Eseia 60 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Cyfod, llewyrcha; canys daeth dy oleuni, a chyfododd gogoniant yr ARGLWYDD arnat.

2Canys wele, tywyllwch a orchuddia y ddaear, a’r fagddu y bobloedd: ond arnat ti y cyfyd yr ARGLWYDD, a’i ogoniant a welir arnat.

3Cenhedloedd hefyd a rodiant at dy oleuni, a brenhinoedd at ddisgleirdeb dy gyfodiad.

4Cyfod dy lygaid oddi amgylch, ac edrych; ymgasglasant oll, daethant atat: dy feibion a ddeuant o bell, a’th ferched a fegir wrth dy ystlys.

5Yna y cei weled, ac yr ymddisgleiri; dy galon hefyd a ofna, ac a helaethir; am droi atat luosowgrwydd y môr, golud y cenhedloedd a ddaw i ti.

6Lliaws y camelod a’th orchuddiant, sef cyflym gamelod Midian ac Effa; hwynt oll o Seba a ddeuant; aur a thus a ddygant; a moliant yr ARGLWYDD a fynegant.

7Holl ddefaid Cedar a ymgasglant atat ti, hyrddod Nebaioth a’th wasanaethant: hwy a ddeuant i fyny yn gymeradwy ar fy allor, a mi a anrhydeddaf dŷ fy ngogoniant.

8Pwy yw y rhai hyn a ehedant fel cwmwl, ac fel colomennod i’w ffenestri?

9Yn ddiau yr ynysoedd a’m disgwyliant, a llongau Tarsis yn bennaf, i ddwyn dy feibion o bell, eu harian hefyd a’u haur gyda hwynt, i enw yr ARGLWYDD dy DDUW, ac i Sanct Israel, am iddo dy ogoneddu di.

10A meibion dieithr a adeiladant dy furiau, a’u brenhinoedd a’th wasanaethant; canys yn fy nig y’th drewais, ac o’m hewyllys da fy hun y tosturiais wrthyt.

11Am hynny dy byrth a fyddant yn agored yn wastad, ni chaeir hwynt na dydd na nos, i ddwyn atat olud y cenhedloedd, fel y dyger eu brenhinoedd hwynt hefyd.

12Canys y genedl a’r deyrnas ni’th wasanaetho di, a ddifethir; a’r cenhedloedd hynny a lwyr ddinistrir.

13Gogoniant Libanus a ddaw atat, y ffynidwydd, ffawydd, a bocs ynghyd, i harddu lle fy nghysegr; harddaf hefyd le fy nhraed.

14A meibion dy gystuddwyr a ddeuant atat yn ostyngedig: a’r rhai oll a’th ddiystyrasant a ymostyngant wrth wadnau dy draed, ac a’th alwant yn Ddinas yr ARGLWYDD, yn Seion Sanct Israel.

15Lle y buost yn wrthodedig, ac yn gas, ac heb gyniweirydd trwot, gwnaf di yn ardderchowgrwydd tragwyddol, ac yn llawenydd i’r holl genedlaethau.

16Sugni hefyd laeth y cenhedloedd, ie, bronnau brenhinoedd a sugni; a chei wybod mai myfi yr ARGLWYDD yw dy Achubydd, a’th Waredydd yw cadarn Dduw Jacob.

17Yn lle pres y dygaf aur, ac yn lle haearn y dygaf arian, ac yn lle coed, bres, ac yn lle cerrig, haearn; a gwnaf dy swyddogion yn heddychol, a’th drethwyr yn gyfiawn.

18Ni chlywir mwy sôn am drais yn dy wlad, na distryw na dinistr yn dy derfynau: eithr ti a elwi dy fagwyrydd yn Iachawdwriaeth, a’th byrth yn Foliant.

19Ni bydd yr haul i ti mwyach yn oleuni y dydd, a’r lleuad ni oleua yn llewyrch i ti: eithr yr ARGLWYDD fydd i ti yn oleuni tragwyddol, a’th DDUW yn ogoniant i ti.

20Ni fachluda dy haul mwyach, a’th leuad ni phalla: oherwydd yr ARGLWYDD fydd i ti yn oleuni tragwyddol, a dyddiau dy alar a ddarfyddant.

21Dy bobl hefyd fyddant gyfiawn oll: etifeddant y tir byth, sef blaguryn fy mhlanhigion, gwaith fy nwylo, fel y’m gogonedder.

22Y bychan a fydd yn fil, a’r gwael yn genedl gref. Myfi yr ARGLWYDD a brysuraf hynny yn ei amser.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help