1A mynegwyd i Joab, Wele y brenin yn wylo, ac yn galaru am Absalom.
2A’r fuddugoliaeth a aeth y dwthwn hwnnw yn alar i’r holl bobl: canys clywodd y bobl y diwrnod hwnnw ddywedyd, dristáu o’r brenin am ei fab.
3A’r bobl a aethant yn lladradaidd y diwrnod hwnnw i mewn i’r ddinas, fel pobl a fyddai yn myned yn lladradaidd wedi eu cywilyddio wrth ffoi o ryfel.
4Ond y brenin a orchuddiodd ei wyneb; a’r brenin a waeddodd â llef uchel, O fy mab Absalom, Absalom, fy mab, fy mab!
5A Joab a ddaeth i mewn i’r tŷ at y brenin, ac a ddywedodd, Gwaradwyddaist heddiw wynebau dy holl weision, y rhai a amddiffynasant dy einioes di heddiw, ac einioes dy feibion a’th ferched, ac einioes dy wragedd, ac einioes dy ordderchwragedd;
6Gan garu dy gaseion, a chasáu dy garedigion: canys dangosaist heddiw nad oedd ddim gennyt dy dywysogion, na’th weision: oherwydd mi a wn heddiw, pe Absalom fuasai byw, a ninnau i gyd yn feirw heddiw, mai da fuasai hynny yn dy olwg di.
7Cyfod yn awr gan hynny, cerdda allan, a dywed yn deg wrth dy weision: canys yr wyf fi yn tyngu i’r ARGLWYDD, os ti nid ei allan, nad erys neb gyda thi y nos hon; a gwaeth fydd hyn i ti na’r holl ddrwg a ddaeth i’th erbyn di o’th febyd hyd yr awr hon.
8Yna y brenin a gyfododd, ac a eisteddodd yn y porth. A mynegwyd i’r holl bobl, gan ddywedyd, Wele y brenin yn eistedd yn y porth. A’r holl bobl a ddaethant o flaen y brenin: canys Israel a ffoesai bob un i’w babell.
9Ac yr oedd yr holl bobl yn ymryson trwy holl lwythau Israel, gan ddywedyd, Y brenin a’n gwaredodd ni o law ein gelynion, ac efe a’n gwaredodd ni o law y Philistiaid; ac yn awr efe a ffodd o’r wlad rhag Absalom.
10Ac Absalom, yr hwn a eneiniasom ni arnom, a fu farw mewn rhyfel: ac yn awr paham yr ydych heb sôn am gyrchu y brenin drachefn?
11A’r brenin Dafydd a anfonodd at Sadoc ac at Abiathar yr offeiriaid, gan ddywedyd, Lleferwch wrth henuriaid Jwda, gan ddywedyd, Paham yr ydych chwi olaf i ddwyn y brenin yn ei ôl i’w dŷ? canys gair holl Israel a ddaeth at y brenin, hyd ei dŷ.
12Fy mrodyr ydych chwi; fy asgwrn a’m cnawd ydych chwi: paham gan hynny yr ydych yn olaf i ddwyn y brenin adref?
13Dywedwch hefyd wrth Amasa, Onid fy asgwrn i a’m cnawd wyt ti? Fel hyn y gwnelo DUW i mi, ac fel hyn y chwanego, onid tywysog y llu fyddi di ger fy mron i yn lle Joab byth.
14Ac efe a drodd galon holl wŷr Jwda, fel calon un gŵr: a hwy a anfonasant at y brenin, gan ddywedyd, Dychwel di a’th holl weision.
15Felly y brenin a ddychwelodd, ac a ddaeth i’r Iorddonen. A Jwda a ddaeth i Gilgal, i fyned i gyfarfod â’r brenin, i ddwyn y brenin dros yr Iorddonen.
16A Simei mab Gera, mab Jemini, yr hwn oedd o Bahurim, a frysiodd, ac a ddaeth i waered gyda gwŷr Jwda, i gyfarfod â’r brenin Dafydd.
17A mil o wŷr o Benjamin oedd gydag ef; Siba hefyd gwas tŷ Saul, a’i bymtheng mab a’i ugain gwas gydag ef: a hwy a aethant dros yr Iorddonen o flaen y brenin.
18Ac ysgraff a aeth drosodd i ddwyn trwodd dylwyth y brenin, ac i wneuthur yr hyn fyddai da yn ei olwg ef. A Simei mab Gera a syrthiodd gerbron y brenin, pan ddaeth efe dros yr Iorddonen;
19Ac a ddywedodd wrth y brenin, Na ddanoded fy arglwydd i mi anwiredd, ac na chofia yr hyn a wnaeth dy was yn anwir y dydd yr aeth fy arglwydd frenin o Jerwsalem, i osod o’r brenin hynny at ei galon.
20Canys dy was sydd yn cydnabod bechu ohonof fi: ac wele, deuthum heddiw yn gyntaf o holl dŷ Joseff, i ddyfod i waered i gyfarfod â’m harglwydd frenin.
21Ac Abisai mab Serfia a atebodd, ac a ddywedodd, Ai oherwydd hyn ni roddir Simei i farwolaeth, am iddo felltithio eneiniog yr ARGLWYDD?
