1 Samuel 2 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A Hanna a weddïodd, ac a ddywedodd, Llawenychodd fy nghalon yn yr ARGLWYDD; fy nghorn a ddyrchafwyd yn yr ARGLWYDD: fy ngenau a ehangwyd ar fy ngelynion: canys llawenychais yn dy iachawdwriaeth di.

2Nid sanctaidd neb fel yr ARGLWYDD; canys nid dim hebot ti: ac nid oes graig megis ein DUW ni.

3Na chwanegwch lefaru yn uchel uchel; na ddeued allan ddim balch o’ch genau: canys DUW gwybodaeth yw yr ARGLWYDD, a’i amcanion ef a gyflawnir.

4Bwâu y cedyrn a dorrwyd, a’r gweiniaid a ymwregysasant â nerth.

5Y rhai digonol a ymgyflogasant er bara; a’r rhai newynog a beidiasant; hyd onid esgorodd yr amhlantadwy ar saith, a llesgáu yr aml ei meibion.

6Yr ARGLWYDD sydd yn marwhau, ac yn bywhau: efe sydd yn dwyn i waered i’r bedd, ac yn dwyn i fyny.

7Yr ARGLWYDD sydd yn tlodi, ac yn cyfoethogi; yn darostwng, ac yn dyrchafu.

8Efe sydd yn cyfodi’r tlawd o’r llwch, ac yn dyrchafu’r anghenus o’r tomennau, i’w gosod gyda thywysogion, ac i beri iddynt etifeddu teyrngadair gogoniant: canys eiddo yr ARGLWYDD colofnau y ddaear, ac efe a osododd y byd arnynt.

9Traed ei saint a geidw efe, a’r annuwiolion a ddistawant mewn tywyllwch: canys nid trwy nerth y gorchfyga gŵr.

10Y rhai a ymrysonant â’r ARGLWYDD, a ddryllir: efe a darana yn eu herbyn hwynt o’r nefoedd: yr ARGLWYDD a farn derfynau y ddaear; ac a ddyry nerth i’w frenin, ac a ddyrchafa gorn ei eneiniog.

11Ac Elcana a aeth i Rama i’w dŷ; a’r bachgen a fu weinidog i’r ARGLWYDD gerbron Eli yr offeiriad.

12A meibion Eli oedd feibion Belial: nid adwaenent yr ARGLWYDD.

13A defod yr offeiriad gyda’r bobl oedd, pan offrymai neb aberth, gwas yr offeiriad a ddeuai pan fyddai y cig yn berwi, â chigwain dridant yn ei law;

14Ac a’i trawai hi yn y badell, neu yn yr efyddyn, neu yn y crochan, neu yn y pair: yr hyn oll a gyfodai y gigwain, a gymerai yr offeiriad iddo. Felly y gwnaent yn Seilo i holl Israel y rhai oedd yn dyfod yno.

15Hefyd cyn arogl-losgi ohonynt y braster, y deuai gwas yr offeiriad hefyd, ac a ddywedai wrth y gŵr a fyddai yn aberthu, Dyro gig i’w rostio i’r offeiriad: canys ni fyn efe gennyt gig berw, ond amrwd.

16Ac os gŵr a ddywedai wrtho, Gan losgi llosgant yn awr y braster, ac yna cymer fel yr ewyllysio dy galon: yntau a ddywedai wrtho, Nage; yn awr y rhoddi ef: ac onid e, mi a’i cymeraf trwy gryfder.

17Am hynny pechod y llanciau oedd fawr iawn gerbron yr ARGLWYDD: canys ffieiddiodd dynion offrwm yr ARGLWYDD.

18A Samuel oedd yn gweini o flaen yr ARGLWYDD, yn fachgen, wedi ymwregysu ag effod liain.

19A’i fam a wnâi iddo fantell fechan, ac a’i dygai iddo o flwyddyn i flwyddyn, pan ddelai hi i fyny gyda’i gŵr i aberthu yr aberth blynyddol.

