1Y dwthwn hwnnw y darllenwyd yn llyfr Moses lle y clybu’r bobl; a chafwyd yn ysgrifenedig ynddo, na ddylai yr Ammoniad na’r Moabiad ddyfod i gynulleidfa DUW yn dragywydd;
2Am na chyfarfuasent â meibion Israel â bara ac â dwfr, eithr cyflogasent Balaam yn eu herbyn i’w melltithio hwynt: eto ein DUW ni a drodd y felltith yn fendith.
3A phan glywsant hwy y gyfraith, hwy a neilltuasant yr holl rai cymysg oddi wrth Israel.
4Ac o flaen hyn, Eliasib yr offeiriad, yr hwn a osodasid ar ystafell tŷ ein DUW ni, oedd gyfathrachwr i Tobeia:
5Ac efe a wnaeth iddo ef ystafell fawr; ac yno y byddent o’r blaen yn rhoddi y bwyd-offrymau, y thus, a’r llestri, a degwm yr ŷd, y gwin, a’r olew, a orchmynasid eu rhoddi i’r Lefiaid, a’r cantorion, a’r porthorion, ac offrymau yr offeiriaid.
6Ac yn hyn i gyd o amser ni bûm i yn Jerwsalem: canys yn y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain i Artacsercses brenin Babilon y deuthum i at y brenin, ac ymhen talm o ddyddiau y cefais gennad gan y brenin;
7Ac a ddeuthum i Jerwsalem, ac a ddeellais y drygioni a wnaethai Eliasib er Tobeia, gan wneuthur iddo ystafell yng nghynteddoedd tŷ DDUW.
8A bu ddrwg iawn gennyf; am hynny mi a fwriais holl ddodrefn tŷ Tobeia allan o’r ystafell.
9Erchais hefyd iddynt lanhau yr ystafelloedd: a mi a ddygais yno drachefn lestri tŷ DDUW, yr offrwm a’r thus.
10Gwybûm hefyd fod rhannau y Lefiaid heb eu rhoddi iddynt: canys ffoesai y Lefiaid a’r cantorion, y rhai oedd yn gwneuthur y gwaith, bob un i’w faes.
11Yna y dwrdiais y swyddogion, ac y dywedais, Paham y gwrthodwyd tŷ DDUW? A mi a’u cesglais hwynt ynghyd, ac a’u gosodais yn eu lle.
12Yna holl Jwda a ddygasant ddegwm yr ŷd, a’r gwin, a’r olew, i’r trysordai.
13A mi a wneuthum yn drysorwyr ar y trysorau, Selemeia yr offeiriad, a Sadoc yr ysgrifennydd, a Phedaia, o’r Lefiaid: a cherllaw iddynt hwy yr oedd Hanan mab Saccur, mab Mataneia: canys ffyddlon y cyfrifid hwynt, ac arnynt hwy yr oedd rhannu i’w brodyr.
14Cofia fi, fy NUW oherwydd hyn; ac na ddilea fy ngharedigrwydd a wneuthum i dŷ fy NUW, ac i’w wyliadwriaethau ef.
15Yn y dyddiau hynny y gwelais yn Jwda rai yn sengi gwinwryfau ar y Saboth, ac yn dwyn i mewn ysgubau ŷd, ac yn llwytho asynnod, gwin hefyd, a grawnwin, a ffigys, a phob beichiau, ac yn eu dwyn i Jerwsalem ar y dydd Saboth: a mi a dystiolaethais yn eu herbyn ar y dydd y gwerthasant luniaeth.
16Y Tyriaid hefyd oedd yn trigo ynddi, ac yn dwyn pysgod, a phob peth gwerthadwy, y rhai yr oeddynt hwy yn eu gwerthu ar y Saboth i feibion Jwda, ac yn Jerwsalem.
17Yna y dwrdiais bendefigion Jwda, ac y dywedais wrthynt, Pa beth drygionus yw hwn yr ydych chwi yn ei wneuthur, gan halogi’r dydd Saboth?
18Onid fel hyn y gwnaeth eich tadau chwi? ac oni ddug ein DUW ni yr holl ddrwg hyn arnom ni, ac ar y ddinas hon? a chwithau ydych yn ychwanegu digofaint ar Israel, trwy halogi’r Saboth.
19A phan dywyllasai pyrth Jerwsalem cyn y Saboth, yr erchais gau’r dorau, ac a orchmynnais nad agorid hwynt hyd wedi’r Saboth: a mi a osodais rai o’m gweision wrth y pyrth, fel na ddelai baich i mewn ar ddydd y Saboth.
20Felly y marchnadwyr, a gwerthwyr pob peth gwerthadwy, a letyasant o’r tu allan i Jerwsalem unwaith neu ddwy.
21A mi a dystiolaethais yn eu herbyn hwynt, ac a ddywedais wrthynt, Paham yr ydych chwi yn aros dros nos wrth y mur? os gwnewch eilwaith, mi a estynnaf fy llaw i’ch erbyn. O’r pryd hwnnw ni ddaethant ar y Saboth mwyach.
22A mi a ddywedais wrth y Lefiaid, am iddynt ymlanhau, a dyfod i gadw y pyrth, gan sancteiddio’r dydd Saboth. Am hyn hefyd cofia fi, fy NUW, ac arbed fi yn ôl lliaws dy drugaredd.
23Yn y dyddiau hynny hefyd y gwelais Iddewon a briodasent Asdodesau, Ammonesau, a Moabesau, yn wragedd iddynt:
24A’u plant hwy oedd yn llefaru y naill hanner o’r Asdodeg, ac heb fedru ymddiddan yn iaith yr Iddewon, ond yn ôl tafodiaith y ddeubar bobl.
25Yna yr ymrysonais â hwynt, ac y melltithiais hwynt; trewais hefyd rai ohonynt, ac a bliciais eu gwallt hwynt: a mi a’u tyngais hwynt trwy DDUW, gan ddywedyd, Na roddwch eich merched i’w meibion hwynt, ac na chymerwch o’u merched hwynt i’ch meibion, nac i chwi eich hunain.
26Onid o achos y rhai hyn y pechodd Solomon brenin Israel? er na bu brenin cyffelyb iddo ef ymysg cenhedloedd lawer, yr hwn oedd hoff gan ei DDUW, a DUW a’i gwnaeth ef yn frenin ar holl Israel; eto gwragedd dieithr a wnaethant iddo ef bechu.
27Ai arnoch chwi y gwrandawn, i wneuthur yr holl ddrygioni mawr hwn, gan droseddu yn erbyn ein DUW, trwy briodi gwragedd dieithr?
28Ac un o feibion Joiada, mab Eliasib yr archoffeiriad, oedd ddaw i Sanbalat yr Horoniad: yr hwn a ymlidiais i oddi wrthyf.
29O fy NUW, cofia hwynt, am iddynt halogi’r offeiriadaeth, a chyfamod yr offeiriadaeth, a’r Lefiaid.
30Yna y glanheais hwynt oddi wrth bob estron; gosodais hefyd oruchwyliaethau i’r offeiriaid ac i’r Lefiaid, pob un yn ei waith;
31Ac at goed yr offrwm mewn amserau nodedig, ac at y blaenffrwythau. Cofia fi, O fy NUW, er daioni.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.