1Pan y’th ddygo yr ARGLWYDD dy DDUW i mewn i’r wlad yr ydwyt ti yn myned iddi i’w meddiannu, a gyrru ohono ymaith genhedloedd lawer o’th flaen di, yr Hethiaid, a’r Girgasiaid, a’r Amoriaid, a’r Canaaneaid, a’r Pheresiaid, a’r Hefiaid, a’r Jebusiaid, saith o genhedloedd lluosocach a chryfach na thydi;
2A rhoddi o’r ARGLWYDD dy DDUW hwynt o’th flaen di, a tharo ohonot ti hwynt: gan ddifrodi difroda hwynt; na wna gyfamod â hwynt, ac na thrugarha wrthynt.
3Nac ymgyfathracha chwaith â hwynt: na ddod dy ferch i’w fab ef, ac na chymer ei ferch ef i’th fab dithau.
4Canys efe a dry dy fab di oddi ar fy ôl i, fel y gwasanaethont dduwiau dieithr: felly yr ennyn llid yr ARGLWYDD i’ch erbyn chwi, ac a’th ddifetha di yn ebrwydd
5Ond fel hyn y gwnewch iddynt: Dinistriwch eu hallorau, a thorrwch eu colofnau hwynt; cwympwch hefyd eu llwynau, a llosgwch eu delwau cerfiedig hwy yn y tân.
6Canys pobl sanctaidd ydwyt ti i’r ARGLWYDD dy DDUW: yr ARGLWYDD dy DDUW a’th ddewisodd di i fod yn bobl unig iddo ei hun, o’r holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear.
7Nid am eich bod yn lluosocach na’r holl bobloedd, yr hoffodd yr ARGLWYDD chwi, ac y’ch dewisodd; oherwydd yr oeddech chwi yn anamlaf o’r holl bobloedd:
8Ond oherwydd caru o’r ARGLWYDD chwi, ac er mwyn cadw ohono ef y llw a dyngodd efe wrth eich tadau, y dug yr ARGLWYDD chwi allan â llaw gadarn, ac a’ch gwaredodd o dŷ y caethiwed, o law Pharo brenin yr Aifft.
9Gwybydd gan hynny mai yr ARGLWYDD dy DDUW sydd DDUW, sef y DUW ffyddlon, yn cadw cyfamod a thrugaredd â’r rhai a’i carant ef, ac a gadwant ei orchmynion, hyd fil o genedlaethau;
10Ac yn talu’r pwyth i’w gas, yn ei wyneb gan ei ddifetha ef: nid oeda efe i’w gas; yn ei wyneb y tâl efe iddo.
11Cadw gan hynny y gorchmynion, a’r deddfau, a’r barnedigaethau, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw, i’w gwneuthur.
12A bydd, o achos gwrando ohonoch ar y barnedigaethau hyn, a’u cadw, a’u gwneuthur hwynt; y ceidw yr ARGLWYDD dy DUW â thi y cyfamod, a’r drugaredd, a addawodd efe trwy lw i’th dadau di:
13Ac a’th gâr, ac a’th fendithia, ac a’th amlha di; ac a fendiga ffrwyth dy fru, a ffrwyth dy dir di, dy ŷd, a’th win, a’th olew, a chynnydd dy wartheg, a diadellau dy ddefaid, yn y tir y tyngodd efe wrth dy dadau, ar ei roddi i ti.
14Bendigedig fyddi uwchlaw yr holl bobloedd: ni bydd yn dy blith di un gwryw nac un fenyw yn anffrwythlon, nac ymhlith dy anifeiliaid di.
15Hefyd yr ARGLWYDD a dynn oddi wrthyt ti bob gwendid, ac ni esyd arnat ti yr un o glefydau drwg yr Aifft, y rhai a adwaenost: ond ar dy holl gaseion di y rhydd efe hwynt.
16Difetha gan hynny yr holl bobloedd y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn eu rhoddi i ti: nac arbeded dy lygad hwynt, ac na wasanaetha eu duwiau hwynt; oblegid magl i ti a fyddai hynny.
17Os dywedi yn dy galon, Lluosocach yw y cenhedloedd hyn na myfi; pa ddelw y gallaf eu gyrru hwynt ymaith?
18Nac ofna rhagddynt: gan gofio cofia yr hyn a wnaeth yr ARGLWYDD dy DDUW i Pharo, ac i’r holl Aifft:
19Y profedigaethau mawrion y rhai a welodd dy lygaid, a’r arwyddion, a’r rhyfeddodau, a’r llaw gadarn, a’r braich estynedig, â’r rhai y’th ddug yr ARGLWYDD dy DDUW allan: felly y gwna’r ARGLWYDD dy DDUW i’r holl bobloedd yr wyt ti yn eu hofni.
20A’r ARGLWYDD dy DDUW hefyd a ddenfyn gacwn yn eu plith hwynt, hyd oni ddarfyddo am y rhai gweddill, a’r rhai a ymguddiant rhagot ti.
21Nac ofna rhagddynt: oblegid yr ARGLWYDD dy DDUW sydd yn dy ganol di, yn DDUW mawr, ac ofnadwy.
22A’r ARGLWYDD dy DDUW a yrr ymaith y cenhedloedd hynny o’th flaen di, bob ychydig ac ychydig: ni elli eu difetha hwynt ar unwaith, rhag myned o fwystfilod y maes yn amlach na thydi.
23Ond yr ARGLWYDD dy DDUW a’u rhydd hwynt o’th flaen di, ac a’u cystuddia hwynt â chystudd dirfawr, nes eu difetha hwynt;
24Ac a rydd eu brenhinoedd hwynt yn dy law di, a thi a ddifethi eu henw hwynt oddi tan y nefoedd: ni saif gŵr yn dy wyneb di, nes difetha ohonot ti hwynt.
25Llosg ddelwau cerfiedig eu duwiau hwynt yn tân: na chwennych na’r arian na’r aur a fyddo arnynt, i’w cymryd i ti; rhag dy faglu ag ef: oblegid ffieidd-dra i’r ARGLWYDD dy DDUW ydyw.
26Na ddwg dithau ffieidd-dra i’th dŷ, fel y byddech ysgymunbeth megis yntau: gan ddirmygu dirmyga ef, a chan ffieiddio ffieiddia ef: oblegid ysgymunbeth yw efe.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.