1Clywch hyn, chwi offeiriaid; gwrandewch, tŷ Israel; a thŷ y brenin, rhoddwch glust: canys y mae barn tuag atoch, am eich bod yn fagl ar Mispa, ac yn rhwyd wedi ei lledu ar Tabor.
2Y rhai a wyrant i ladd a ânt i’r dwfn, er i mi eu ceryddu hwynt oll.
3Myfi a adwaen Effraim, ac nid yw Israel guddiedig oddi wrthyf: canys yn awr ti, Effraim, a buteiniaist, ac Israel a halogwyd.
4Ni roddant eu gwaith ar droi at eu DUW; am fod ysbryd godineb o’u mewn, ac nid adnabuant yr ARGLWYDD.
5A balchder Israel a ddwg dystiolaeth yn ei wyneb: am hynny Israel ac Effraim a syrthiant yn eu hanwiredd; Jwda hefyd a syrth gyda hwynt.
6A’u defaid ac â’u gwartheg y deuant i geisio yr ARGLWYDD; ond nis cânt ef: ciliodd efe oddi wrthynt.
7Yn erbyn yr ARGLWYDD y buant anffyddlon: canys cenedlasant blant dieithr: mis bellach a’u difa hwynt ynghyd â’u rhannau.
8Cenwch y corn yn Gibea, yr utgorn yn Rama; bloeddiwch yn Beth-afen ar dy ôl di, Benjamin.
9Effraim fydd yn anrhaith yn nydd y cerydd: ymysg llwythau Israel y perais wybod yr hyn fydd yn sicr.
10Bu dywysogion Jwda fel symudwyr terfyn: am hynny y tywalltaf arnynt fy llid fel dwfr.
11Gorthrymwyd Effraim, drylliwyd ef mewn barn, am iddo yn ewyllysgar fyned ar ôl y gorchymyn.
12Am hynny y byddaf fel gwyfyn i Effraim, ac fel pydredd i dŷ Jwda.
13Pan welodd Effraim ei lesgedd, a Jwda ei archoll; yna yr aeth Effraim at yr Asyriad, ac a hebryngodd at frenin Jareb: eto ni allai efe eich meddyginiaethu, na’ch iacháu o’ch archoll.
14Canys mi a fyddaf i Effraim fel llew, ac i dŷ Jwda fel cenau llew: myfi a ysglyfaethaf, ac a af ymaith; dygaf ymaith, ac ni bydd a achubo.
15Af a dychwelaf i’m lle, hyd oni chydnabyddont eu bai, a cheisio fy wyneb: pan fyddo adfyd arnynt, y’m boregeisiant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
