1 Corinthiaid 8 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Eithr am yr hyn a aberthwyd i eilunod, ni a wyddom fod gan bawb ohonom wybodaeth. Gwybodaeth sydd yn chwyddo, eithr cariad sydd yn adeiladu.

2Eithr os yw neb yn tybied ei fod yn gwybod dim, ni ŵyr efe eto ddim fel y dylai wybod.

3Ond od oes neb yn caru Duw, hwnnw a adwaenir ganddo ef.

4Am fwyta gan hynny o’r pethau a aberthir i eilunod, ni a wyddom nad yw eilun ddim yn y byd, ac nad oes un Duw arall ond un.

5Canys er bod rhai a elwir yn dduwiau, pa un bynnag ai yn y nef ai ar y ddaear, (megis y mae duwiau lawer, ac arglwyddi lawer,)

6Eithr i ni nid oes ond un Duw, y Tad, o’r hwn y mae pob peth, a ninnau ynddo ef; ac un Arglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn y mae pob peth, a ninnau trwyddo ef.

7Ond nid yw’r wybodaeth hon gan bawb: canys rhai, a chanddynt gydwybod o’r eilun hyd y pryd hyn, sydd yn bwyta fel peth a aberthwyd i eilunod; a’u cydwybod hwy, a hi yn wan, a halogir.

8Eithr nid yw bwyd yn ein gwneuthur ni yn gymeradwy gan Dduw: canys nid ydym, os bwytawn, yn helaethach; nac onis bwytawn, yn brinnach.

9Ond edrychwch rhag mewn un modd i’ch rhyddid hwn fod yn dramgwydd i’r rhai sydd weiniaid.

10Canys os gwêl neb dydi sydd â gwybodaeth gennyt, yn eistedd i fwyta yn nheml yr eilunod, oni chadarnheir ei gydwybod ef, ac yntau’n wan, i fwyta’r pethau a aberthwyd i eilunod;

11Ac a ddifethir y brawd gwan trwy dy wybodaeth di, dros yr hwn y bu Crist farw?

12A chan bechu felly yn erbyn y brodyr, a churo eu gwan gydwybod hwy, yr ydych chwi yn pechu yn erbyn Crist.

13Oherwydd paham, os yw bwyd yn rhwystro fy mrawd, ni fwytâf fi gig fyth, rhag i mi rwystro fy mrawd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help