22A dywedodd Dafydd, Beth sydd i mi a wnelwyf â chwi, meibion Serfia, fel y byddech i mi yn wrthwynebwyr heddiw? a roddir i farwolaeth heddiw neb yn Israel? canys oni wn i, mai heddiw yr ydwyf fi yn frenin ar Israel?
23A’r brenin a ddywedodd wrth Simei, Ni byddi di farw: a’r brenin a dyngodd wrtho ef.
24Meffiboseth mab Saul hefyd a ddaeth i waered i gyfarfod â’r brenin; ac ni olchasai efe ei draed, ac ni thorasai ei farf, ac ni olchasai ei ddillad, er y dydd yr aethai’r brenin hyd y dydd y daeth efe drachefn mewn heddwch.
25A phan ddaeth efe i Jerwsalem i gyfarfod â’r brenin, yna y dywedodd y brenin wrtho ef, Paham nad aethost ti gyda mi, Meffiboseth?
26Ac efe a ddywedodd, Fy arglwydd frenin, fy ngwas a’m twyllodd i: canys dywedodd dy was, Cyfrwyaf i mi asyn, fel y marchogwyf arno, ac yr elwyf at y brenin; oherwydd cloff yw dy was.
27Ac efe a enllibiodd dy was wrth fy arglwydd frenin; ond fy arglwydd frenin sydd fel angel DUW: am hynny gwna yr hyn fyddo da yn dy olwg.
28Canys nid oedd holl dŷ fy nhad i ond dynion meirw gerbron fy arglwydd y brenin; eto tydi a osodaist dy was ymhlith y rhai oedd yn bwyta ar dy fwrdd dy hun: pa gyfiawnder gan hynny sydd i mi bellach i weiddi mwy ar y brenin?
29A’r brenin a ddywedodd wrtho, I ba beth yr adroddi dy faterion ymhellach? dywedais, Ti a Siba rhennwch y tir.
30A Meffiboseth a ddywedodd wrth y brenin, Ie, cymered efe y cwbl, gan ddyfod fy arglwydd frenin i’w dŷ mewn heddwch.
31A Barsilai y Gileadiad a ddaeth i waered o Rogelim, ac a aeth dros yr Iorddonen gyda’r brenin, i’w hebrwng ef dros yr Iorddonen.
32A Barsilai oedd hen iawn, yn fab pedwar ugain mlwydd: efe oedd yn darparu lluniaeth i’r brenin tra yr ydoedd efe ym Mahanaim; canys gŵr mawr iawn oedd efe.
33A’r brenin a ddywedodd wrth Barsilai, Tyred drosodd gyda mi, a mi a’th borthaf di gyda mi yn Jerwsalem.
34A Barsilai a ddywedodd wrth y brenin, Pa faint yw dyddiau blynyddoedd fy einioes i, fel yr elwn i fyny gyda’r brenin i Jerwsalem?
35Mab pedwar ugain mlwydd ydwyf fi heddiw: a wn i ragoriaeth rhwng da a drwg? a ddichon dy was di archwaethu yr hyn a fwytâf, neu yr hyn a yfaf? a glywaf fi bellach lais cerddorion a cherddoresau? paham gan hynny y bydd dy was mwyach yn faich ar fy arglwydd frenin?
36Dy was a â ychydig tu hwnt i’r Iorddonen gyda’r brenin: a phaham y talai y brenin i mi gyfryw daledigaeth?
37Gad, atolwg, i’th was ddychwelyd yn fy ôl, fel y byddwyf marw yn fy ninas fy hun, ac fel y’m cladder ym meddrod fy nhad a’m mam: ac wele, Chimham dy was, efe a â drosodd gyda’m harglwydd frenin, a gwna iddo yr hyn fyddo da yn dy olwg.
38A dywedodd y brenin, Chimham a â gyda mi, a mi a wnaf iddo ef yr hyn fyddo da yn dy olwg di: a pheth bynnag a erfyniech di arnaf fi, mi a’i gwnaf erot.
39A’r holl bobl a aethant dros yr Iorddonen. Y brenin hefyd a aeth drosodd: a’r brenin a gusanodd Barsilai, ac a’i bendithiodd ef; ac efe a ddychwelodd i’w fangre ei hun.
40Yna y brenin a aeth i Gilgal, a Chimham a aeth gydag ef. A holl bobl Jwda a hebryngasant y brenin, a hanner pobl Israel hefyd.
41Ac wele, holl wŷr Israel a ddaethant at y brenin, ac a ddywedasant wrth y brenin, Paham y lladrataodd ein brodyr ni, gwŷr Jwda, dydi, ac y dygasant y brenin a’i dylwyth dros yr Iorddonen, a holl wŷr Dafydd gydag ef?
42Ac atebodd holl wŷr Jwda i wŷr Israel, Oblegid câr agos yw y brenin i ni: paham gan hynny y digiasoch chwi am y peth hyn? a fwytasom ni ddim ar draul y brenin? neu a anrhegodd efe ni ag anrheg?
43A gwŷr Israel a atebasant wŷr Jwda, ac a ddywedasant, Deg rhan sydd i ni yn y brenin; hefyd y mae i ni yn Dafydd fwy nag i chwi: paham gan hynny y diystyraist fi? onid myfi a ddywedais yn gyntaf am gyrchu adref fy mrenin? Ac ymadrodd gwŷr Jwda oedd galetach nag ymadrodd gwŷr Israel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.