I Esdras 5 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 5

1Wedi’r pethau hyn y detholwyd penaethiaid tai eu tadau, yn ôl eu llwythau, i fyned i fyny, â’u gwragedd, a’u meibion, a’u merched, a’u gweision, a’u morynion, a’u hanifeiliaid.

2A’r brenin Dareius a anfonodd fil o wŷr meirch gyda hwynt, i’w hebrwng yn ddiogel i Jerwsalem, ynghyd ag offer cerdd, tympanau, a phibellau.

3A’u holl frodyr hwynt oedd yn canu â hwynt. Felly y gwnaeth efe iddynt fyned i fyny gyda hwynt.

4A dyma enwau’r gwŷr a aethant i fyny yn ôl eu teuluoedd, wrth eu llwythau, yn ôl eu pennau-cenedl.

5Yr offeiriaid, meibion Phinees fab Aaron: Jesus mab Josedec, fab Saraias, a Joacim, mab Sorobabel, fab Salathiel, o dylwyth Dafydd, o genhedlaeth Phares, o lwyth Jwda;

6Yr hwn a lefarodd eiriau doethion wrth Dareius brenin y Persiaid, yn yr ail flwyddyn o’i deyrnasiad ef, ar y mis Nisan, hwnnw yw’r mis cyntaf.

7A dyma hwy o Jwda y rhai a ddaethant i fyny o gaethiwed y gaethglud, y rhai a gaethgludasai Nabuchodonosor brenin Babilon i Babilon.

8A hwy a ddychwelasant i Jerwsalem, ac i gyrrau eraill Jwda, pob un i’w ddinas ei hun, y rhai a ddaethent gyda Sorobabel, a Jesus, Nehemeias, Sachareias, a Resaias, Enenius, Mardocheus, Beelsarus, Asffarasus, Reelius, Roimus, a Baana, eu blaenoriaid hwynt.

9Eu rhifedi hwynt o’r genedl, a’u blaenoriaid: meibion Phoros, dwy fil a chant a deuddeg a thrigain; meibion Saffat, pedwar cant, a deuddeg a thrigain;

10Meibion Ares, saith gant, un ar bymtheg a deugain;

11Meibion Phaath-moab, dwy fil, wyth gant a deuddeg;

12Meibion Elam, mil, deucant, pedwar ar ddeg a deugain: meibion Sathi, naw cant, pump a deugain; meibion Corbe, saith gant a phump; meibion Bani, chwe chant ac wyth a deugain;

13Meibion Bebai, chwe chant, tri ar hugain; meibion Asgad, tair mil, dau cant a dau ar hugain;

14Meibion Adonicam, chwe chant, saith a thrigain; meibion Bagoi, dwy fil, chwech a thrigain; meibion Adin, pedwar cant, pedwar ar ddeg a deugain;

15Meibion Ateresias, deuddeg a phedwar ugain: meibion Ceilan ac Asetas, saith a thrigain; meibion Asuran, pedwar cant, deuddeg ar hugain;

16Meibion Ananeias, cant ac un; meibion Arom, deuddeg ar hugain; a meibion Bassa, tri chant, tri ar hugain; meibion Arsiffurith, cant a dau;

17Meibion Meterus, tair mil, a phump; meibion Bethlomon, cant a thri ar hugain;

18Hwynt-hwy o Netoffa, pymtheg a deugain; hwynt o Anathoth, cant, tri ar bymtheg a deugain; hwynt o Bethsamos, dau a deugain;

19Hwynt o Ciriathiarius, pump ar hugain; hwynt o Caffiras a Beroth, saith gant, tri a deugain; hwynt-hwy o Birath, saith gant;

20Hwynt o Chadias ac Ammidioi, pedwar cant, dau ar hugain; hwynt o Cyrama a Gabdes, chwe chant, un ar hugain;

21Hwynt o Michmas, cant, dau ar hugain; hwynt o Bethel, deuddeg a deugain; meibion Neffis, cant, deg a deugain a chwech;

22Meibion Calamolan ac Onus, saith gant, pump ar hugain; meibion Jerechus, dau cant, pump a deugain;

23Meibion Sanaa, tair mil, tri chant a deg ar hugain.

24Yr offeiriaid: meibion Jedu fab Jesus, ymhlith meibion Sanasib, naw cant, deuddeg a thrigain; meibion Meruth, mil, deuddeg a deugain;

25Meibion Pasur, mil, saith a deugain; meibion Harim, mil a deg a thrigain.

26Y Lefiaid: meibion Jesue, Cadmiel, Banuas, a Suias, pedwar ar ddeg a thrigain.

27Y meibion y rhai oedd gantorion sanctaidd: meibion Asaff, cant, wyth ar hugain.

28Y porthorion: meibion Salum, meibion Jatal, meibion Talmon, meibion Dacobi, meibion Teta, meibion Sami, y cwbl oedd gant, pedwar ar bymtheg ar hugain.

