Job 7 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Onid oes amser terfynedig i ddyn ar y ddaear? onid yw ei ddyddiau ef megis dyddiau gwas cyflog?

2Megis y dyhea gwas am gysgod, ac y disgwyl cyflogddyn wobr ei waith:

3Felly y gwnaethpwyd i mi feddiannu misoedd o oferedd, a nosweithiau blinion a osodwyd i mi.

4Pan orweddwyf, y dywedaf, Pa bryd y codaf, ac yr ymedy y nos? canys caf ddigon o ymdroi hyd y cyfddydd.

5Fy nghnawd a wisgodd bryfed a thom priddlyd: fy nghroen a agennodd, ac a aeth yn ffiaidd.

6Fy nyddiau sydd gynt na gwennol gwehydd, ac a ddarfuant heb obaith.

7Cofia mai gwynt yw fy hoedl: ni wêl fy llygad ddaioni mwyach.

8Y llygad a’m gwelodd, ni’m gwêl mwyach: dy lygaid sydd arnaf, ac nid ydwyf.

9Fel y derfydd y cwmwl, ac yr â ymaith: felly yr hwn sydd yn disgyn i’r bedd, ni ddaw i fyny mwyach.

10Ni ddychwel mwy i’w dŷ: a’i le nid edwyn ef mwy.

11Gan hynny ni warafunaf i’m genau; mi a lefaraf yng nghyfyngdra fy ysbryd; myfi a gwynaf yn chwerwder fy enaid.

12Ai môr ydwyf, neu forfil, gan dy fod yn gosod cadwraeth arnaf?

13Pan ddywedwyf, Fy ngwely a’m cysura, fy ngorweddfa a esmwythâ fy nghwynfan;

14Yna y’m brawychi â breuddwydion, ac y’m dychryni â gweledigaethau:

15Am hynny y dewisai fy enaid ymdagu, a marwolaeth yn fwy na’m hoedl.

16Ffieiddiais einioes, ni fynnwn fyw byth: paid â mi, canys oferedd ydyw fy nyddiau.

17Pa beth ydyw dyn, pan fawrheit ef? a phan osodit dy feddwl arno?

18Ac ymweled ag ef bob bore, a’i brofi ar bob moment?

19Pa hyd y byddi heb gilio oddi wrthyf, ac na adewi fi yn llonydd tra llyncwyf fy mhoeryn?

20Myfi a bechais; beth a wnaf i ti, O geidwad dyn? paham y gosodaist fi yn nod i ti, fel yr ydwyf yn faich i mi fy hun?

21A phaham na faddeui fy nghamwedd, ac na fwri heibio fy anwiredd? canys yn awr yn y llwch y gorweddaf, a thi a’m ceisi yn fore, ond ni byddaf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help