yn ddi-boen, yr hwn a wasanaethai i bob hyfrydwch ac i bob archwaeth yn gymwys.
21Canys dy ymborth di oedd yn dangos dy felystra i’th blant, ac yn gwasanaethu chwant y bwytawr, ac yn ymdymheru wrth fodd pob un.
22Yr eira hefyd a’r iâ oedd yn dioddef y tân, ac heb doddi: fel y gallent hwy wybod mai’r tân, yr hwn oedd yn ffaglu yn y cenllysg, ac yn llewyrchu yn y glaw, oedd yn difetha ffrwyth y gelynion.
23Hwn hefyd, fel y câi y rhai cyfiawn eu cynnal, a ollyngodd ei allu dros gof.
24Oblegid y creadur, yr hwn sydd yn dy wasanaethu di, yr hwn a wnaethost bob peth, a anelir i beri cosbedigaeth ar yr anghyfiawn, ac a ddadanelir i wneuthur daioni i’r rhai a ymddiriedant ynot ti.
25Am hynny efe yna yn ymrithio i bob peth, a wasanaethai dy ras di, yr hwn sydd yn maethu pob peth wrth ewyllys y rhai anghenus:
26Fel y dysgo dy blant y rhai sydd hoff gennyt ti, O Arglwydd, nad cynnyrch ffrwyth sydd yn porthi dyn, eithr mai dy air di sydd yn cadw y rhai a gredant ynot.
27Oblegid y peth ni ddifethodd y tân, wedi ei dwymo ychydig gan belydr yr haul, a feiriolodd yn ebrwydd;
28Fel y byddai hysbys y dylid achub blaen yr haul i roddi diolch i ti, a gweddïo arnat ti ar doriad y dydd.
29Oblegid gobaith yr anniolchgar a dawdd ymaith fel llwydrew’r gaeaf, ac a red ymaith fel dwfr di-fudd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.