20Ac Eli a fendithiodd Elcana a’i wraig, ac a ddywedodd, Rhodded yr ARGLWYDD i ti had o’r wraig hon, am y dymuniad a ddymunodd gan yr ARGLWYDD. A hwy a aethant i’w mangre eu hun.

21A’r ARGLWYDD a ymwelodd â Hanna; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar dri o feibion, a dwy o ferched: a’r bachgen Samuel a gynyddodd gerbron yr ARGLWYDD.

22Ac Eli oedd hen iawn; ac efe a glybu yr hyn oll a wnaethai ei feibion ef i holl Israel, a’r modd y gorweddent gyda’r gwragedd oedd yn ymgasglu yn finteioedd wrth ddrws pabell y cyfarfod.

23Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Paham y gwnaethoch y pethau hyn? canys clywaf gan yr holl bobl hyn ddrygair i chwi.

24Nage, fy meibion: canys nid da y gair yr ydwyf fi yn ei glywed; eich bod chwi yn peri i bobl yr ARGLWYDD droseddu.

25Os gŵr a becha yn erbyn gŵr, y swyddogion a’i barnant ef: ond os yn erbyn yr ARGLWYDD y pecha gŵr, pwy a eiriol drosto ef? Ond ni wrandawsant ar lais eu tad, am y mynnai yr ARGLWYDD eu lladd hwynt.

26A’r bachgen Samuel a gynyddodd, ac a aeth yn dda gan DDUW, a dynion hefyd.

27A daeth gŵr i DDUW at Eli, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Onid gan ymddangos yr ymddangosais i dŷ dy dad, pan oeddynt yn yr Aifft yn nhŷ Pharo?

28Gan ei ddewis ef hefyd o holl lwythau Israel yn offeiriad i mi, i offrymu ar fy allor, i losgi arogl-darth, i wisgo effod ger fy mron? oni roddais hefyd i dŷ dy dad di holl ebyrth tanllyd meibion Israel?

29Paham y sethrwch chwi fy aberth a’m bwyd-offrwm, y rhai a orchmynnais yn fy nhrigfa, ac yr anrhydeddi dy feibion yn fwy na myfi, gan eich pesgi eich hunain â’r gorau o holl offrymau fy mhobl Israel?

30Am hynny medd ARGLWYDD DDUW Israel, Gan ddywedyd y dywedais, Dy dŷ di a thŷ dy dad a rodiant o’m blaen i byth: eithr yn awr medd yr ARGLWYDD, Pell fydd hynny oddi wrthyf fi; canys fy anrhydeddwyr a anrhydeddaf fi, a’m dirmygwyr a ddirmygir.

31Wele y dyddiau yn dyfod, pan dorrwyf dy fraich di, a braich tŷ dy dad, fel na byddo hen ŵr yn dy dŷ di.

32A thi a gei weled gelyn yn fy nhrigfa, yn yr hyn oll a wna DUW o ddaioni i Israel: ac ni bydd hen ŵr yn dy dŷ di byth.

33A’r gŵr o’r eiddot, yr hwn ni thorraf ymaith oddi wrth fy allor, fydd i beri i’th lygaid ballu, ac i beri i’th galon ofidio: a holl gynnyrch dy dŷ di a fyddant feirw yn wŷr.

34A hyn fydd i ti yn arwydd, yr hwn a ddaw ar dy ddau fab, ar Hoffni a Phinees: Yn yr un dydd y byddant feirw ill dau.

35A chyfodaf i mi offeiriad ffyddlon a wna yn ôl fy nghalon a’m meddwl; a mi a adeiladaf iddo ef dŷ sicr, ac efe a rodia gerbron fy eneiniog yn dragywydd.

36A bydd i bob un a adewir yn dy dŷ di ddyfod ac ymgrymu iddo ef am ddernyn o arian a thamaid o fara, a dywedyd, Gosod fi yn awr mewn rhyw offeiriadaeth, i gael bwyta tamaid o fara.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help