1Ynghylch y cyfamser hwnnw y daeth Antiochus allan o wlad Persia yn waradwyddus;
2Canys pan ddaeth efe i Persepolis, efe a amcanodd ysbeilio’r deml, a dwyn dano y ddinas: ond y bobl a redasant yn gyffrous i’w hamddiffyn eu hun â’u harfau, ac a’i gyrasant ef i ffoi: felly Antiochus a yrrwyd i ffoi gan y preswylwyr, ac a ddychwelodd â chywilydd.
3A phan ddaeth efe i Ecbatana, dywedwyd iddo ef y pethau a wnaethid i Nicanor ac i Timotheus.
4Am hynny, wedi chwyddo gan lid, efe a feddyliodd ddial gwarth y rhai a’i gyrasai ef i ffoi, ar yr Iddewon: am hynny efe a barodd i’r hwn ydoedd bob amser yn gyrru ei gerbyd ef, brysuro a dibennu ei daith; canys barn Duw ydoedd yn ei annog ef: oherwydd efe a ddywedasai fel hyn yn ei falchedd, Myfi a wnaf Jerwsalem yn gladdfa gyffredin i’r Iddewon, pan ddelwyf yno.
5Ond yr Arglwydd hollalluog a Duw Israel a’i trawodd ef â dialedd difeddyginiaethol ac anweledig: canys er cynted ag y dywedasai efe y geiriau hyn, dolur yn ei berfedd a ddaeth arno, yr hwn nis gellid ei iacháu, a gofid aruthrol yn ei fol.
6Ac iawn oedd hynny: canys efe a boenasai berfedd gwŷr eraill ag amryw a dieithr boenau.
7Hwn hefyd ni pheidiai er hynny â’i uchelfryd, ond a lenwid yn fwy â balchedd, gan anadlu allan dân yn ei ddig yn erbyn yr Iddewon, a pheri prysuro ei daith: eithr digwyddodd syrthio ohono ef i lawr o’i gerbyd, yr hwn ydoedd yn rhedeg yn gyflym, a gwneuthur holl aelodau ei gorff ef yn chwilfriw gan y cwymp mawr hwnnw.
8Fel hyn efe, yr hwn a dybiai ychydig o’r blaen y gallai orchymyn tonnau’r môr, (cymaint oedd ei falchedd tu hwnt i ddyn,) a phwyso’r mynyddoedd uchel mewn clorian, a daflwyd ar y ddaear, ac a ddygwyd mewn elor feirch, gan fynegi i bawb amlwg allu Duw:
9Yn gymaint ag i bryfed heidio allan o gorff yr annuwiol hwnnw; a thra ydoedd efe eto yn fyw, ei gnawd a syrthiai i lawr gan boen a gofid, a’i holl lu a ymofidient oblegid ei ddrycsawr ef.
10Fel hyn nid oedd neb abl i aros i ddwyn yr hwn o’r blaen a dybiai y gallai gyrhaeddyd sêr y nefoedd, oblegid y drycsawr.
11Am hynny wedi ei glwyfo fel hyn, efe a ddechreuodd beidio â’i falchder mawr, a dyfod i’w adnabod ei hun trwy gurfa Duw, a’i ofid, yr hwn a chwanegid bob munudyn awr.
12A phan ni allodd efe aros ei sawr ei hun, efe a ddywedodd hyn, Iawn yw ymostwng i Dduw, ac i’r hwn sydd yn farwol na feddylio fod yn ogyfuwch â Duw.
13A’r dyn ysgeler hwn a weddïodd at yr Arglwydd, yr hwn ni chymerai drugaredd arno mwyach, gan ddywedyd,
14Y rhyddhâi efe y ddinas sanctaidd, i’r hon yr oedd efe yn prysuro i’w gwneuthur yn un â’r llawr, ac yn gladdfa;
15A hefyd y gwnâi efe yn ogyfuwch â’r Antiochiaid yr holl Iddewon yr oedd efe o’r blaen yn eu barnu yn annheilwng o gladdedigaeth, ond i’w taflu allan i’w llyncu gan adar a bwystfilod, ynghyd â’u plant;
16Ac yr harddai efe’r deml sanctaidd â rhoddion gwychion, yr hon o’r blaen a ddarfuasai iddo ei hysbeilio, ac y chwanegai efe y llestri sanctaidd, ac y rhoddai efe o’i ardreth ei hun yr holl gost a ydoedd yn perthyn i’r ebyrth;
17Ac am ben hyn hefyd y byddai efe ei hun yn Iddew, ac y rhodiai ym mhob lle cyfanheddol gan fynegi gallu Duw.
18Ond er hynny i gyd ni pheidiai ei ofidfawr boenau: canys fe ddaethai arno gyfiawn farn Duw. Gan anobeithio ei iechyd, efe a sgrifennodd at yr Iddewon y llythyrau sy’n canlyn, ac ynddynt y fath ddeisyfiad â hyn:
19I’r Iddewon daionus ei ddinaswyr, llawenydd, a iechyd, a llwyddiant, oddi wrth Antiochus y brenin a’r penllywydd.
20Os ydych chwi a’ch plant yn iach, ac os yw pob peth yn ôl eich dymuniant, mi a roddaf fawr ddiolch i Dduw, gan fod gennyf obaith yn y nef.
21Amdanaf fi, yr oeddwn i yn wan; oni bai hynny myfi a gofiaswn yn garedig eich parch a’ch ewyllys da: wrth ddychwelyd o wledydd Persia, wedi syrthio mewn clefyd mawr, mi a dybiais fod yn angenrheidiol i mi ofalu am gyffredin ddienbydrwydd pawb;
22Nid gan anobeithio o’m hiechyd, ond gan fod gennyf obaith mawr y dihangaf o’r clefyd hwn.
23Ond gan ystyrio hefyd ddarfod i’m tad yr amser yr arweiniodd lu i’r tueddau uchaf hyn ordeinio pwy a lywodraethai ar ei ôl;
24Fel o digwyddai dim amgen nag yr oedd yn gobeithio, neu os dywedid newyddion drwg yn y byd, na byddai i wŷr y wlad derfysgu, gan eu bod yn gwybod i bwy y rhoesid llywodraeth y materion hynny;
25Hefyd gan feddylio bod y pendefigion sy oddi amgylch, ac yn gymdogion i’m teyrnas, yn disgwyl amser, ac yn edrych pa beth a ddigwyddo; myfi a ordeiniais fy mab Antiochus yn frenin, yr hwn pan oeddwn yn myned i’r gwledydd uchaf hyn, a orchmynnais yn fynych i lawer ohonoch chwi, ac a sgrifennais ato ef y modd y mae yn canlyn, yr ysgrifen yma.
26Am hynny yr wyf yn eiriol arnoch chwi, ac yn deisyfu ar goffa ohonoch y cymwynasau a wneuthum i chwi yn amlwg ac yn ddirgel, a bod o bawb ohonoch yn wastad yn ffyddlon i mi ac i’m mab:
27Canys diau gennyf y ceidw efe yn gyfan ac yn ddihalog y cyngor a roddais iddo yn eich cylch chwi.
28Fel hyn y llofrudd a’r cablwr, wedi iddo oddef gofid lawer, megis ag y gwnaethai efe i eraill, a fu farw trwy farwolaeth flin mewn gwlad ddieithr.
29A Philip ei frawdmaeth ef a ddug ymaith ei gorff ef: yr hwn hefyd rhag ofn mab Antiochus a ffodd i’r Aifft at Ptolemeus Philometor.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.