Y Salmau 60 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 60I’r Pencerdd ar Susan-eduth, Michtam Dafydd, i ddysgu; pan ymladdodd yn erbyn Syriaid Mesopotamia, a Syriaid Soba, pan ddychwelodd Joab, a lladd deuddeng mil o’r Edomiaid yn nyffryn yr halen.

1O DDUW, bwriaist ni ymaith, gwasgeraist ni, a sorraist: dychwel atom drachefn.

2Gwnaethost i’r ddaear grynu, a holltaist hi: iachâ ei briwiau; canys y mae yn crynu.

3Dangosaist i’th bobl galedi: diodaist ni â gwin madrondod.

4Rhoddaist faner i’r rhai a’th ofnant, i’w dyrchafu oherwydd y gwirionedd. Sela.

5Fel y gwareder dy rai annwyl: achub â’th ddeheulaw, a gwrando fi.

6 DUW a lefarodd yn ei sancteiddrwydd, Llawenychaf: rhannaf Sichem, a mesuraf ddyffryn Succoth.

7Eiddof fi yw Gilead, ac eiddof fi Manasse: Effraim hefyd yw nerth fy mhen; Jwda yw fy neddfwr.

8Moab yw fy nghrochan golchi; dros Edom y bwriaf fy esgid: Philistia, ymorfoledda di o’m plegid i.

9Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn? pwy a’m harwain hyd yn Edom?

10Onid tydi, DDUW, yr hwn a’n bwriaist ymaith? a thydi, O DDUW, yr hwn nid ait allan gyda’n lluoedd?

11Moes i ni gynhorthwy rhag cyfyngder: canys ofer yw ymwared dyn.

12Yn NUW y gwnawn wroldeb: canys efe a sathr ein gelynion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help