Nahum 3 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Gwae ddinas y gwaed! llawn celwydd ac ysbail ydyw i gyd, a’r ysglyfaeth heb ymado.

2Bydd sŵn y ffrewyll, a sŵn cynnwrf olwynion, a’r march yn prancio, a’r cerbyd yn neidio.

3Y marchog sydd yn codi ei gleddyf gloyw, a’i ddisglair waywffon; lliaws o laddedigion, ac aneirif o gelanedd; a heb ddiwedd ar y cyrff: tripiant wrth eu cyrff hwynt:

4Oherwydd aml buteindra y butain deg, meistres swynion, yr hon a werth genhedloedd trwy ei phuteindra, a theuluoedd trwy ei swynion.

5Wele fi i’th erbyn, medd ARGLWYDD y lluoedd, a datguddiaf dy odre ar dy wyneb, a gwnaf i genhedloedd weled dy noethni, ac i deyrnasoedd dy warth.

6A thaflaf ffiaidd bethau arnat, a gwnaf di yn wael, a gosodaf di yn ddrych.

7A bydd i bawb a’th welo ffoi oddi wrthyt, a dywedyd, Anrheithiwyd Ninefe, pwy a gwyna iddi? O ba le y ceisiaf ddiddanwyr i ti?

8Ai gwell ydwyt na No dylwythog, yr hon a osodir rhwng yr afonydd, ac a amgylchir â dyfroedd, i’r hon y mae y môr yn rhagfur, a’i mur o’r môr?

9Ethiopia oedd ei chadernid, a’r Aifft, ac aneirif: Put a Lubim oedd yn gynhorthwy i ti.

10Er hynny hi a dducpwyd ymaith, hi a gaethgludwyd; a’i phlant bychain a ddrylliwyd ym mhen pob heol; ac am ei phendefigion y bwriasant goelbrennau, a’i holl wŷr mawr a rwymwyd mewn gefynnau.

11Tithau hefyd a feddwi; byddi guddiedig; ceisi hefyd gadernid rhag y gelyn.

12Dy holl amddiffynfeydd fyddant fel ffigyswydd a’u blaenffrwyth arnynt: os ysgydwir hwynt, syrthiant yn safn y bwytawr.

13Wele dy bobl yn wragedd yn dy ganol di: pyrth dy dir a agorir i’th elynion; tân a ysodd dy farrau.

14Tyn i ti ddwfr i’r gwarchae, cadarnha dy amddiffynfeydd; dos i’r dom, sathr y clai, cryfha yr odyn briddfaen.

15Yno y tân a’th ddifa, y cleddyf a’th dyr ymaith, efe a’th ysa di fel pryf y rhwd; ymluosoga fel pryf y rhwd, ymluosoga fel y ceiliog rhedyn.

16Amlheaist dy farchnadwyr rhagor sêr y nefoedd: difwynodd pryf y rhwd, ac ehedodd ymaith.

17Dy rai coronog sydd fel y locustiaid, a’th dywysogion fel y ceiliogod rhedyn mawr, y rhai a wersyllant yn y caeau ar y dydd oerfelog, ond pan gyfodo yr haul, hwy a ehedant ymaith, ac ni adwaenir eu man lle y maent.

18Dy fugeiliaid, brenin Asyria, a hepiant; a’th bendefigion a orweddant; gwasgerir dy bobl ar y mynyddoedd, ac ni bydd a’u casglo.

19Ni thynnir dy archoll ynghyd, clwyfus yw dy weli; pawb a glywo sôn amdanat a gurant eu dwylo arnat; oherwydd pwy nid aeth dy ddrygioni drosto bob amser?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help