29Gweinidogion y deml: meibion Esau, meibion Asiffa, meibion Tabaoth, meibion Ceras, meibion Sud, meibion Phaleas, meibion Labana, meibion Hagaba,

30Meibion Accub, meibion Uta, meibion Cetab, meibion Agab, meibion Subai, meibion Anan, meibion Cathua, meibion Gedur,

31Meibion Raia, meibion Daisan, meibion Necoda, meibion Caseba, meibion Gasera, meibion Aseias, meibion Phinees, meibion Asara, meibion Bastai, meibion Asana, meibion Meunim, meibion Naffison, meibion Accub, meibion Acuffa, meibion Assur, meibion Pharacim, meibion Basaloth,

32Meibion Mehida, meibion Coutha, meibion Carea, meibion Barcus, meibion Aserar, meibion Thomoi, meibion Nasith, meibion Atiffa.

33Meibion gweision Salomon: meibion Soffereth, meibion Pharada, meibion Joëli, meibion Loson, meibion Isdael, meibion Saffeth,

34Meibion Agia, meibion Phacareth, meibion Sabie, meibion Saroffie, meibion Maseias, meibion Gar, meibion Adus, meibion Suba, meibion Afferra, meibion Barodis, meibion Sabat, meibion Alom.

35Holl weinidogion y deml, a meibion gweision Salomon, oedd dri chant a deuddeg a thrigain.

36Y rhai hyn a ddaethant i fyny o Thelmeleth a Thelharsa; Caralathar ac Aalar yn eu harwain hwynt.

37Ac ni fedrent hwy ddangos eu teuluoedd, na’u bonedd, pa fodd yr oeddynt o Israel: meibion Dalaias, meibion Tobeia, meibion Necodan, chwe chant, deuddeg a deugain.

38Ac o’r offeiriaid y rhai oedd yn offeiriadu, ac heb eu cael: meibion Hobaia, meibion Accos, meibion Adus, yr hwn a gymerasai iddo yn wraig Augia, un o ferched Berselus,

39Ac a alwyd ar ei enw ef: ac ysgrifen y genedl hon a geisiwyd ymysg yr achau, ond nis cafwyd; ac am hynny y gwaharddwyd iddynt offeiriadu.

40Canys Nehemeias ac Athareias a ddywedasant wrthynt na chaent hwy fod yn gyfranogion o’r pethau cysegredig, oni chyfodai archoffeiriad wedi ei wisgo ag addysg a gwirionedd.

41Felly hwynt oll o Israel, o’r rhai oeddynt ddeuddeng mlwydd a thros hynny, oeddynt o gyfrif yn ddeugain mil, heblaw gweision a morynion, dwy fil, tri chant a thri ugain.

42Eu gweision a’u llawforynion oeddynt saith mil, tri chant a saith a deugain: a’r cantorion a’r cantoresau, dau cant, pump a deugain.

43Pedwar cant a phymtheg ar hugain o gamelod, saith mil ac un ar bymtheg ar hugain o feirch, dau cant a phump a deugain o fulod, pum mil a phum cant a phump ar hugain o anifeiliaid arferol â’r iau.

44A rhai o’u llywiawdwyr hwynt yn ôl eu teuluoedd, pan ddaethant i deml Dduw yn Jerwsalem, a addunasant adeiladu y tŷ yn ei le ei hun, yn ôl eu gallu;

45A rhoddi i drysor y gwaith fil o bunnau o aur, a phum mil o bunnau o arian, a chant o wisgoedd offeiriaid.

46Felly yr offeiriaid a’r Lefiaid a’r bobl a drigasant yn Jerwsalem, ac yn y wlad; a’r cantorion, a’r porthorion, a holl Israel, yn eu pentrefydd.

47Ond pan ddaeth y seithfed mis, pan oedd pawb o feibion Israel ar yr eiddo ei hun, hwy a ymgasglasant i gyd o unfryd mewn lle amlwg, wrth y porth cyntaf, yr hwn sy tua’r dwyrain.

48Yna Jesus mab Josedec, a’i frodyr yr offeiriaid, a Sorobabel mab Salathiel a’i frodyr, gan godi i fyny, a baratoesant allor DUW Israel,

49I offrymu poethoffrymau arni, megis y mae yn sgrifenedig yn llyfr Moses gŵr Duw.

50Ac yno yr ymgasglodd yn eu herbyn hwynt rai o holl genhedloedd y wlad: ond hwynt-hwy a drefnasant yr allor yn ei chyfle, am fod holl genhedloedd y wlad yn elynion iddynt: a hwy a offrymasant ebyrth wrth yr amser, a phoethoffrymau i’r Arglwydd, fore a hwyr.

51Hwy a gadwasant hefyd ŵyl y pebyll, fel y mae yn orchmynedig yn y gyfraith; ac a offrymasant ebyrth beunydd, fel yr oedd yn ddyledus:

52Ac wedi hynny yr offrymau gwastadol, ac offrymau’r Sabothau, a’r newyddloerau, a’r holl wyliau sanctaidd.

53A’r rhai oll a’r a wnaethent adduned i Dduw, a ddechreuasant offrymu aberthau i Dduw, o’r dydd cyntaf o’r seithfed mis, er nad adeiladasid eto deml Dduw.

54A hwy a roddasant i’r seiri maen, ac i’r seiri pren, arian, a bwyd, a diod, yn llawen.

55A hwy a roddasant geir i’r Sidoniaid, ac i’r Tyriaid, i ddwyn cedrwydd o Libanus, y rhai a gludid yn gludeiriau i borthladd Jope, fel y gorchmynasid iddynt gan Cyrus frenin y Persiaid.

56Ac yn yr ail flwyddyn, ar yr ail mis, ar ôl ei ddyfod i deml Dduw yn Jerwsalem, y dechreuodd Sorobabel mab Salathiel, a Jesus mab Josedec, a’u brodyr, a’r offeiriaid, a’r Lefiaid, a’r holl rai a’r a ddaethent i Jerwsalem allan o gaethiwed Babilon:

57A hwy a sylfaenasant dŷ Dduw ar y dydd cyntaf o’r ail mis, yn yr ail flwyddyn ar ôl eu dychwelyd i Jwdea a Jerwsalem.

58A hwy a osodasant y Lefiaid, y rhai oedd dros ugeinmlwydd oed, ar waith yr Arglwydd. A Jesus, a’i feibion, a’i frodyr, a Chadmiel ei frawd, a meibion Madiabun, gyda meibion Joda fab Eliadun, a’u meibion, a’u brodyr, i gyd yn Lefiaid, o unfryd a ddilynasant, gan wneuthur y gwaith yn nhŷ Dduw: felly y gweithwyr a adeiladasant deml yr Arglwydd.

59A’r offeiriaid a safasant wedi eu gwisgo yn eu gwisgoedd, ag offer cerdd, ac ag utgyrn, a’r Lefiaid meibion Asaff â symbalau,

60Yn canu, ac yn moliannu’r Arglwydd, fel yr ordeiniasai Dafydd brenin Israel.

61A hwy a ganasant ganiadau yn llafar er moliant i’r Arglwydd; oherwydd bod ei drugaredd a’i ogoniant yn dragywydd yn holl Israel.

62Yna’r holl bobl a leisiasant mewn utgyrn, ac a waeddasant â llef uchel, gan gydfoliannu’r Arglwydd am godi i fyny dŷ’r Arglwydd.

63Rhai hefyd o’r offeiriaid, a’r Lefiaid, a’r penaethiaid, yr henuriaid, y rhai a welsent y tŷ cyntaf, a ddaethant at adeiladaeth hwn, trwy wylofain a nâd fawr.

64Llawer hefyd ag utgyrn ac â llawenydd mawr a waeddasant â llef uchel,

65Fel na ellid clywed yr utgyrn gan nâd y bobl: eto yr oedd y dyrfa yn fawr, yn lleisio mewn utgyrn, fel y clywid ymhell.

66Am hynny, pan glybu gelynion llwyth Jwda a Benjamin hynny, hwy a ddaethant i gael gwybod beth yr oedd sain yr utgyrn yn ei arwyddocáu.

67Yna y gwybuant mai y rhai a ddaethai o’r caethiwed a adeiladent y deml i Arglwydd Dduw Israel.

68Am hynny hwy a aethant at Sorobabel a Jesus, ac at benaethiaid y teuluoedd, gan ddywedyd wrthynt, Ni a adeiladwn gyda chwi hefyd;

69Canys yr ydym ni yn ufuddhau i’ch Arglwydd chwi, fel yr ydych chwithau, ac yn aberthu iddo ef, er dyddiau Asbasareth brenin Asyria, yr hwn a’n dug ni yma.

70Yna Sorobabel, a Jesus, a phenaethiaid teuluoedd Israel, a ddywedasant wrthynt, Ni pherthyn i chwi ac i ni gydadeiladu tŷ i’r Arglwydd ein Duw ni.

71Nyni ein hunain a adeiladwn i Arglwydd Dduw Israel, fel y gorchmynnodd Cyrus brenin Persia i ni.

72Er hynny pobl y wlad, yn pwyso yn drwm ar y rhai oedd yn Jwdea, a rwystrasant iddynt adeiladu.

73A thrwy eu cynllwyn, a therfysgoedd, a denu pobl, hwy a luddiasant orffen yr adeiladaeth, tra fu’r brenin Cyrus yn fyw; felly y rhwystrwyd hwynt rhag adeiladu dros ysbaid dwy flynedd, hyd deyrnasiad Dareius.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help